BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

First Corporate Clothing

Cynllun newydd i leihau gwastraff a lansiwyd gan weithgynhyrchwr dillad gwaith yn ne Cymru yn arbed 500kg o hen wisgoedd rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae First Corporate Clothing yn ddarparwr dillad gwaith, wedi'i leoli ym Mhort Talbot, sy'n darparu gwisgoedd i staff, o stoc yn ogystal ag i ofynion unigryw cleientiaid. Ar ôl cael cymorth defnyddiol gan Gynghorydd Twf, cysylltodd y Rheolwr Cyffredinol Kirstee David â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i drafod ymhellach y cymorth sydd ar gael gyda ffocws ar gynaliadwyedd.

  • cyngor ynghylch tyfu'r busnes
  • cymorth AD a sgiliau
  • cyngor cynaliadwyedd ar gynllun newydd i leihau gwastraff yn ogystal â mesur effaith amgylcheddol a chymdeithasol y busnes

Cyflwyniad i'r busnes

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gweithgynhyrchu, mae First Corporate Clothing  sydd wedi'i leoli ym Mhort Talbot yn ddarparwr dillad corfforaethol a dillad gwaith. Mae'r busnes ymhlith rhai o'r gweithgynhyrchwyr prin sy'n cynhyrchu stoc yn eu ffatrïoedd eu hunain yn y DU, gyda nifer o'u ffabrigau'n cael eu melino'n benodol ar eu cyfer.

Mae First Corporate Clothing yn cyflenwi gwisg staff, o stoc yn ogystal ag ar gyfer contractau a wneir ar archeb ac yn arbenigo yn y broses weithgynhyrchu gyfan, o ddylunio, gweithgynhyrchu, logisteg a brandio i reoli cyfrifon yn llawn. Mae hyn wedi galluogi amseroedd cwblhau sydyn gan wneud y busnes yn endid blaenllaw yn y farchnad cyflenwyr gwisgoedd corfforaethol.

Pam fod cynaliadwyedd yn bwysig i'ch busnes?

Fel gweithgynhyrchwr yn y DU, rydym drwy natur yn fwy cynaliadwy na'n cystadleuwyr a lle bo'n bosibl, rydym yn defnyddio ffabrigau sydd wedi'u melino yn y DU. Mae bwlch yn y farchnad am wisgoedd gwaith sydd wedi'u gwneud yn gynaliadwy ac rydym yn sicrhau gwaith dro ar ôl tro oherwydd ein gallu i weithgynhyrchu yn y DU - rydym wedi llwyddo mewn archwiliad gan sawl Rheolwr Cynaliadwyedd.

Nid oes angen i'r dillad deithio miloedd o filltiroedd i'w danfon, ac mae hynny'n bwynt gwerthu enfawr. Mae gweithgynhyrchu yn y DU hefyd yn cefnogi'r economi leol ac yn cadw'r sector yn fyw. Mae gan dde Cymru hen hanes o gynhyrchu dillad ac er bod nifer o gwmnïau dros y blynyddoedd wedi symud eu gwaith gweithgynhyrchu dramor, rydym wedi aros yn gadarn ac wedi goresgyn cyfnodau economaidd anodd. Rydym yn gweld ymchwydd iach yn y galw am ddillad sydd wedi'u creu yn y DU, yn enwedig gyda Brexit ar y gorwel. Yn ogystal, rydym yn ailgylchu 75% o'n gwastraff ac nid oes dim gwastraff yn cyrraedd safleoedd tirlenwi. Rydym yn defnyddio ein stoc sydd wedi dod i ben mewn sawl ffordd: eu rhoi i'r digartref, i fanciau bwyd lleol, i grwpiau dramâu amatur ac i grŵp gwnïo lleol.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda dau fusnes arall i sefydlu menter gymdeithasol. Nod y prosiect yw sefydlu cyfleuster gweithgynhyrchu dillad yng Nglynebwy. Roedd gan yr ardal gyfoeth o ffatrïoedd hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl pan symudodd y cwmnïau eu gwaith gweithgynhyrchu dramor. Mae'r ardal yn gyfoethog o ran peirianyddion a thorwyr medrus, sy'n ddelfrydol i ni. Mae hwn yn brosiect a hyrwyddir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r newidiadau a wnaed i gontractau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy'n nodi y dylid gwneud o leiaf 10% o bryniannau gyda busnes yng Nghymru.

Pam wnaethoch chi fynd at wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru?

