BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Gee Communications

Gee Communications

Cwmni o Gaerdydd yn sicrhau gwerth £2 miliwn o gontractau gyda chymorth Busnes Cymru.

Mae Gee Communications yn gyflenwr a gosodwr blaenllaw ar gyfer cysylltiadau ar reilffyrdd, ac oddi arnynt yng Nghymru a'r DU. Mynychodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Terry Gee, ddigwyddiad Cwrdd â'r Prynwr ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, a drefnwyd gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, ac ers hynny mae wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr busnes i sicrhau:

  • 10 o swyddi newydd
  • Cynnydd mewn trosiant o hanner miliwn ar ffigyrau'r llynedd
  • Gwerth dros £2 miliwn o gontractau newydd

Cyflwyniad i'r busnes

Mae Gee Communications Ltd o Gaerdydd, sy'n gweithredu ledled Cymru a'r DU yn siop un stop ar gyfer datrysiadau telathrebu. Mae'n cynnig ystod eang o wasanaethau, o ddylunio i osod, i gynnal a chadw a chymorth technegol.

Mae cwblhau sawl prosiect parhaus yn llwyddiannus wedi gweld nifer cleientiaid y cwmni yn ehangu'n sylweddol ers ei sefydlu.

Mae Gee Communications yn darparu gwaith telathrebu 'Ar Reilffyrdd' ac 'Oddi ar Reilffyrdd' ac maent yn osodwr NSI achrededig.

Pa amcanion aethoch chi ati i'w cyflawni i sicrhau twf eich busnes?

I ddechrau arni, cynhaliodd Chris Gee, ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a minnau adolygiad ar y cyd o'n nodau. Pan gawsom ein hymgorffori yn 2009, yr her gychwynnol oedd targedu telathrebu rheilffyrdd yn benodol fel elfen graidd o waith Gee Communications i'r dyfodol.

Ers ein ymgorfforiad 10 mlynedd yn ôl, rydym wedi esblygu i fod yn rhywbeth cryfach na chwmni telathrebu rheilffyrdd gan ddarparu ystod o ddisgyblaethau ar reilffyrdd, ac oddi arnynt, gan gynnwys gosodiadau trydanol, goleuo mewn meysydd parcio ac ar blatfformau, CCTV, cysylltedd di-wifr wedi'i amgryptio a thân a diogelwch, ymhlith eraill.

Yna, gwnaethom adolygu meysydd o'r busnes a oedd angen eu gwella a defnyddio ystod o offer i'w hasesu, e.e. dadansoddiad SWOT, meincnodi, ymchwil i'r farchnad a dadansoddiad cyfrifiadurol, sydd wedi ein helpu i aros ar y blaen i gystadleuwyr ac ennill achrediadau a thystysgrifau megis NICEIC a NSI.

Sut mae Busnes Cymru wedi eich helpu i sicrhau mwy o waith?

Mae ein perthynas â Busnes Cymru yn ei chamau cynnar, ond rydym eisoes wedi bod yn ddigon ffodus i gael eu cymorth gyda:

  • Sgiliau a Hyfforddiant - rydym eisoes wedi cyflogi tri o brentisiaid newydd, gyda'r nod o gynyddu'r ffigwr hwn dros y blynyddoedd nesaf.
  • Arddangosfeydd a Digwyddiadau - mae'r rhain yn werthfawr i fusnesau gan eu bod yn caniatáu cyfathrebu wyneb yn wyneb ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio.
  • Cysylltiadau Cyhoeddus - cawsom ein henwebu i gael ein cyfweld gan BBC Cymru o ganlyniad i'n cefnogaeth i brosiect Trafnidiaeth Cymru, fel rhan o'u dathliadau pen-blwydd cyntaf fel cwmni gweithredu trenau Cymru. Roedd Busnes Cymru yn help mawr wrth ddenu sylw golygwyr a darlledwyr y BBC.

Canlyniadau

Ers ymgysylltu â Busnes Cymru, mae Gee Communications wedi gallu sicrhau contractau telathrebu rheilffyrdd proffil uchel, gan gynnwys:

  • Trafnidiaeth Cymru (Cynnal a Chadw a Gosod)
  • Alun Griffiths (Gosod)
  • AMCO (Gosod)
  • Tân a Diogelwch (Gosod)

Dros y 12 mis diwethaf, mae'r busnes wedi sicrhau cynnydd mewn trosiant o £500,000 ar ffigyrau'r llynedd, ac mae wedi cyflogi 10 o weithwyr newydd, gan gynnwys staff tân a diogelwch, prentisiaid, cynorthwywyr gweinyddol a thelathrebu, yn ogystal â rheolwyr prosiect, gan gynyddu'r cyfanswm i 25.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Un o brif gynlluniau Gee Communications yw parhau i gael perthynas agos â Thrafnidiaeth Cymru. Ni hefyd yw'r un sy'n bennaf gyfrifol am gynnal a chadw eu gwasanaethau cyfathrebu adwerthu (CCTV, Systemau Gwybodaeth i Gwsmeriaid, Cyhoeddiadau Cyhoeddus, TVMs, etc.) ar gyfer eu holl orsafoedd rheilffordd drwy Gymru a Lloegr. Rydym yn gweld ein cwmni fel un a all gynorthwyo TfW ar eu taith i dyfu'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru.

Mae ein busnes bob amser wedi bod yn gefnogwr brwd i gadw ar y blaen i dechnoleg, a bydd yn parhau i wneud hynny. Gwneir hyn mewn dwy ffordd: tyfu'r sylfaen sgiliau yn fewnol ac edrych yn barhaus ar gyflogi pobl a all ychwanegu gwerth at ein dyfodol. Er enghraifft, mae gennym nifer o siaradwyr Cymraeg ac rydym yn awyddus i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ymhellach.

Rydym hefyd ar y trywydd i sicrhau achrediad ISO 9001 erbyn diwedd 2019.

Rydym wedi arallgyfeirio o'r cyffredin (rheilffyrdd) drwy gyflwyno ein Hadran Tân a Diogelwch, sy'n ein caniatáu i ymwneud â sefydliadau fel CThEM.

Ar hyn o bryd, rydym yn ymwneud â phrynu cerbydau hybrid/trydan, gyda chynlluniau i newid ein fflyd gyfan erbyn 2023.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.