BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Catrin Design

Catrin Design

Lansiwyd Catrin Design, sydd wedi'i leoli yn Wrecsam yn 2018 gan Catrin Ellis. Wedi graddio o Ysgol Celf a Dylunio Gogledd Cymru, Prifysgol Glyndŵr, mae Catrin yn ddylunydd graffeg a darlunydd amlddisgyblaethol.

Wedi mynychu nifer o weithdai busnes a gweithdai dechrau arni, a ddarparwyd gan wasanaeth Busnes Llywodraeth Cymru, penderfynodd Catrin fyndi amdani a chychwyn busnes ei hun.

Mae hi bellach yn rhedeg  Catrin Design o Hwb Menter  Busnes Cymru yn Wrecsam, ac yn cynhyrchu amrywiaeth o waith gwahanol megis brandio, graffeg a dylunio symudiad, yn ogystal â chynnig nifer o wasanaethau dylunio eraill gan gynnwys dylunio gwefannau, celf ddigidol, dylunio print a darluniadau.

Beth ddaru nhw

"Roeddwn yn bresennol yn y Clwb 5-9 yn Hwb Menter Wrecsam [Busnes Cymru] bob dydd Iau am 12 wythnos. Ar ôl i'r cynllun ddod i ben, sylweddolais fy mod eisiau gweithio i fi fy hun a chreu gwaith a oedd yn fy ngwneud i'n hapus.

Roedd staff yr Hwb yn gymorth mawr i mi ar ôl i mi adael fy swydd llawn amser a phenderfynu gweithio'n llawn amser ar fy liwt fy hun haf diwethaf".

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

#DimDifaru

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Beth sydd yn fy ngwneud i'n falch ofnadwy ydi cwblhau gwaith a'i drosglwyddo i gwsmer hapus!"

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes? Os ydynt, sut mae hyn wedi eu helpu

"Ydw, rwy'n siaradwr Cymraeg rhugl ac rwy'n credu fy mod yn gallu cyrraedd mwy o gwsmeriaid drwy gyfathrebu rhan o'm negeseuon hyrwyddol a marchnata drwy gyfrwng y Gymraeg."

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

“Dywedodd Catrin, aelod o'r Hwb Menter yn Wrecsam: "Rwyf wedi cymryd rhan mewn llawer o weithdai Busnes Cymru a ddarparwyd yn yr hwb. Rwy'n credu eu bod nhw i gyd wedi fy helpu mewn ffyrdd gwahanol. Yn benodol, credaf fod Clwb 5-9 Hwb Menter Wrecsam yn arbennig o fuddiol gan ei fod yn ymdrin â'r pethau sylfaenol rydych angen eu gwybod er mwyn dechrau eich busnes eich hun."

Cyngor Dda

Dyma awgrymiadau ardderchog Catrin ar gyfer unrhyw un arall sy’n dymuno dechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:

  • ewch amdani
  • gofynnwch Gwestiynau
  • manteisiwch ar y cyrsiau y mae Busnes Cymru yn eu cynnig

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.