BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Peter Jones (ILG) Ltd.

Peter Jones (ILG) Ltd.

 

 

Wedi ei sefydlu ym 1967, mae Peter Jones (ILG) Ltd. wedi esblygu o fod yn gyfrwyaeth draddodiadol i fod yn un o brif ddarparwyr y byd o ran datrysiadau cludo ar gyfer offer diogelwch a chyfathrebu.

Dros y blynyddoedd, mae dyluniadau arloesol y cwmni, a wneir o gyfuniad o ledr o ansawdd uchel, mowldinau neilon cryf a deunyddiau synthetig modern eraill, wedi helpu i'w ddyrchafu i fod yn un o'r cyflenwyr y mae'r galw mwyaf amdano ar draws y byd. Mae'r ymgyrch barhaus i arloesi a sicrhau ansawdd wedi helpu'r busnes i gadw ei gynhyrchion yn fwy atyniadol na mewnforion rhatach o'r Dwyrain Pell.

Pa heriau a phroblemau posibl yr oeddech chi'n eu hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd Brexit?

Ar ôl treulio wythnosau lawer yn dadansoddi risg, adnabuwyd y pryderon Brexit canlynol gan y Cyfarwyddwr Morgan Jones a'r tîm, fel y rhai â'r effaith fwyaf negyddol ar y busnes:

  • Y Gadwyn Gyflenwi - mae Peter Jones (ILG) yn cael ei ddeunyddiau o Ewrop. Mae ansicrwydd Brexit wedi gwanhau'r bunt, gan gynyddu prisiau prynu'r cwmni. Gallai Brexit gynyddu costau cyflenwi ymhellach drwy drethi mewnforio a phroblemau cyflenwi, a allai arwain at brisiau uwch am gynhyrchion, a llai cystadleuol o ganlyniad. Er mwyn lleihau'r risg, penderfynodd y busnes y byddai prynu a storio deunyddiau crai mewn swmp yn ofynnol er gwaethaf capasiti cyfyngedig y warws i allu gwneud hyn.
  • Cynnig cynnyrch gwell - i aros yn gystadleuol ac yn atyniadol i gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, byddai'r busnes angen gallu cyfiawnhau unrhyw bremiwm uwch am gynnyrch (yn sgil Brexit) gyda gwerth ychwanegol ac ansawdd gwarantedig.

Eich rhesymau dros ymgeisio am Grant Cydnerthedd Brexit: pa brosiectau fydd yn elwa o'r grant hwn a sut ydych chi'n credu y bydd y gronfa yn eich helpu i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil Brexit?

Cafodd Morgan gymorth Rheolwr Perthynas Busnes Cymru, Rashad Ismail, wrth ymgeisio am Grant Cydnerthedd Brexit (£49,500), a fydd yn galluogi'r busnes i brynu dau beiriant chwistrellu plastig ar gyfer mowldio, gan ei alluogi i weithgynhyrchu sawl cydran yn fewnol yn hytrach na'u mewnforio o Ewrop.

I sicrhau bod ei gynhyrchion o'r ansawdd gorau, yn enwedig os bydd rhaid i'r cwsmer ysgwyddo baich y trethi allforio, tollau a chostau eraill yn ymwneud â Brexit, bydd y busnes yn buddsoddi mwy mewn gosodiadau ac offer profi ychwanegol ar gyfer ei adrannau Dylunio a Chynhyrchu.

Mae Peter Jones (ILG) hefyd wedi cael budd o gymorth busnes ychwanegol drwy gyngor gan Busnes Cymru ar fasnach ryngwladol, cynaliadwyedd a Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Unrhyw adborth ynglŷn â'ch profiad o ddefnyddio gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru a'r cymorth a gawsoch

"Gyda chyngor ac arweiniad gan Reolwr Perthynas Busnes Cymru Rashad Ismail, cwblhawyd y broses o ymgeisio am grant yn ddidrafferth, gyda'r cyllid yn cael ei dderbyn o fewn rhai wythnosau. Mae hyn eisoes wedi ein galluogi i brynu a gosod rhywfaint o'r offer gofynnol, gyda'r gweddill ar fin cyrraedd. Drwy gysylltu â Busnes Cymru, daethom yn ymwybodol am wasanaethau eraill a gynigir megis cyngor ar gyfer datblygu marchnadoedd rhyngwladol, gan gynnwys cyllid ar gyfer arddangos mewn ffeiriau masnach ryngwladol.

Yn ogystal, mynychodd staff marchnata seminar undydd a oedd yn ymdrin â'r arferion a'r technegau diweddaraf ar gyfer gwella presenoldeb ar-lein. Gwelsant y digwyddiad hwn yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio eu gweithgareddau marchnata."

Pa weithgareddau eraill ydych chi'n eu gwneud i baratoi eich busnes ar gyfer Brexit?

Mae Peter Jones (ILG) yn bwriadu canolbwyntio ei ymdrechion ar gynnal busnes presennol a datblygu cyfleoedd masnachu newydd yn un o'r marchnadoedd Ewropeaidd mwyaf - yr Almaen. Mae'n bwriadu gwneud hyn drwy gymryd rhan mewn arddangosfa fawr yn Cologne yn ddiweddarach yn 2019. Mae'r cwmni hefyd eisiau datblygu ei farchnadoedd y tu allan i'r UE ac mae'n bwriadu bod yn bresennol mewn sioe fasnach fawr Gorfodi'r Gyfraith yn UDA ym mis Hydref 2019.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.