BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Flex Fitness

Flex Fitness

Hyfforddwr ffitrwydd o Ogledd Cymru yn gwireddu breuddwyd wrth iddi lansio ei busnes ffitrwydd ei hun.

Sefydlodd Sarah Holland-Curry ei busnes hyfforddi personol ei hun ym mis Awst 2019 yn Llandudno. Gyda phrofiad helaeth mewn hyfforddi cleientiaid, roedd angen cefnogaeth ar Sarah gydag agweddau o ddechrau busnes ac fe gysylltodd â gwasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru.

  • cymorth cynghorol i ddechrau busnes
  • lansiwyd y busnes yn llwyddiannus yn 2019
  • creu 2 swydd

Cyflwyniad i'r busnes

Mae Flex Fitness yn fusnes ffitrwydd a lles newydd sy'n gweithio allan o AT Studios yn Llandudno.  Mae'r busnes yn cynnig hyfforddiant personol, hyfforddiant grŵp bach ac ystod eang o ddosbarthiadau gan gynnwys y dosbarth 'Codwyr Bach' poblogaidd i blant, PiYo (dosbarth egni uchel sy'n defnyddio cyfuniad o symudiadau pilates ac ioga), hyfforddiant pwysau a Bocsio Hatton ar gyfer ffitrwydd, yn ogystal â hyfforddiant maeth a gwirio mesuriadau Bodymetrix ar gais.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Rwyf wastad wedi bod ag angerdd am iechyd a ffitrwydd, a dros y deng mlynedd diwethaf rwyf wedi ymgymryd â chymwysterau i'm cael i lefel hyfforddwr personol. Mae hyn yn golygu y gallaf estyn allan a helpu pobl i newid eu bywydau trwy wella eu hiechyd. Roeddwn wedi llwyddo i argyhoeddi fy hun i beidio 'rhoi cynnig arni' a gwireddu fy mreuddwydion, oherwydd fy mod yn ofni methu. Roeddwn i’n gweithio’n llawn amser fel Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid ac yn arwain dosbarthiadau ffitrwydd cyn neu ar ôl gwaith, a oedd yn cadw fy hoffter o ffitrwydd yn fyw yn y tymor byr. Fodd bynnag, yn sgil cyfarfod Lowri Roberts o Busnes Cymru, yn ogystal â derbyn anogaeth gan ambell berson arbennig yn fy mywyd, penderfynais gymryd y cam enfawr i hunangyflogaeth a bod yn gyfrifol am fy oriau a fy llif gwaith fy hun.

Os oes unrhyw un yn meddwl bod hunangyflogaeth yn hawdd, meddyliwch eto! Yn y dechrau un, chi sy’n gyfrifol am bopeth yn y busnes: marchnata, cyfrifon, glanhau, archebu, gweinyddu, yn ogystal â phrif dasgau a chyfrifoldebau eich gyrfa ddewisol.  Rhai dyddiau gall fod yn flinedig ond mae mor foddhaol pan sylweddolwch eich bod yn fos arnoch chi'ch hun ac yn atebol i chi'ch hun yn unig!

Maen nhw’n dweud mai’r ddwy flynedd gyntaf yw'r anoddaf a mwyaf blinedig, sy’n hollol wir, ond mae hefyd yn eithriadol o werth chweil gwybod fy mod i’n creu rhywbeth o'r dechrau i mi a’m teulu, tra’n helpu cymaint o bobl yn eu hymgais i wella eu hiechyd.

Pa heriau a wyneboch?

Er ei fod yn fusnes newydd, mae Flex Fitness wedi dod ar draws ambell her. Rwyf wedi gwneud rhai camgymeriadau ond mae’n siŵr bod hynny i’w ddisgwyl â minnau’n ddim ond meidrol! Wyddwn i ddim am farchnata (â dweud y gwir, dyma’r dasg fwyaf llafurus i mi, a’r un dwi’n dal i ymlafnio fwyaf â hi, er ei bod yn angenrheidiol iawn yn y diwydiant yr ydw i ynddo).

Tydw i ddim yn wych gyda ffigurau felly penderfynais ddefnyddio cyfrifydd i sicrhau fy mod i’n cadw fy llyfrau mewn trefn ar gyfer Cyllid a Thollau EM. Rwy'n credu'n gryf y dylech drefnu i gyflenwyr allanol wneud rhai tasgau lle bo angen, gan ddefnyddio gweithwyr proffesiynol, sy'n caniatáu mwy o amser imi ganolbwyntio ar y pethau rwy'n dda am eu gwneud.

Rhywbeth rwy’n credu fy mod i’n dda yn ei wneud yw gwrando ar frwydrau fy nghleientiaid a’u helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau i’w goresgyn. Yn hytrach na dweud wrthyn nhw beth rydw i'n meddwl y dylen nhw wneud, rydw i'n rhoi dewis a lle iddynt i ddod o hyd i'w ffordd eu hunain gyda fy nghefnogaeth sy'n arwain at well dewisiadau ar gyfer y tymor hir.

