BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Just Stay Wales

Just Stay Wales

Sefydlwyd Just Stay Wales sydd wedi’i leoli yn Abertawe gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Jany Shaddick-Williams. Gyda hanes profedig a chyfoeth o brofiad ac arbenigedd yn y sector lletygarwch a rheoli gwesty, penderfynodd Jany fuddsoddi ei hangerdd am ddarparu rhagoriaeth mewn gwasanaeth i gwsmeriaid a dechrau ei busnes ei hun.

Lansiwyd Just Stay Wales 2018 ac mae'n darparu fflatiau gwyliau ar draws De Cymru. Ysbrydolwyd y syniad busnes gan yr angen am dai gwyliau sy'n rhoi mwy o le a hyblygrwydd i'r gwesteion i wneud yr hyn maen nhw ei eisiau ei wneud pryd maen nhw eisiau, er enghraifft, golchi eu dillad a pharatoi bwyd a diod.

Beth ddaru nhw

"Cefais fy magu mewn amgylchedd entrepreneuraidd gyda fy nhad ac ewythrod yn berchen ar fusnesau llogi sgipiau bach yn Abertawe ers blynyddoedd lawer, rwyf bob amser wedi bod eisiau dilyn ôl eu traed a rhedeg fy musnes fy hun," meddai Jany.

Yn dilyn gyrfa 25 mlynedd lwyddiannus mewn lletygarwch, yn gweithio i Holiday Inn, Marriott International a Premier Inn, ac am gyfnod byr fel Cyfarwyddwr Ardal Gwella Busnes Abertawe, gwnaeth Jany adnabod bwlch yn y farchnad ar gyfer fflatiau gwyliau, sy'n darparu’r un mwynderau â gwesty ar gyfer gwesteion masnachol a hamdden, sydd eisiau rhywle i aros am gyfnodau byr, canolig a hirdymor yn Ne Cymru. Fe wnaeth hyn ei hannog i ddefnyddio ei harbenigedd a dechrau Just Stay Wales.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol?

"Byddwn wedi siarad â Busnes Cymru yn gynt."

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Dyma rhai o fy eiliadau mwyaf balch mewn busnes hyd yma:

- Adeiladu timau cryf o bobl sy'n wirioneddol gefnogi ei gilydd i ddod â'r gorau allan ohonynt.

- Lansio fy musnes Just Stay Wales Serviced Apartments ar Ddydd Gŵyl Dewi 2018 a chael yr allweddi i fy eiddo cyntaf yn Syr Harry Secombe Court, gyda nifer mwy i ddod dros yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd nesaf!"

Yn 2012, cafodd Jany wobr cyfraniad personol eithriadol gan Premier Inn, a goruchwyliodd agoriad ac adnewyddiad nifer o westai ledled De Cymru.

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Cysylltodd Jany â Busnes Cymru am ei bod eisiau cefnogaeth i sefydlu ei busnes fflatiau gwyliau ei hun yn Ne Cymru ac i godi cyfalaf gweithio o £25,000 tuag at adnewyddu'r fflatiau a’r costau sefydlu cyffredinol.

"Es i weithdy 'Dechrau a Rhedeg Busnes - Rhoi Cynnig Arni’ a wnaeth fy ysbrydoli i fynd amdani i fod yn fos arnaf i fy hun, i gymryd rheolaeth o fy nhynged fy hun, a gwneud rhywbeth yr oeddwn yn teimlo’n angerddol amdano."

Yna, cafodd Jany Reolwr Perthynas, Kris Hicks, a wnaeth ei harwain drwy'r broses o ddechrau’r busnes. Rhoddodd gyngor ac arweiniad ar gynllunio busnes a marchnata, a’i helpu i sicrhau cyllid trwy'r Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes.

O ganlyniad, roedd Jany yn gallu sicrhau benthyciad o £15,000 a lansiodd Just Stay Wales yn llwyddiannus yng Ngwanwyn 2018.

Dywedodd Jany: "Cyn gynted ag y cwrddais â Kris Hicks, fy Rheolwr Perthynas yn Busnes Cymru, roeddwn i'n teimlo'n gysurus ac roeddwn yn hyderus bod ganddo'r wybodaeth a'r sgiliau busnes i'm cefnogi yn ystod y cam allweddol hwn o ffurfio busnes. Gwrandawodd yn ofalus, gofynnodd gwestiynau i gael dealltwriaeth go iawn o'r model busnes yr oeddwn am ei ddefnyddio, rhoi cyngor cadarn i mi ar sut i fynd i'r afael â phethau, a chyfarwyddyd ar ba gyflenwyr y dylwn gysylltu â nhw. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad ac yn cwrdd yn rheolaidd i gael diweddariadau ac i drafod y camau nesaf i gadw fy musnes yn symud ymlaen. Rwyf wirioneddol yn ei gwerthfawrogi ei gefnogaeth."

Cyngor Da

Dyma gynghorion Just Stay Wales’s ar gyfer unrhyw un sydd am ddechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:

  • dewch o hyd i'r lle cywir yn y farchnad sy'n gwneud y mwyaf o’ch cryfderau
  • gofynnwch am gymorth gan bobl brofiadol a defnyddiwch eich cysylltiadau
  • byddwch yn drefnus, gwnewch eich gwaith ymchwil a chynlluniwch yn drylwyr
  • credwch ynoch eich hun a goresgynnwch heriau trwy fod yn greadigol
  • mwynhewch y daith

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.