BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Cwmni Addysg Rhyw

Cwmni Addysg Rhyw – Sex Education Company

Menter newydd i entrepreneuriaid o Ogledd Cymru sy’n darparu prosiectau a hyfforddiant mewn addysg rhyw a pherthnasoedd.

Sefydlwyd Cwmni Addysg Rhyw – Sex Education Company, wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, yn 2019 gan Melanie Gadd a Corrina Williams i ymgymryd â chyflawni contract GIG sylweddol, gan ddarparu addysg iechyd rhywiol a pherthnasoedd i oedolion ifanc agored i niwed. Fe wnaethant elwa o gymorth Busnes Cymru a chychwyn yn llwyddiannus yn 2019.

  • lansio cwmni dielw yn llwyddiannus
  • creu 2 swydd a sicrhau cytundebau
  • ymgysylltiad rhanddeiliaid

Cyflwyniad i fusnes

Lansiwyd Cwmni Addysg Rhyw – Sex Education Company ym mis Gorffennaf 2019 gan Melanie Gadd a Corrina Williams i ymgymryd ag ystod o raglenni datblygu a hyfforddiant ar iechyd rhywiol a pherthnasoedd yng Ngogledd Cymru.

Mae’r cwmni hefyd yn cyflwyno prosiect GIG sylweddol – Jiwsi, gan weithio gydag oedolion ifanc agored i niwed sydd mewn risg gynyddol o broblemau iechyd rhywiol, i ddarparu addysg rhyw arloesol mewn lleoliadau cymunedol.

Beth wnaeth i chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Sefydlwyd Cwmni Addysg Rhyw fel Menter Gymdeithasol gan Mel a Corrina, ynghyd â bwrdd bychan o gyfarwyddwyr gwirfoddol. Yn flaenorol, cyflogwyd Mel a Corrina gan yr elusen iechyd rhywiol, FPA, i gyflenwi Prosiect Jiwsi, prosiect wedi’i ariannu gan fwrdd iechyd lleol i ddarparu addysg rhyw a pherthnasoedd i grwpiau o oedolion ifanc agored i niwed ar gyfer gweithwyr proffesiynol o fewn ardal dalgylch Betsi Cadwaladr (BIPCB).

“Ym mis Mai 2019,  yn anffodus aeth FPA yn fethdalwyr, a diswyddwyd y ddwy ohonom, ynghyd â’r holl weithwyr eraill. Roeddem yn teimlo fod yna’n dal angen pendant am wasanaethau prosiect Jiwsi,  a daeth yn amlwg yn sgil sgwrs gyda’r cysylltiad cyllido yn BIPCB y byddai’r bwrdd iechyd yn dal i ystyried ariannu’r prosiect o dan ddarparwr arall. Gan hynny, fe benderfynon ni gychwyn cwmni dielw er mwyn ennill y contract i barhau i gynnig y gwasanaeth a thendro am waith yn y dyfodol. 

Roedd gan Mel, ar ôl rheoli prosiect Jiwsi am 16 mlynedd, grap rhagorol ar gyflenwi gwasanaeth a chyfoeth o wybodaeth yn y maes, tra’r oedd gen i brofiad helaeth o weithio gydag oedolion ifanc agored i niwed ac wedi cael dros 12 mis o brofiad yn cyflenwi prosiect Jiwsi. Fodd bynnag, nid oedd gan yr un ohonom unrhyw brofiad o agweddau gweinyddol sefydlu a rhedeg cwmni cyfyngedig.   

Pa heriau a wynebwyd gennych?

Roedd y broses sefydlu yn un heriol o ran bod yn gam am yn ôl braidd: er mwyn ennill contract a chyllid gan y bwrdd iechyd, roedd angen i fenter fod mewn grym er mwyn negodi. Fodd bynnag, er mwyn bwrw ymlaen â’r broses o gofrestru a sefydlu’r cwmni, roedd angen rhywfaint o sicrwydd arnom y byddai’r cyllid yn cael ei ddyfarnu! Roedd y bwrdd iechyd yn gefnogol yn hyn o beth ac yn cynnig sicrwydd cyn belled ag y bo modd y byddent yn fodlon dyrannu’r cyllid i’r fenter newydd, gan roi rhywfaint o gyngor ynghylch y math o fenter a fyddai’n gymwys i dendro ar gyfer y contract.    

