BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Odyssey

Odyssey

 

 

Sefydlwyd asiantaeth y rhyngrwyd, Odyssey, sy'n arbenigo mewn creu gwefannau gwych, gyda'r nod i ychwanegu elfen ddynol at ddatblygiadau digidol modern. Cysylltodd y Cyfarwyddwr Dominic Bonaker â Busnes Cymru i ddechrau am gymorth i ddod yn rhan o sîn fusnes Cymru ac ers hynny mae wedi gweithio gydag Ymgynghorydd Twf i gefnogi:

  • ailddatblygu'r brand gan arwain at gynnydd o 30% yn y gwerthiannau
  • strategaeth dwf 3 blynedd
  • ehangu'r tîm wrth i'r busnes sicrhau mwy o waith

Wedi'i sefydlu gan Dominic Bonaker, mae Odyssey yn asiantaeth y rhyngrwyd sy'n cynnig datrysiadau gwe i wneud busnesau redeg yn fwy effeithiol. Mae'r busnes yn cynnig ystod eang o wasanaethau yn cynnwys datblygu gwefan, gwesteia a diogelwch, llwyfannau gwe pwrpasol, rhoi systemau rheoli a chefnogi newydd ar waith, ymhlith eraill.

Amcanion

Fy mhrif amcan pan oeddwn yn dechrau arni oedd ychwanegu'r elfen ddynol yn ôl i'r datblygiadau digidol modern hyn. Yn y bôn, caiff busnesau eu hadeiladu gan bobl, ac mae pobl yn gwneud busnes â phobl eraill. Syml mewn gwirionedd. Wrth i'r busnes fynd yn ei flaen, rwy'n gweld Odyssey fel enghraifft o'r hyn gall asiantaeth y we ei wneud pan fo tîm yn teimlo'n angerddol dros helpu pobl. Cysylltu â busnesau, ac nid yn unig creu gwefannau gwych ond datrys eu problemau yn y ffordd orau y gallwn a chael hwyl wrth wneud.

Heriau

1. Llif arian: fel egin busnes, mae llif arian wastad yn anodd ac mae'n anodd buddsoddi mewn marchnata, prynu marchnata cyfochrog neu dalu am stondin arddangos pan mai balans eich banc yw £0. Gweithiais yn rhan amser yn Costa a buddsoddais bopeth y gallwn i ariannu'r busnes. Wrth i'r busnes wella, bu i mi leihau fy oriau yn gwneud coffi tan fod y busnes yn gwneud digon i mi gael cyflog llawn amser.

2. Dod o hyd i'n cleientiaid cyntaf: gall hyn fod yn anodd pan nad oes gennych unrhyw dyniant gwirioneddol yn eich diwydiant. Mae'n hynod bwysig adeiladu portffolio cryf fel gall cleientiaid posibl weld sut beth oedd eich gwaith yn y gorffenol a bod gennych brofiad yn y diwydiant.

Pam gwnaethoch fynd at wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru a pha gymorth ydych chi wedi'i dderbyn?

I ddechrau aethom at Fusnes Cymru gan ein bod eisiau bod fwy ynghlwm ag ecosystem fusnes Cymru. Ar ôl cael gwybod am y lefel o gymorth all Fusnes Cymru ei roi, neidiasom at y cyfle i weithio gyda nhw.

Canlyniadau

  • persbectif diduedd ar y busnes
  • ailddatblygu'r brand gan arwain at gynnydd o 30% yn y gwerthiannau
  • sefydlu strategaeth dwf 3 blynedd
  • eisoes yn chwilio i ehangu tîm Odyssey

Mae'r cymorth yr ydym wedi'i dderbyn gan Fusnes Cymru wedi bod yn wych. Mae arbenigedd eu tîm wedi rhoi cipolwg newydd i'r busnes ac wedi'n helpu ni i ddod yn frand adnabyddadwy, yn hytrach nag yn asiantaeth y we arall.

Mae cynnydd o 30% wedi bod yn ein gwerthiannau ers i ni ailddatblygu ein brand. Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi digwydd heb gymorth a chefnogaeth Busnes Cymru a'n Hymgynghorydd Twf, Miranda Bishop.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae dyfodol Odyssey yn gyffrous. Rydym eisoes yn sefydlu cynlluniau ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Yn union fel mae Odyssey yn cyfieithu'n llythrennol i 'taith', mae'r tîm a minnau yn ymarfer trosglwyddo'r daith i'n bywydau personol a phroffesiynol. Yn bersonol, hoffwn weld y tîm yr ydym eisoes wedi'i adeiladu yn parhau i dyfu drwy ychwanegu mwy o unigolion angerddol ato. Rydym yn canolbwyntio ar y daith a gweithio gyda busnesau gwych ar hyd y ffordd. A yw eich busnes yn barod am ei daith nesaf?

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant o sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch  @_busnescymru ar Twitter.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.