BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

FLOW Fitness

FLOW Fitness

 

Mae FLOW Fitness, sydd wedi’i leoli yn Hendy-gwyn ar Daf, yn darparu llu o weithgareddau ffitrwydd a dawnsio gyda rhaglenni allgymorth, yn ogystal ag amserlen lawn, dan un to yn Stiwdio 17. Cafodd y Stiwdio’i sefydlu gan Angharad James, artist dawns lleol a chydlynydd datblygu dawnsio ar gyfer Arts Care Gofal Celf.

Lansiwyd FLOW Fitness yn dilyn cynnydd mawr ym mhoblogrwydd dawnsio ac mae wedi ehangu i gynnwys elfen o ffitrwydd a dawnsio awyr, gan ddod â chyfleoedd gwych i’r gymuned, yn cynnwys dawnsiau cymunedol i blant, pobl ifanc ac oedolion, dawnsio ar eu heistedd i bawb, dawnsio ar eu heistedd i bobl ag anawsterau dysgu, dosbarthiadau dawnsio i bobl ag anableddau, Ymarfer Adlam – Funky Bounce, Swmba, STRONG, Dawnsio Awyr ar Lawr, Ioga Awyr, prosiect Dawnsio’r Haf a gweithgareddau hanner tymor.

Angharad yw’r prif rym y tu ôl i’r fenter a’r prif artist/hyfforddwr sy’n cyflwyno’r dosbarthiadau. Mae’n defnyddio hyfforddwyr llawrydd i gynnal sesiynau wythnosol er mwyn caniatáu amser ar gyfer datblygiadau pellach.

Beth ddaru nhw

“Dechreuais fel ymarferydd 8 mlynedd yn ôl, a thros y blynyddoedd rydw i wedi datblygu amrywiaeth o sgiliau sydd wedi galluogi’r gymuned i brofi rhaglenni ffitrwydd ac iechyd newydd, unigryw a chyfredol. Mae’r rhaglenni yma’n hygyrch, a dyna sydd mor arbennig – byddwch yn gweld rhai 4-80+ oed yn mynychu fy nosbarthiadau.

Y prosiect mwyaf cyfredol yw Dawnsio Awyr ar Lawr. Gan mai dyma un o’r enghreifftiau cyntaf ohono yn y DU, roedd yn risg enfawr, a chyda help Busnes Cymru ac eraill o’m cwmpas bu modd imi strwythuro’r lansiad gydag agwedd gadarnhaol. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol o’r cychwyn cyntaf.

Fe wnes yn siŵr fy mod wedi gwneud fy ngwaith ymchwil a theithio i Sbaen i brofi’r gweithgaredd cyn imi wneud penderfyniadau mawr. Prif bwrpas hyn oedd gwneud yn siŵr y byddai’n hygyrch i bawb, ac yn enwedig i ’nghwsmeriaid presennol sydd wedi bod yn gefn mawr imi ers blynyddoedd. Nid yn unig yr ydw i wedi denu’r selogion, ond rydw i hefyd wedi ennyn diddordeb llu o wynebau newydd, sydd wedi ymuno â rhai o’r gweithgareddau yr ydw i’n eu cynnig.

Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr fod diogelwch yn flaenoriaeth, felly fe wnes i ofyn i beiriannydd adeiladu gwych gynllunio’r rhaffau ac ati – dyna oedd y prif wariant, ond roedd yn rhan hanfodol o’r rhaglen. Gyda’i help ef, llwyddais i deimlo’n hyderus yn yr hyn yr oeddwn i ar fin ei wneud.

Mae Dawnsio Awyr ar Lawr wedi agor drysau, ac mae hyn wedi bod mor anhygoel. Ar hyn o bryd rydw i’n cynnal dosbarthiadau rheolaidd ac yn trefnu dosbarthiadau ‘hedfan’ ar gyfer diwrnodau meithrin tîm, yn ogystal â threfnu sesiynau preifat a phartïon i blant. Mae plant yr ardal yn aros yn amyneddgar inni greu prosiect ar eu cyfer! Mae’r ffaith fod gen i raffau ac ati hefyd wedi denu dawnswyr awyr eraill sy’n cynnig sesiynau ioga awyr, sgiliau syrcas a gweithgareddau medrus ac anhygoel o fath arall.