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Mel a Corrina â Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i ddechrau trwy grŵp cymunedol lleol,  Partneriaeth Ogwen, pan aeth FPA, eu cyflogwr ar y pryd, yn fethdalwyr gan beri iddyn nhw golli eu swyddi.

Heb unrhyw brofiad busnes blaenorol, elwodd Mel a Corrina  o gefnogaeth Rheolwr Perthynas, Richard Fraser-Williams, a gydweithiodd â phartneriaid o Ganolfan Cydweithredol Cymru, i’w helpu i benderfynu ar y ffordd orau i gychwyn busnes, a allai ymgymryd â chyflawni contractau GIG.   

Darparodd Richard gyngor helaeth a chyfeirio’r ddwy at fecanweithiau cefnogi ychwanegol gan gynnwys cyfrifwyr a Hwb Menter ar gyfer cydweithrediad pellach ar gynnyrch a gwasanaethau newydd.

Deilliannau

  • lansio cwmni dielw yn llwyddiannus
  • sicrhau cytundebau bwrdd iechyd
  • creu 2 swydd
  • ymgysylltiad rhanddeiliaid i gyflenwi dechrau busnes llwyddiannus

Roedd Busnes Cymru, a Richard yn benodol, yn allweddol wrth i ni fynd ati i weithio allan yr hyn oedd angen ei wneud er mwyn rhoi’r cynllun ar waith a gwireddu ein breuddwyd. Daeth Richard i’n cyfarfod a rhoi cyngor cynhwysfawr i ni ynglŷn â’n hopsiynau, sut oedd trefniannau gwahanol gwmnïau yn gweithio a manteision ac anfanteision pob un.

Fe gynigiodd gyngor a sicrwydd bod hwn yn gysyniad cyraeddadwy, gan dorri’r broses i gamau realistig i’w cymryd. Fe gyflwynodd Richard ni i amryw o asiantaethau ac unigolion eraill a fyddai’n gallu helpu a rhoi cyngor, yn ogystal â rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau hyfforddi Busnes Cymru perthnasol. Trwy gydol y broses, roedd wrth law i ateb cwestiynau ac fe holai am ein cynnydd yn rheolaidd, oedd yn rhywbeth gwerthfawr iawn i ni o ystyried ein diffyg profiad cymharol. Roedd Richard bob amser yn hawdd siarad ag o, yn wybodus ac yn ymateb yn gyflym i’n hymholiadau.    

Yn ogystal â’r cymorth a gynigiwyd gan Richard, bu’r digwyddiadau dysgu a ddarparwyd gan Busnes Cymru yn hynod o fuddiol wrth ennill gwybodaeth a sgiliau i redeg y cwmni.  Elwodd y ddwy ohonom o fynychu’r gweithdy Trethi a Chadw Llyfrau, mynychodd Mel weithdy Tendro Uwch tra byddaf i’n mynychu cwrs Cyflwyniad i Dendro. 

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Cofrestrwyd Cwmni Addysg Rhyw – Sex Education Company gyda Thŷ’r Cwmnïau ddiwedd Gorffennaf 2019 ac enillodd gontract gan BIPCB i redeg Prosiect Jiwsi hyd at ddiwedd Rhagfyr 2019, ac mae’r bwrdd iechyd yn bositif ynglŷn ag ailgontractio bryd hynny. Yn ogystal ag anelu at ennill contract pellach i gyflenwi’r prosiect, rydym yn cynnig ymgynghoriaeth a phecynnau hyfforddi i sefydliadau nad ydynt yn dod o fewn meini prawf Jiwsi. Mae yna nifer o archebion ar y gweill yn ogystal â rhai cyfleoedd i weithio gyda phrifysgolion lleol.

Rydym hefyd yn bwriadu cyflogi un person arall, ar sail sesiynol yn y tymor byr, ond efallai y byddwn yn edrych ar gyflogi aelod o staff dan gontract ar ôl mis Rhagfyr os bydd cytundeb Jiwsi yn cael ei sicrhau unwaith eto. Yn y tymor hirach, hoffai’r cwmni allu tendro ar gyfer contractau hyfforddi eraill a gwaith perthnasol pan fydd cyfleoedd o’r fath yn codi a mynd ymlaen i gyflogi mwy o staff. Hoffem hefyd ddefnyddio enillion y cwmni i gynnig cyfleoedd hybu iechyd rhywiol a llesiant i’r gymuned leol.

Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.