BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Hilltop Honey

Hilltop Honey

Mae Hilltop Honey yn frand profiadol o fêl, pur, naturiol o'r safon uchaf, sydd wedi ennill gwobrau ac sydd ar gael mewn potiau hecsagonol y gellir eu hailgylchu, a photeli sy'n hawdd eu gwasgu - busnes wedi ei leoli yng nghalon Cymru, yn cyflenwi ac arloesi ar gyfer y sector mêl, gan ddarparu opsiwn naturiol ac iachach yn hytrach na siwgrau pur gyda'r bwriad o ddangos i brynwyr bwyd bod 'mwy i fêl'.

Mae cynnyrch mêl amrywiol Hilltop Honey wedi eu gwneud o fêl pur, naturiol, heb ychwanegu na thynnu unrhyw beth ohono. Mae pob cynnyrch unigol yn arbennig yn ei ffordd ei hun - o'r lliw i'r arogl a'r blas. Fe gychwynnon y busnes ar ôl i'r Perchennog a Sylfaenydd, Scott Davies ddarganfod ei ddiddordeb mewn cadw gwenyn fel dull o therapi yn dilyn anaf difrifol i'w gefn a oedd yn golygu nad oedd modd iddo ddychwelyd i'w waith o natur lafurus. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd wedi ei gyfareddu gan natur y gwenyn a'u hoff waith wrth greu neithdar aur bendigedig. Ar ôl ymchwilio'r farchnad gynyddol, penderfynodd greu ei frand ei hun o'r safon uchaf gyda gwedd ddeniadol iddo. Dechreuodd Scott greu mêl melfedaidd Hilltop Honey yn 2011.

Mae cynnrych Hilltop Honey bellach ar gael mewn archfarchnadoedd, siopau fferm a delis mwyaf blaenllaw'r DU. 

Pa heriau a phroblemau posibl yr oeddech chi'n eu hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd Brexit?

Er mwyn ymdopi â gofyn, mae Hilltop Honey yn mewnforio 95% o'i ddefnyddiau crai. Mae'r cwmni'n ddibynnol ar sefydlogrwydd maint elw gros ar ddefnyddiau crai. Mae'r maint elw hwn yn gyfrifol am gynnal y busnes, yn ogystal â phenderfynu ar y cytundebau y bydd y cwmni yn gallu eu trafod a'u cynnig.

Oherwydd bod mewnforio yn elfen mor amlwg o’r busnes, mae Hilltop Honey yn wynebu’r heriau canlynol yn sgil Brexit.

1.  Posibilrwydd o newid i dollau a thariffau.

2.  Amrywiaethau posib o fewn cyfraddau cyfnewid.

3.  Oedi posib o fewn tollau.

4.  Gostyngiad yn hyder y prynwr.

Byddai unrhyw gyfuniad o'r uchod yn cael effaith uniongyrchol ar faint elw gros y cwmni, a'i allu i weithredu’n gynaliadwy. Er mwyn medru ysgwyddo costau mewnbwn amrywiol, mae'n bosib y byddai'n rhaid i Hilltop Honey leihau'r nifer o staff cynhyrchu, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys 13 o weithwyr. Byddai costau mewnbwn uwch yn effeithio ar allu'r cwmni i gystadlu â busnesau llawer mwy hefyd. 

Eich rhesymau dros ymgeisio am y Grant Cydnerthedd Brexit: pa brosiectau fydd yn elwa o'r grant hwn a sut ydych chi'n credu y bydd y gronfa yn eich helpu i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil Brexit?

Byddai'r Grant Cydnerthedd Brexit yn ein galluogi ni i dderbyn cymorth technegol arbenigol fyddai'n ymwneud â mewnforio Mêl o Ewrop, gan liniaru oedi yn y tollau yn ogystal â'n galluogi i ddod o hyd i ddefnyddiau crai yn rhatach. Byddai'r grant hefyd yn ein galluogi i gynhyrchu cynnyrch o well ansawdd gan ddiogelu yn erbyn gostyngiad mewn hyder prynwyr.

Unrhyw adborth sydd gennych o bosib ynglŷn â'ch ymgysylltiad â gwasanaeth Busnes Cymru a'r cymorth a gawsoch

"Unwaith y penderfynais i fynd ymlaen â sefydlu Hilltop Honey fel busnes, sylweddolais yn fuan fy mod angen help. Roeddwn yn bryderus am sefydlu busnes gan nad oeddwn yn academaidd iawn yn yr ysgol. Sylweddolais fod Busnes Cymru ar gael o hyd i ddarparu cyngor a chymorth. Boed hynny drwy Rowan, neu'r drwy'r cyrsiau gwych a oedd ar gael, maent yn ymroi eu hunain i ddatblygu sgiliau allweddol hanfodol ac yn eich annog i feddwl yn wahanol i'r arfer.

"Roedd y canlyniadau a dderbyniais yn dweud y cyfan: Mae gan Hilltop Honey y gallu i gynhyrchu 850,000 pot o fêl bob mis. Byddwn yn argymell Busnes Cymru i unrhyw un sydd eisiau sefydlu ei fusnes ei hun, ac eisiau llwyddo." - Scott Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sefydlydd Hilltop Honey.

Pa weithgareddau eraill ydych chi'n eu gwneud i baratoi eich busnes ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE?

Mae Hilltop Honey wedi cychwyn ar raglen sydd yn neilltuo arian tramor ymlaen llaw i liniaru effeithiau unrhyw ddirywiad pellach yng ngwerth y bunt Sterling.

Cyfranogiad Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru, drwy'r Rheolwr Cysylltiadau, Rowan Jones, wedi cefnogi Hilltop Honey o'r cychwyn cyntaf hyd at heddiw. "Rydym wedi adolygu effaith posib Brexit ar y busnes, ac wedi edrych ar y gallu cynhyrchu a rhwystrau o fewn y broses. Roedd hyn yn amlygu'r angen am arbenigedd, ar gyfer mewnforio mêl o Ewrop a'r angen am gynnydd mewn effeithiolrwydd a gallu cynhyrchiant. Bûm yn cynorthwyo Scott a'r tîm gyda chynlluniau eu busnes ac amcangyfrifon ariannol er mwyn rhoi sail i'r buddsoddiad a’r broses ymgeisio am arian, a arweiniodd at ddyfarniad Grant Cydnerthedd Brexit."


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.