Fy nghynllun strategol i lwyddo yw parhau i chwarae ar fy nghryfderau a cheisio hyfforddiant trwy Busnes Cymru, cymorth taledig trwy bobl broffesiynol eraill a chyngor gan fy "newines garedig" busnes Lowri i helpu gyda’r pethau yr ydw i’n eu cael yn anodd, gan y gwn yn iawn fod angen cymorth ar bob busnes mewn rhyw faes neu’i gilydd. 

Cymorth Busnes Cymru

Daeth Busnes Cymru i’r adwy pan benderfynodd Sarah fentro o’r diwedd i hunangyflogaeth. Cafodd gymorth ei chynghorydd busnes, Lowri Roberts, gyda chyngor ar yr holl faterion cychwynnol gan gynnwys ymchwil i’r farchnad, GDPR, cyfrifon banc busnes, statws cyfreithiol i’r fenter newydd a marchnata.

Cafodd Sarah ei chyfeirio ymlaen gan Lowri at gysylltiadau perthnasol i’w helpu gyda’r lansiad a’i chynorthwyo gyda chynllunio busnes a rhagolygu ariannol, yn barod ar gyfer dechrau llwyddiannus i Flex Fitness ym mis Awst 2019.

Canlyniadau

  • cymorth ymgynghorol gyda phob agwedd ar ddechrau busnes
  • cyfeiriwyd at gysylltiadau perthnasol am arweiniad pellach
  • lansiwyd yn llwyddiannus ym mis Awst 2019
  • creu 2 swydd

Er bod sefydlu fy hun fel merch hunangyflogedig yn benderfyniad anodd, mae’n deimlad grymusol gwybod, hyd yn oed gyda’r materion Brexit cyfredol, fod yna gyfle o hyd i lwyddo fel busnes cychwynnol trwy fynd trwy’r sianeli cymorth cywir fel Busnes Cymru.

Fedra’i ddim canmol digon ar Lowri am y wybodaeth o ansawdd a ddarparwyd ganddi, gan annog sgyrsiau, rhoi fy meddwl busnes di-glem ar ben ffordd, ac yn anad dim am roi ei hun a’i merch yn fy nwylo medrus gyda’u hanghenion iechyd a ffitrwydd. Mae Lowri yn ddynes arbennig gyda natur ofalgar iawn – oni bai am ei chefnogaeth hi, go brin y buaswn i wedi penderfynu rhoi’r gorau i fy swydd 9-5 er mwyn byw’r bywyd rwy’n ei garu. Mae hi’n deall yr heriau y mae busnes newydd yn eu hwynebu gan fod ganddi brofiad personol o redeg busnesau llwyddiannus, ac mae hynny’n gwneud i mi ymddiried yn ei chyngor.

Tasg fawr gyntaf Lowri i mi oedd fy nghael i gytuno i sefyll ar fy nhraed mewn cynhadledd Merched mewn Chwaraeon a siarad amdana’i fy hun a fy nhaith trwy ffitrwydd. Roedd hon yn her enfawr ac yn gam mawr i mi gan nad ydw i erioed wedi siarad yn gyhoeddus ar y lefel yma o’r blaen (mi gollais sawl noson o gwsg, haha!). Wedi dweud hynny, roedd yn brofiad arbennig ac fe wnes rai cysylltiadau a chael cleientiaid gwych yn sgil gwthio trwy fy rhwystrau a mentro cymryd rhan yng nghynhadledd Menywod mewn Chwaraeon anhygoel Rhwydwaith She. Diolch o waelod calon Lowri, rwyt ti’n seren! 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Gan ei bod yn dal i fod yn ddyddiau cynnar iawn i Flex Fitness, mae gen i lawer o gynlluniau ar gyfer y dyfodol, ond er mwyn symud ymlaen a chael llwyddiant hirdymor, mae angen i mi sicrhau fy mod i’n adeiladu sylfaen gadarn a pheidio â thrio rhedeg cyn y medra’i gerdded (dwi wedi dysgu hynny’r ffordd galed yn barod!).

Mae ffitrwydd plant y tu allan i chwaraeon arferol yr ysgol yn faes y mae gen i ddiddordeb ynddo gan nad yw pob plentyn yn cael ei ysbrydoli gan bêl-droed neu bêl-rwyd felly mae hyfforddiant pwysau, bocsio a PiYo i blant yn rhywbeth rydw i'n awyddus i'w ddatblygu.  Un diwrnod, rwyf hefyd yn gobeithio bod yn berchen ar gampfa i adeiladu tŷ solet ar gyfer fy nheulu ffitrwydd cynyddol a'i agor i ddefnyddwyr anghenion arbennig gan greu cyfleuster ffitrwydd cynhwysol sy'n darparu ar gyfer anableddau amrywiol. Mae'r dyfodol i weld yn llewyrchus ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y daith. 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.