BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ladybird Craft Centre

Ladybird Craft Centre

Canolfan grefftau newydd yn agor ei drysau yng Nghil-y-Coed gyda diolch i gefnogaeth gan Busnes Cymru.

Yn ddiweddar lansiwyd Ladybird Craft Centre yng Nghil-y-Coed, de Cymru, sy'n cynnig amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau crefft i'r gymuned leol, yn ogystal â siop goffi yn gweini diodydd poeth ac oer a lluniaeth ysgafn. Aeth y perchnogion, Deborah Scudamore a Jo Colla, at wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth i sefydlu eu partneriaeth newydd ac ers hynny maent wedi:

  • cael cymorth cynghorol i ddechrau arni
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes o £15,000
  • creu 2 swydd newydd
  • symud i safle newydd, mwy

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i lansio gan Deborah Scudamore a Jo Colla, mae Ladybird Craft Centre yn siop grefftau a chaffi, sy'n cynnig ystod o weithgareddau a gweithdai crefft, yn cynnwys paentio crochenwaith a math o ludwaith yn defnyddio papur.. Yn ogystal, mae'r ganolfan yn cynnig cyflenwadau crefft i'w gwerthu, yn ogystal â detholiad o ddiodydd poeth ac oer, teisennau a lluniaeth ysgafn.

Pam oeddech chi eisiau dechrau busnes eich hun?

Mae Jo yn seramegydd ac rwyf innau'n arbenigwr mewn llestri gwydr. Yn y blynyddoedd diwethaf penderfynasom weithio gyda'n gilydd i gynnig gweithdai crefft, eitemau unigryw i'w hadwerthu a rhedeg siop goffi. Rydym newydd wneud y cam mawr o agor ein Canolfan Grefftau ein hunain yng Nghil-y-Coed, ac mae hynny wedi gwireddu breuddwyd y ddwy ohonom. Rydym wrth ein bodd yn rhedeg ein busnes ein hunain ac yn rhoi rhywbeth i aelodau'r gymuned a fydd yn eu dwyn ynghyd.

Pa heriau a wyneboch?

Nid yw cynhyrchu cynllun busnes gyda'n gilydd yn rhwydd ar gyfer prosiect mor fawr ac roedd penderfynu symud a dechrau eto yn heriau mawr i ni. Rydym wirioneddol wedi ymrwymo i'r prosiect hwn, wedi torchi llewys gyda'r gwaith adnewyddu, paentio'r waliau, ceisio cynnal yr hen fusnes wrth i ni drawsnewid, ac ymchwilio i gynnyrch a gwasanaethau drwy'r amser er mwyn bod yn gyfredol. Roedd pentwr o waith i'w wneud, ac rydym yn falch iawn o ddweud ein bod wedi llwyddo i ddod drwyddi! Oes - mae gwaith i'w wneud eto, ond pan rydych yn rhedeg eich busnes eich hun, mae rhywbeth i'w wneud bob amser

Cymorth Busnes Cymru

Penderfynasom fynd am uned fwy o faint i'n Canolfan Grefftau. Cawsom gymorth gan Nia Lloyd-Jones [ein cynghorydd Busnes Cymru] gyda'r cynllun busnes a'n cyfeiriodd ni at Craig Tamplin yn Busnes mewn Ffocws i'n cynorthwyo ni i wneud cais am ein Benthyciad Dechrau Busnes. Llwyddasom i sicrhau £15,000 i ddechrau ar y gwaith o adnewyddu'r uned newydd. Roedd hwn yn gam mawr i ni, ac rydym yn hynod falch ein bod wedi llwyddo i'w wneud!

Mae'r gymuned wedi ymateb yn arbennig o dda, ac rydym yn brysur drwy gydol yr amser gyda chrefftau a'r siop goffi. Bellach, mae gennym 5 gwirfoddolwr sy'n ein helpu ni gyda'r agwedd weithredol ar y busnes, ac rydym yn hynod ffodus o'u cael yn rhan o'n tîm. Mae un o'r gwirfoddolwyr yn byw mewn tŷ â chymorth ac mae pob un ohonynt yn elwa'n fawr o'r effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a'u lles.

Canlyniadau

Cyfarfuasom â Nia y llynedd pan oeddem yn ei chael hi'n anodd gyda'n huned gyfredol ac roedd gennym gwestiynau ynglŷn â hyfywedd y busnes. Rhoddodd Nia gyfeiriad i ni a dull gweithio mwy manwl, a roddodd yr uchelgais i ni i ddyfalbarhau. Mae hi wedi bod yn help mawr i ni ac rydym yn ddiolchgar am ei chymorth.

Mae Busnes Cymru wedi bod yn gefn i ni pan roedd eu hangen arnom. Mae'n wasanaeth gwych a byddwn yn argymell i unrhyw un sydd eisiau dechrau busnes i gysylltu â nhw.

  • partneriaeth dechrau busnes llwyddiannus
  • sicrhau safle newydd
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes o £15,000
  • creu 2 swydd

Beth fyddai eich cyngor chi i eraill sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain?

Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am yr hyn yr ydych yn ei wneud a bod galw neu fudd i'r gymuned, yna ewch amdani! Mae'n anodd, ond dyma'r swydd fwyaf gwobrwyol a wnewch chi fyth. Gadewch i Busnes Cymru eich helpu chi, mae'n wasanaeth sydd wedi'i ariannu'n llawn felly ni fydd gofyn i chi dalu am y gwasanaethau a gewch. Rydym wedi cael cymorth busnes, wedi mynychu gweithdai marchnata ar-lein drwy Cyflymu Cymru i Fusnesau ac rydym wedi cysylltu â mentor busnes gwirfoddol i'n helpu ni i ddatblygu'r busnes.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.