Rydw i hefyd yn cydweithio gydag Arts Care Gofal Celf i gyflwyno prosiectau fel Gŵyl y Gwanwyn (dros 50), Prosiectau Dawns Cymunedol, a gweithdai Theatr Hijinx a Gwyliau Dawns. Mae wedi cynnig ffordd unigryw, hygyrch a llawn hwyl i bobl o bob oed a gallu wneud ymarfer corff.” – Angharad Jones, Pennaeth FLOW Fitness yn Stiwdio 17.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

“Roeddwn i’n arfer rhannu’r stiwdio gyda busnes arall, ond fe chwalodd y berthynas oherwydd bod gennym nodau a disgwyliadau gwahanol i’n gilydd. Rydw i’n meddwl y buaswn yn ceisio credu mwy ynof fi fy hun a chymryd mwy o amser, gofyn mwy o gwestiynau a bod yn glir gydag eraill ynglŷn â’r hyn yr oeddwn i eisiau ei gyflawni.

O ran y prosiect ei hun, rydw i’n teimlo fy mod wedi cymryd fy amser ac wedi strwythuro pethau’n berffaith – ac mae’n ymddangos fod hyn wedi talu. Gyda help a chymorth gan Busnes Cymru ac eraill, rydw i’n teimlo fy mod wedi llwyddo i ddefnyddio’r cyngor, a’i fod wedi gweithio’n dda i mi.”

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

“Yn lwcus ddigon, rydw i’n gweithio gyda nifer o grwpiau o bob oed a gallu trwy gyfrwng Arts Care Gofal Celf, a hefyd trwy FLOW Fitness. Llwyddais i gysylltu â Mike Bushell, newyddiadurwr y BBC, a oedd yn awyddus iawn i weld Dawnsio Awyr ar Lawr ar waith. Mi es ati i ymgynnull plant, pobl ifanc, oedolion a chwmni theatr Hijinx, yr oeddwn i wedi gweithio gyda nhw’n rheolaidd, i fod yn rhan o hyn. Rydych yn sefyll yn ôl ac yn sylweddoli cymaint o bobl sy’n dod i gysylltiad â’r cyfleoedd sydd wedi’u creu, pa mor hygyrch ydyn nhw. Roedd hyn yn wirioneddol ryfeddol – gweld pawb dan yr un to, o bob oed a gallu, y naill yn helpu’r llall, yn cymryd rhan ac yn teimlo’r gorfoledd hwnnw sy’n dod trwy wneud yr un gweithgaredd – dyna’r peth yr ydw i’n ymfalchïo fwyaf ynddo!”

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes

“Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac rydw i’n cyflwyno rhai dosbarthiadau’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond yn y Saesneg y mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau’n cael eu cynnal, gyda sesiynau dwyieithog i’r genhedlaeth iau. Mae hyn wedi helpu i greu mwy o waith imi ac yn sicr mae’n gweithio’n dda yn y sesiynau dawns ar gyfer 4-16 oed.”

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Cafodd FLOW Fitness gymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar ffurf cymorth busnes cyffredinol a chymorth i ddod o hyd i gyllid. Bu Mark James, Cynghorydd Busnes, yn helpu Angharad gyda’i chynllun busnes a’i rhagolygon ariannol er mwyn asesu dichonoldeb, potensial marchnata a materion ariannol y fenter newydd.

Roedd hyn yn hanfodol i gais llwyddiannus Angharad am fenthyciad dechrau busnes o £7,000 i brynu offer campfa arbenigol o Unol Daleithiau America a sefydlu’i stiwdio ffitrwydd newydd yn Hendy-gwyn ar Daf.

Meddai Angharad: “Bu fy mhrofiad gyda Busnes Cymru’n gadarnhaol iawn. Cefais gymorth, anogaeth a help i gyflawni fy nodau. Roeddwn i’n teimlo’n hollol rydd i ofyn cwestiynau’n sôn am unrhyw beth a oedd yn anodd ei ddeall.

Mae Mark James fy nghynghorydd wedi bod ar ben arall y ffôn, a gwnaeth hynny imi deimlo’n gwbl dawel fy meddwl y gallwn ofyn am help unrhyw adeg i symud ymlaen yn gadarnhaol. Hefyd, roedd Mark yn credu yn fy mhrosiect, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Roeddwn i’n mwynhau mathemateg yn yr ysgol, ond doeddwn i ddim yn un o’r goreuon yn y dosbarth, felly yn sicr roedd cadw trefn ar rifau ac ati’n un o ’ngwendidau. Ond cefais help gan Mark i roi trefn ar y manylion ariannol, gan wneud popeth yn gwbl glir imi.”

Cyngor Dda

Dyma awgrymiadau ardderchog FLOW Fitness ar gyfer pwy bynnag sy’n dymuno dechrau neu dyfu ei fusnes ei hun:

  • gwnewch eich ymchwil
  • cymerwch eich amser
  • peidiwch â bod ofn tynnu sylw at yr hyn yr ydych yn ei werthu ar y cyfryngau cymdeithasol
  • cofiwch mai penderfynoldeb a gwaith caled sy’n gwneud ichi gyrraedd eich nod
  • cadwch eich traed ar y ddaear

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.