BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Little Cherubs Day Nursery

Little Cherubs Day Nursery

Meithrinfa ddydd wedi'i lleoli yn Abertawe yn sicrhau grant gofal plant Busnes Cymru i ddarparu lleoliad anghenion ychwanegol i deulu mewn angen.

Mae Meithrinfa Ddydd Little Cherubs yn darparu gwasanaethau gofal plant i blant 0 - 12 oed, yn Abertawe. Ymgeisiodd y busnes yn llwyddiannus am grant gofal plant, a ddarperir gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, gan eu caniatáu i gynnig lleoliad gofal plant i ferch ifanc gydag anghenion ychwanegol.

Cyflwyniad i'r busnes

Meithrinfa ddydd deuluol, dan berchnogaeth breifat yw Little Cherubs, sy'n cynnig gofal plant i fabanod a phlant o 0 - 12 oed.

Mae'r feithrinfa hefyd yn cynnig cyfleusterau ystafell fabanod, ystafell ysgogol, ystafell gelf ac ystafell cyn ysgol, yn ogystal ag ardal y tu allan, bob un yn cynnig ystod o weithgareddau i gwrdd â'r holl agweddau ar ddatblygiad plentyn.

Pam ymgeisioch chi am grant Gofal Plant Busnes Cymru?

Ymgeisiom am grant gofal plant Busnes Cymru gan ein bod wedi derbyn cais gan rieni merch ifanc a oedd yn chwilio am ofal plant. Roedd gan y ferch ifanc anghenion ychwanegol a allai fod yn heriol. Nid oedd eu sefyllfa gofal plant bresennol (h.y. defnyddio neiniau a theidiau) yn opsiwn mwyach gan fod cymhlethdod yr anghenion yn ormod iddynt ac yn eu llethu. Roedd y rhieni yn cael cymaint o anawsterau, roedd dod o hyd i leoliad gofal plant a allai 'ymdopi' â'u merch yn profi i fod yn gryn dipyn o her. Roeddent wedi cymryd amser i ffwrdd o'u gwaith pan nad oedd opsiynau eraill ar gael ac wedi derbyn ymateb chwyrn; roeddent yn poeni fod eu swyddi yn y fantol. Ar ôl dod i wybod am y grant, gwnaethom ymgeisio, fel ein bod yn gallu cyflogi aelod ychwanegol o staff, gan ein caniatáu i gynnig lleoliad.

Sut mae'r grant wedi'ch helpu?

Caniataodd y grant i ni gyflogi aelod newydd o'n tîm, a'n galluogodd i gynnig lleoliad gofal plant i'r teulu hwn.

Unrhyw adborth ar y cymorth a gawsoch gan Busnes Cymru

Roedd y cymorth gan Busnes Cymru yn hanfodol. Gwnaethant ddelio â'n cais mewn modd clir a chryno, gan ganiatáu ar gyfer proses hawdd a chyflym.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rydym yn bwriadu parhau i gynnig gofal a chymorth i BAWB.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.