BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Luxstar Ltd

Busnes chauffeur preifat o'r radd flaenaf yn lansio yn Ne Cymru, gyda chymorth gan Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd.

Wrth golli ei waith yn sgil pandemig Covid-19, penderfynodd Carl Harris o Gasnewydd droi ei brofiad a diddordeb yn fusnes. Gyda chymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, roedd Carl yn gallu dod o hyd i gyllid a sefydlu Luxstar Ltd yn llwyddiannus ym mis Tachwedd 2020.

  • Ymgorffori'n llwyddiannus
  • Sicrhau buddsoddiad o £24,676
  • Ymrwymedig i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru

Cyflwyniad i'r busnes

Gyda thros 8 mlynedd o brofiad o yrru'n broffesiynol, sefydlodd Carl Harris, entrepreneur o Gasnewydd, ei fusnes chauffeur o'r radd flaenaf, Luxstar Ltd, gan wasanaethu ar gyfer digwyddiadau corfforaethol, preifat a chwaraeon, cyfarfodydd, cludo o faes awyr a phorthladdoedd, ac eraill.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Rwyf wedi bod yn gweithio i gael bywoliaeth ers yn 12 oed. Fy swydd gyntaf oedd danfon papurau newydd, a sylweddolais y gallwn gyflogi dau o'm ffrindiau, fel bod gan y tri ohonom arian. Roeddwn hefyd yn ennill trydydd incwm yn ystod y cyfnod hwn wrth dorri gwair a golchi llestri i fy nheulu. Dysgodd y cyfan i mi fod yn annibynnol a'm helpu i fagu sgiliau cadw tŷ, trefnu a gwasanaeth cwsmer gwych.

Yn hwyrach ymlaen, astudiais beirianneg awyrenegol a mecanwaith modurol, ond penderfynais nad dyma'r yrfa iawn i mi. Yn 2013, a minnau'n 23 oed, cefais swydd ar hap gyda chwmni chauffeur mwyaf Ewrop, a chwblhau gwaith o'r radd uchaf yn ddyddiol.

Ar ôl gwiriad manwl, roeddwn yn gwneud gwaith diplomyddol, oedd yn cynnwys gweithio gyda Llysgenhadaeth America yn darparu gwasanaethau i gyngresau, NATO, gwylwyr y glannau America, llywyddion a chyn-lywyddion. Tyfodd fy niddordeb fwy a mwy. Mae'r profiad hwnnw a'r bobl y cefais gwrdd â nhw wedi cyfrannu at bwy ydw i heddiw. Roeddwn yn gallu ymwneud â phobl o gefndiroedd gwahanol, a mwynheais hynny'n fawr. Fydd bynnag, ym mis Medi 2020, collais i fy ngwaith, ynghyd â 400 o bobl eraill, oherwydd Covid-19.

