BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Louise Misell Interiors

 

Gyda diddordeb gydol oes mewn ailaddurno, lansiodd Louise Misell o Gaerdydd ei busnes dylunio mewnol ei hun yn 2018. Gofynnodd i Fusnes Cymru am help i gychwyn ei busnes, ac roedd ganddi fynediad at amrywiaeth o gefnogaeth i lansio ei busnes, Louise Misell Interiors, yn llwyddiannus.

  • cymorth cynghorol gyda chynllunio busnes, marchnata, treth, prisio a chyllidebu
  • cymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau gyda datblygu gwefan
  • ymrwymedig i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru

Cefais fy magu ar ystâd gyngor yng Ngorllewin Swydd Efrog, ac ni freuddwydiais am gychwyn fy musnes fy hun. Fi oedd y person cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol. Enillais radd mewn Theatr, Ffilm a Theledu, gan ganolbwyntio ar ddylunio theatr. Wrth edrych yn ôl, dylwn fod wedi bod yn ddylunydd mewnol erioed (roeddwn yn symud dodrefn yn fy llofft o hyd, ac eisiau ei baentio gyda lliwiau anarferol), ond doeddwn i ddim yn gwybod fod swydd o'r fath yn bodoli.

Ar ôl bod yn y brifysgol, roeddwn yn ffodus o gael gweithio i S4C, ond roedd yn rhaid rhoi'r gorau i'r swydd ar ôl cael plant. Yn ystod y saith mlynedd o fod gartref gyda'r plant, bûm yn ail-hyfforddi fel dylunydd mewnol, a phenderfynais fy mod eisiau cychwyn busnes fy hun, ond nid oedd gennyf brofiad. Yna, cychwynais weithio yn John Lewis fel Dylunydd Cartref gan ennill y profiad ymarferol roeddwn ei angen.

Mae Louise Misell Interiors yn cynnig ystod lawn o wasanaethau dylunio mewnol, o ddewis lliwiau paent i ail-ddylunio cartrefi preifat neu leoliadau masnachol. Rwyf hefyd yn arbenigo mewn cynllunio lleoedd i gefnogi ymarferoldeb fy nyluniadau.

Wedi astudio ychydig o Gymraeg yn y brifysgol, a byw gyda theulu sydd yn rhugl yn Gymraeg, rwy'n gyfforddus gyda'r iaith ac yn ei defnyddio ar lefel syml gyda fy nghwsmeriaid Cymraeg.

Pam oeddech chi eisiau cychwyn busnes eich hun?

Roeddwn eisiau cychwyn y busnes i gynnig gwasanaeth lawn i fy nghwsmeriaid - nid y dylunio yn unig. Roeddwn eisiau helpu'r cwsmeriaid o gychwyn eu prosiect hyd at y diwedd. Roeddwn hefyd yn ymwybodol fod y byd dylunio mewnol yn ddieithr i eraill, ac roeddwn eisiau pris a chynnwys fy ngwasanaethau fod yn glir er mwyn i gwsmeriaid ddewis y lefel briodol o wasanaeth gennyf.

Pa heriau a wyneboch?

Nid oedd gennyf lawer o arian i gychwyn y busnes, felly rwyf wedi dysgu i wneud llawer o bethau fy hun megis dylunio fy ngwefan a dysgu am optimeiddio peiriannau chwilio (SEO). Pan oeddwn yn gweithio’n llawn amser, roeddwn hefyd yn gweithio fel dylunydd ar-lein i gasglu'r cyllid i gychwyn y busnes - wrth fynychu cyrsiau Busnes Cymru, paratoi lansio fy musnes a bod yn fam hefyd. Mae wedi bod yn waith caled ond yn gwbl werthfawr. Ers lansio'r busnes rwyf wedi gorfod dysgu i weithio ar fy mhen fy hun yn gynhyrchiol, gosod ffiniau a rheoli disgwyliadau fy nghwsmeriaid. Mae siarad gyda pherchnogion busnesau a dylunwyr eraill wedi helpu i wneud hyn, ac rwyf hefyd yn gwrando ar lawer o bodlediadau busnes!

