BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Propest Cyf

Propest Ltd

Gyda chymorth gan Busnes Cymru, rheolwr plâu o Gastell-nedd yn penderfynu buddsoddi bron i ddau ddegawd o brofiad yn ei fenter ei hun

Dechreuodd Christopher Hanford ei fusnes rheoli plâu ei hun, Propest Cyf, yng Nghastell-nedd yn 2020. Gofynnodd i wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth dechrau busnes er mwyn iddo allu cychwyn yn dda, ac arweiniodd hyn at lansio’r busnes yn llwyddiannus ym mis Hydref 2020.

  • Wedi cychwyn yn llwyddiannus
  • Wedi sicrhau cyllid grant

Cyflwyniad i’r busnes

Ac yntau â bron i 20 mlynedd o brofiad yn gweithio fel rheolwr plâu i’r Awdurdod Lleol, penderfynodd Christopher Hanford wneud yn fawr o’i sgiliau i lansio’i fusnes rheoli plâu ei hun.

Mae Propest Cyf yn cynnig atebion cyflym, diogel, effeithiol ac ymatebol yn ymwneud â rheoli plâu er mwyn gwarchod unigolion ac eiddo rhag plâu, yn cynnwys pryfetach, cnofilod a’r risgiau cysylltiedig. Mae’r busnes yn gweithio trwy Dde Cymru a’r rhanbarthau cyfagos.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Ar ôl 28 mlynedd yn gweithio i’r un cyflogwr a bron i 20 mlynedd yn gweithio fel rheolwr plâu, roedd gennyf gyfle i ddechrau fy musnes fy hun. Roedd gennyf lawer iawn o brofiad, ac roeddwn o’r farn y gallwn ddefnyddio’r profiad hwnnw’n llwyddiannus yn fy menter fy hun.

Pa heriau a wyneboch?

Nid wyf yn credu fy mod wedi wynebu llawer o heriau. Roeddwn yn ddigon lwcus o gael cymorth a chefnogaeth fy nheulu.

Cymorth Busnes Cymru

Cynigiodd Hywel Bassett, cynghorydd dechrau busnes, help i Chris a’i fab gyda phob agwedd ar ddechrau busnes, yn cynnwys y strwythur cyfreithiol a materion treth. Aeth ati i’w helpu i lunio cynllun busnes a rhagolygon llif arian, gan alluogi Chris i gael cyllid grant tuag at brynu fan ac offer hanfodol.

Canlyniadau

  • Wedi cychwyn yn llwyddiannus
  • Wedi sicrhau cyllid grant

Mae Hywel wedi bod yn hynod broffesiynol, ac yn amyneddgar a chefnogol dros ben, ac mae bob amser yn fodlon rhoi cyngor doeth. Roedd hi’n wych gallu gofyn iddo unrhyw gwestiynau nad oeddem yn siŵr ohonynt, ac rydym yn gwerthfawrogi ei arweiniad. Nid yn unig y mae Hywel wedi gweithio gyda mi, ond mae hefyd wedi helpu fy mab gyda sawl peth, fel TG ac ystyriaethau cyfreithiol, ymhlith nifer o bethau eraill. Dyna pam rydym ni, fel teulu, o’r farn na wnaethom wynebu unrhyw heriau gwirioneddol. Mae Hywel yn hynod wybodus, mae wastad yn hawdd cael gafael arno ac mae bob amser yn fodlon rhoi cyngor.

Diolch i bawb yn Busnes Cymru am eu cefnogaeth, ac yn arbennig i Hywel Bassett; mae’n gaffaeliad i’r sefydliad. Buaswn yn rhoi 10 allan o 10 iddo.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Ein bwriad am y tro yw ennill bywoliaeth gyfforddus. Sylweddolwn fod yn rhaid inni roi ein henw ar led ble bynnag y gallwn. Ein nod yw cynnig gwasanaeth o ansawdd broffesiynol i’r sector preifat a’r sector masnachol a rhoi cyfle i’n henw da fynd o nerth i nerth. Gobeithio y bydd y busnes yn tyfu’n gyflym.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.