Ond gyda'r cysylltiadau a greais gyda phobl yn ystod y blynyddoedd, y wybodaeth gan gleientiaid roeddwn wedi eu cludo, a'r ymddiriedaeth a roddwyd i mi, fe es i ymlaen i archwilio cyfleoedd i gychwyn fy musnes chauffeur fy hun, gyda'r safonau uchel roeddwn wedi arfer â nhw. Roedd ymchwil i'r farchnad yn awgrymu fod gennyf bwynt gwerthu unigryw gwych. Yn 2017, cychwynnais nodi problemau fyddai cleientiaid yn eu trafod, neu'r rhai yr oeddwn wedi dod ar eu traws. Sylweddolais pe byddwn yn gallu adfer y problemau hyn, gallwn ddarparu gwasanaeth cyffelyb, os nad gwell: Rwy'n sicrhau bod pob taith yn brofiad cofiadwy a diogel, ac yn cael ei ddarparu mewn modd hamddenol a phroffesiynol. Rwy'n rhoi sylw i fanylder, yn gwasanaethu cleientiaid anabl neu gleientiaid gydag anghenion arbennig, yn rhoi cyffyrddiad personol ar bopeth, ac yn sicrhau fy mod yn ddibynadwy, prydlon, cyson ac ymroddgar, yn gwrando os yw cleientiaid eisiau sgwrs, ac yn cynnal cyfrinachedd a thegwch. Cywiro problemau wrth iddynt godi i greu gwasanaeth gwych. Ym mis Mehefin 2020, yn ystod fy absenoldeb, cysylltais â Busnes Cymru, a chychwyn gweithio gyda fy ymgynghorydd, Melanie Phipps. O hynny mlaen, gyda chymorth fy mhartner a chefnogaeth Mel, lluniais fy nghynllun busnes a gwneud cais am y cyllid angenrheidiol roedd fy nyhead gydol oes yn dibynnu arno.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her gyntaf oedd meddwl am gynllun busnes cryf. Roedd gennyf lawer o wybodaeth am weithio yn y diwydiant trafnidiaeth, ond dim profiad o redeg fy nghwmni fy hun. Ymchwiliais i'r farchnad yn drylwyr, a chynnwys fy holl ganfyddiadau yn fy nghynllun busnes, a gafodd ei archwilio'n fanwl gan Fanc Datblygu Cymru.

Ar ôl sicrhau benthyciad, roedd gennyf 45 diwrnod i brofi'r gwariant a nodwyd yn fy nghynllun busnes. Fy nghyfrifoldeb cyntaf oedd dod o hyd i gar. Ar ôl gweld car oedd yn ticio bob bocs ar werth, roedd yn rhaid i mi deithio i Lundain i'w brynu. Ond ar ôl cyrraedd y delwriaeth, sylweddolais yn gyflym eu bod wedi hysbysebu'r car yn anghywir a'i fod mewn cyflwr gwael, felly gadawsom heb ei brynu. Rhoddodd hyn lawer o bwysau ar y busnes, gan ein bod ni wedi gwastraffu llawer o amser ac arian. Aeth pythefnos boenus heibio a deuthum ar draws car arall oedd 5 awr i ffwrdd - ond hwn oedd y car.

Mae'n rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol, trwydded Hurio Preifat, a thrwydded gweithredwr i fod yn chauffeur. Llwyddais i gael y drwydded gweithredwr yn eithaf cyflym, gyda diolch i Alan Leen o dîm trwyddedu Casnewydd. Fodd bynnag, fy oediad mawr cyntaf oedd cael trwydded hurio preifat. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, nid oedd tîm trwyddedu Casnewydd yn gallu darparu dyddiadau i yrwyr allu sefyll eu profion gwybodaeth, yr oedd yn rhaid i’r awdurdod lleol lynu atynt. Roedd hyn yn gryn straen, gan ei fod yn gwthio dyddiad lansio fy musnes yn ôl heb unrhyw syniad o pryd y gallwn barhau â'm gwaith. Yn y pen draw, byddai hyn yn effeithio ar fy rhagolygon llif arian, ac ni fyddwn yn cael incwm. Meddyliais am ddatrysiad dros dro i ddefnyddio fy nhrwydded o'm swydd flaenorol, a thrwyddedu fy ngar yn Llundain.

 Er bod hyn yn gost ychwanegol, llwyddais i is-gontractio ar gyfer gweithredwr yn Llundain, ac rwy'n gobeithio ei droi yn berthynas weithio tymor hir.

Yn y cyfamser, roeddwn hefyd yn goruchwylio datblygiad fy ngwefan, rhoi cyffyrddiadau terfynol ar logo, cardiau busnes a phamffledi, cofrestru gyda chyfrifydd, creu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, hyrwyddo fy musnes, prynu offer ac agor cyfrifon. Gyda'r grant a sicrheais gan Gyngor Casnewydd, llwyddais i adfer 40% o'r gost ar gyfer cyfrifiadur a dylunio gwefan, a'i ail-fuddsoddi yn y busnes.