Roedd gan First Corporate Clothing berthynas faith â'n Cynghorydd Twf Jamie Reynolds, sydd wedi darparu cymorth recriwtio ers sawl blwyddyn. Daeth yn ôl mewn cysylltiad â ni i rannu'r amrywiaeth o wasanaethau cymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru. Pan wnes i gyfarfod â Jamie am y tro cyntaf i drafod pa mor bwysig yw cynaliadwyedd i ni a'r gwaith yr oeddem wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â'n hymrwymiad i'r amgylchedd, bu iddo ein rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwr Cynaliadwyedd Busnes Cymru, Iain Cox.

Rhoddodd Iain gyngor ar y busnes, ei gynaliadwyedd yn ogystal â pha ran y dylai First Corporate ei chwarae yn yr economi gylchol. Bu i ni ymuno â'r Addewid Twf Gwyrdd (Busnes Cymru) i ddechrau arni gydag ymrwymiad i leihau gwastraff, mesur a rheoli ein heffaith amgylcheddol a chymdeithasol drwy gyfrifo ein harbedion carbon. Dros y misoedd, bu i ni feddwl am syniad ar gyfer cynllun ailgylchu unigryw. Fel rhan o'r cynllun, roeddem am godi ymwybyddiaeth o wastraff tecstilau sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, yn enwedig yn y diwydiant gwisgoedd corfforaethol. Nid ydym ni, nag unrhyw rai o'n cystadleuwyr, yn hyrwyddo'n weithredol y weithred o gael gwared ar hen wisgoedd gwaith yn gyfrifol, ac nid oes gennym amheuaeth y byddai gweithwyr, ar y cyfan, yn rhoi eu hen wisgoedd yn y bin, pan mae gwisgoedd gwaith newydd yn cael eu cyflenwi.

Gwnaethom sefydlu gwasanaeth ailgylchu am ddim lle mae cyfleuster ailgylchu yn cael ei roi ar safle ein cwsmeriaid fel y gallai eu staff gael gwared ar hen wisgoedd gwaith yn gyfrifol. Gellid yna naill ai torri'r dillad yn ffelt a'u fflocio i'w hailgylchu, neu eu cludo dramor i'w defnyddio at eu dibenion gwreiddiol, gan gefnogi economi gylchol. Bu i ni ganfasio ein prif gwsmeriaid a hyd yn hyn rydym wedi casglu ac arbed 500kg o hen wisgoedd rhag mynd i safleoedd tirlenwi, gyda mwy o gwsmeriaid wedi ymuno. Rydym wedi profi rhai problemau cychwynnol wrth sefydlu'r cynllun mewn perthynas â dod o hyd i gwmni ailgylchu a fyddai fwyaf addas i'r prosiect. Mae cadw'r cynllun am ddim i annog cwsmeriaid i'w ddefnyddio yn allweddol, ond daw hyn â'i heriau gan fod angen i'r costau fod yn isel i'r cwmni ailgylchu hefyd.                 

Canlyniadau

  • cefnogaeth gyda thyfu'r busnes, credydau treth ymchwil a datblygu ac effeithlonrwydd costau yn y busnes, gan arwain at 15% o leihad mewn costau
  • cymorth AD a sgiliau
  • cyngor ar gynaliadwyedd yn cynnwys mesur a lleihau'r effaith carbon a lansio cynllun newydd i ailgylchu dillad

Mae'r cyswllt cychwynnol â Jamie Reynolds wirioneddol wedi rhoi'r cyfle i ni ddeall natur y gwasanaethau a gynigir gan Busnes Cymru. Rydym wedi trafod cefnogaeth a chyllid ymchwil a datblygu, ac mae (cynghorydd AD) Amelia O'Sullivan wedi bod yn barod iawn i helpu gyda materion AD. Fel busnes bach, nid oes gennym Reolwr AD pwrpasol, ein Rheolwr Cyffredinol sy'n gyfrifol am y swyddogaeth hon a gyda 32 o aelodau tîm, mae gwybod y diweddaraf am bolisïau yn allweddol. Mae'r cyngor ar gontractau ac arfarniadau wedi bod yn rhagorol.

Mae Iain wedi bod yn gymorth arbennig dros y flwyddyn ddiwethaf, o ran rhannu gwybodaeth ynglŷn â'r Addewid Twf Gwyrdd a chynnig ei gyngor a gwybodaeth i'n cynorthwyo ni i wireddu ein cynllun ailgylchu. Rhoddodd i ni'r offer a'r gefnogaeth i fonitro a mesur yr effaith y bydd ein cynllun yn ei chael yn amgylcheddol a chymdeithasol.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Yn y tymor byr, hoffem gyflwyno'n llwyddiannus ein cynllun ailgylchu i gymaint o'n cwsmeriaid â phosibl gyda golwg ar ei wneud yn rhwymedigaeth gytundebol. Yn y tymor hir, hoffem weld hyn yn arfer arferol yn y diwydiant a gweld y busnes yn cael cydnabyddiaeth am osod y safon i bawb ei dilyn.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.