Byddwn yn awgrymu i unrhyw un sydd eisiau cychwyn busnes i ymchwilio a pharatoi cymaint â phosib - ond byddwch yn barod i fod yn hyblyg. Tydi popeth ddim yn rhedeg yn esmwyth bob amser, ac mae'n dderbyniol i fireinio eich gweledigaeth a newid eich cynllun busnes wrth i chi fynd yn eich blaen ac wynebu heriau newydd. Yn bennaf, byddwn yn dweud - ewch amdani; dyma'r peth mwyaf gwerth chweil rwyf wedi ei wneud, ac rwyf wrth fy modd cael bod yn fos arnaf i fy hun.

Pam aethoch chi at wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru a pha gymorth ydych chi wedi'i dderbyn?

Cysylltais â Busnes Cymru oddeutu blwyddyn cyn gadael gwaith llawn amser a chychwyn y busnes yn llawn. Doedd gen i ddim syniad am redeg busnes, ac roedd meddwl am fod yn gyfrifol am bethau megis rheoli treth cyngor yn bryder i mi! Cofrestrais ar gyfer bob cwrs oedd Busnes Cymru yn ei gynnig, a’u trefnu o gwmpas fy nyddiau rhydd.

Derbyniais yr holl help oedd ar gael. Rwyf wedi cael cyfarfodydd personol gyda'm cynghorydd busnes, sydd wedi fy helpu i fynd i'r afael â phethau fel prisio a chyllidebu ar gyfer fy nghostau cychwynnol. Cefais sesiwn amhrisiadwy gyda chynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau a gymerodd olwg ar fy ngwefan a phrosesau technegol mewn manylder a rhoi cymaint o syniadau ac awgrymiadau i mi. Cefais gefnogaeth wych gan y tiwtoriaid a oedd yn rhedeg y cwrs, sydd yn hapus i ateb llawer o'm cwestiynau bob amser. Yn syml, ni fyddwn fod wedi gallu cychwyn fy musnes heb y cymorth a dderbyniais gan Fusnes Cymru - roeddynt yn gefn i mi o'r cychwyn cyntaf i'r pwynt ble roeddwn yn barod i fynd amdani.

Canlyniadau

  • lansio Louise Misell Interiors yn llwyddiannus
  • mynychu nifer o weithdai gan gynnwys Cychwyn a Rhedeg Busnes - Rhoi Cynnig Arni
  • cymorth cynghorol gyda phryderon cychwynol megis rhwymedigaethau treth, cynllun busnes, cyllidebu, datblygu gwefan
  • wedi ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru i gynyddu'r nifer o gyflenwyr lleol ac ystyried effaith amgylcheddol y cynnyrch a gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig

Mae cyfoeth profiad a brwdfrydedd yr holl bobl sydd ynghlwm â Busnes Cymru yn syfrdanol, ac os nad yw cynghorydd yn gwybod yr ateb i gwestiwn penodol, cewch eich cyfeirio at gynghorydd sydd yn gwybod. Ni allaf gredu fod yr help a'r cyngor yma ar gael i unrhyw un sydd eisiau cychwyn busnes yng Nghymru, ac mae'r cyfan am ddim.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Hoffwn i'r busnes dyfu fel fy mod yn gallu cyflogi cynorthwyydd dylunio i helpu gyda gweithredoedd dydd i ddydd y busnes. Yn greadigol, byddwn yn hoffi'r her o ymgymryd â mwy o waith dylunio masnachol megis bwytai a bariau etc. Rwyf yn y broses o ail-ddylunio fy ngwefan fel bod mwy o fy mhersonoliaeth ag arddull dylunio yn amlwg, yn y gobaith o ddenu mwy o brosiectau fydd yn fy nghyffroi ac ymestyn yn bellach.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant ynglŷn â sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.