Yng nghanol mis Tachwedd, cefais sefyll y prawf gwybodaeth, felly gallaf wneud cais am drwydded hurio preifat yng Nghasnewydd. Roedd hyn yn gymaint o ryddhad! Gall dechrau busnes newydd fod yn heriol, ond hoffwn ddweud wrth bawb sy'n ystyried cychwyn eu mentrau eu hunain - mae'r cymorth sydd ar gael yn arbennig.

Cymorth Busnes Cymru

Mynychodd Carl weminar dechrau busnes, Busnes Cymru, ac elwa o gymorth cynghorol i ddatblygu ei gynllun busnes a rhagolygon llif arian. Drwy hyn, llwyddodd i gael cyllid hanfodol gan Fanc Datblygu Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd/ UK Steel Enterprise i lansio Luxstar Ltd.

Helpodd Melanie Phipps, ymgynghorydd Busnes Cymru, Carl i wneud ymchwil i'r farchnad, sefydlu'n gyfreithiol, yswiriant a chyfrifon banc. Hefyd, cofrestrodd ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru, gan ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd drwy atal gwastraff a llygredd. Drwy sicrhau bod ei gar yn cael ei gynnal a'r gadw'n dda a bod yr offer cywir yn cael ei osod ynddo, bydd Carl yn lleihau ei ddefnydd o danwydd a lleihau allyriadau NO2 a CO2 Luxstar.

Canlyniadau

  • Ymgorffori'n llwyddiannus
  • Sicrhau buddsoddiad o£24,676
  • Ymrwymedig i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru

Hoffwn ddiolch i fy ymgynghorydd Mel am ei holl arweiniad ac arbenigedd. O'r alwad gyntaf ym mis Awst i heddiw, mae hi wedi fy nghefnogi ar hyd y daith i wireddu Luxstar. Mae nifer o heriau yn bodoli wrth gychwyn unrhyw fusnes, heb sôn am wneud hynny yng nghanol pandemig byd-eang, a gall hunan-amheuaeth bigo'r gydwybod.

Teimlais fy mod wedi cael ateb i bob un o'm hymholiadau mewn modd beirniadol, holistig a chalonogol, a hynny gyda llawer o wybodaeth, oedd yn rhan fawr o'm hyder, a'm hysgogi i'w wneud yn bosib.

Ar ôl gweithio gyda Mel am fis, cyflwynais fy nghynllun busnes a rhagolygon llif arian am fenthyciad o £24,192 i Fanc Datblygu Cymru. Roedd hon yn foment allweddol fyddai'n newid fy mywyd am byth. Gyda diolch i Mel a Claire Vokes o Fanc Datblygu Cymru, er gwaethaf eu gwaith craffu, llwyddais i sicrhau'r benthyciad llawn i gychwyn fy musnes.

Ar ôl rhoi trefn ar gyllid, roedd llawer iawn o waith i'w wneud. Roeddwn angen prynu offer, creu gwefan, hunaniaeth y cwmni, creu polisïau, rhoi trefn ar yswiriannau a chydsyniadau, gan wneud defnydd o arbenigedd Mel o redeg busnes.

Yn sgil y pandemig, profodd Luxstar ei oediad cyntaf, ac roedd yn rhaid i mi gyfeirio'n ôl at y cynllun busnes a chysylltu â Mel bob wythnos dros y ffôn neu drwy e-bost. Trwy Mel, cefais fy nghyflwyno i Kim Carter, Adran Gwasanaethau Busnes Cyngor Dinas Casnewydd, a'm helpodd i sicrhau grant dechrau busnes.

Mae Mel yn ased go iawn i Busnes Cymru, ac yn ysbrydoliaeth i entrepreneuriaid. Rwy'n argymell ei gwasanaethau, Busnes Cymru a'r holl brofiad a ddarparwyd yn ystod y broses, i unrhyw un sydd wedi gofyn i mi sut y sefydlais Luxstar Ltd.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.