BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Little Green Refills

Little Green Refills
Dwy fam sy’n ymwybodol o’r amgylchedd yn lansio eu gwasanaeth cyflenwi di-blastig yn Y Fenni
 
Daeth Little Green Refills i fodolaeth yn sgil brwdfrydedd dwy fam leol o’r Fenni dros leihau gwastraff plastig. Fe gysyllton nhw â Busnes Cymru am gefnogaeth gychwynnol ac ers hynny maent wedi llwyddo i:  
 
  • Lansio eu gwasanaeth cyflenwi adlenwadau
  • Creu 2 swydd
  • Mynychu gweithdai Cyflymu Cymru i Fusnesau
  • Ymrwymo i Adduned Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth Busnes Cymru​ges
Gyda brwdfrydedd hirbarhaol dros helpu eraill i leihau eu defnydd o blastig un-defnydd, tarodd y partneriaid busnes Ellen Hinton a Beth Oram ar syniad i lansio busnes adlenwadau cyfeillgar i’r amgylchedd, sef Little Green Refills.

Gwasanaeth cyflenwi yw’r busnes, sy’n gweithredu o ac o amgylch Y Fenni, gan gynnig cynnyrch glanhau tŷ ac ymolchi a gynhyrchir yn foesegol yn syth at ddrysau eu cwsmeriaid, gan leihau’r nifer o gynwysyddion plastig un-defnydd y mae aelwydydd yn cael gwared ohonynt fel arfer. Mae eu cynnyrch i gyd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar blanhigion ac yn ddi-greulondeb, wedi’u ffynonellu gan gyflenwyr o’r DU.  

Mae Little Green Refills hefyd yn cynnig gorsaf adlenwi ym marchnad Y Fenni.
 

Beth oedd eich amcanion wrth gychwyn eich busnes eich hun?
 
Ein prif nod fel busnes newydd oedd ei gwneud yn hawdd i bobl De Ddwyrain Cymru gael gafael ar gynnyrch ymolchi a glanhau tŷ sydd heb fod yn blastig un-defnydd, gan gynnig gwasanaeth cyflenwi a gorsaf adlenwi mewn marchnadoedd lleol. Ein cenhadaeth yw helpu ein hardal leol hardd i fod yn llai dibynnol ar blastigau un-defnydd. Yn amlwg, mae’n fusnes hefyd, felly roeddem am iddo fod yn fusnes llwyddiannus sy’n darparu bywoliaeth weddus i’r ddwy ohonom.   
Pa heriau a wynebwyd gennych?
 
Dim ond ers 3 mis y mae’r busnes wedi bod yn rhedeg felly mae’n dal i fod yn ddyddiau cynnar arnom ni. Hyd yn hyn, mae’r ymateb cadarnhaol yr ydym wedi ei gael wedi bod yn gyffrous dros ben, ond mae’n siŵr y bydd mwy o heriau i ddod. Mae addasu o fod yn famau aros-adref i redeg busnes wedi bod yn dipyn o naid i’r ddwy ohonom ac rydym yn dal i ddod i arfer gyda hynny. Rydym yn gweithio ar ein sgiliau cyfathrebu, gan ddysgu sut i weithio gyda’n gilydd a darganfod ein cryfderau a’n gwendidau fel unigolion. Mae yna heriau mewn gweithio o adref gan ei bod yn anodd ‘switsio bant’ ac rydym yn gweithio ar osod ffiniau pendant rhwng bywyd gwaith a bywyd adref. Diolch i’r llif o wybodaeth yn y cyfryngau yn ddiweddar, mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o broblem plastig un-defnydd, felly rydym yn wynebu llai o wrthwynebiad na’r disgwyl. Serch hynny, mae yna lawer iawn o bobl yn dal i fod sy’n methu deall pam y gallai gwasanaeth fel hyn fod o fudd, felly mae addysg yn rhan fawr o’r hyn a wnawn.

Y rhwystr arall yr ydym yn ei wynebu yw cost y cynnyrch. Yn anffodus, maen nhw’n dal i fod yn ddrutach na’r mathau sylfaenol yn eich archfarchnad leol, ond rydym yn gwneud ein gorau i’w gwneud mor fforddiadwy â phosib tra’n dal i adeiladu busnes cynaliadwy ein hunain.
 

Pam wnaethoch chi gysylltu â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru?
 
Cysylltodd Ellen a Beth â Busnes Cymru am gymorth i gychwyn eu busnes adlenwadau cyfeillgar i’r amgylchedd. Rhoddodd Melanie Phipps, cynghorydd Busnes Cymru, gyngor iddynt ar ystod o ystyriaethau cychwynnol gan gynnwys cynllunio busnes, ymchwil i’r farchnad, marchnata a brandio, prisio, yswiriant, treth, Yswiriant Gwladol a rhagamcanu.  

Ar ôl arwyddo addunedau Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth Busnes Cymru, ymrwymodd  Ellen a Beth hefyd i ddychwelyd eu holl becynnau plastig er mwyn i’r cyfanwerthwyr eu hailgylchu. Maent hefyd yn bwriadu cynnig casglu a chyflenwi cynnyrch, er mwyn sicrhau fod eu busnes yn gynhwysol ac ar gael i bawb. 
 

Deilliannau
 
“Mae Mel wedi bod yn ffynhonnell anferth o gefnogaeth ac anogaeth i ni. Nid yn unig mae hi wedi rhoi mwy o hyder i ni gyda’n cynlluniau a’n syniadau, mae hi hefyd wedi rhoi cyngor amhrisiadwy i ni ar sut i gyflawni’r hyn yr oeddem wedi bwriadu ei wneud. Mae Mel wedi rhoi cyngor defnyddiol ac ymarferol i ni ac wedi’n rhoi ni ar ben ffordd. Roedd gennym eisoes syniad eglur iawn o’r hyn yr oeddem eisiau ei wneud, ond helpodd Mel ni i ganolbwyntio ar yr hanfodion a rhoi cyngor defnyddiol i ni ar sut i roi pethau ar waith.    

“Rydym yn sicr y bydd manteision yr anogaeth a’r cymorth ymarferol yr ydym wedi eu cael ac yn dal i’w cael yn dod yn fwy a mwy amlwg dros y flwyddyn nesaf.”  
 

Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
 
Yn y tymor byr, rydym yn estyn allan i ardal ddaearyddol ehangach o ran cyflenwi. Rydym hefyd yn ehangu o gyflenwi i eiddo preswyl yn unig. Ym mis Medi, byddwn yn dechrau cyflenwi i gwmnïau/swyddfeydd mawrion fel y Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd. Maen nhw’n annog eu staff i’n defnyddio ni gan ei fod yn helpu’r cwmni ei hun i gyflawni rhai o’u polisïau cynaliadwyedd.   

Rydym yn lansio canolfannau casglu newydd trwy’r adeg, gan alluogi mwy o bobl i gael gafael ar ein cynnyrch, gan ein helpu i leihau ein hôl-troed carbon yn ogystal â rhyddhau rhywfaint o amser (gwerthfawr!). Rydym wrthi’n trafod gyda marchnadoedd eraill yn yr ardal a thu hwnt, felly gobeithio y bydd gennym orsafoedd adlenwi mewn llefydd eraill yn ogystal â marchnad Y Fenni. Rydym wedi trafod ein cynlluniau hirdymor gyda Mel ac yn edrych ar opsiynau i ryddfreinio neu, fel arall, gyflogi mwy o staff i gwmpasu ardal ehangach. Rydym yn gyffrous dros ben ac yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Busnes Cymru.  
 

Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.