BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Suzy Kinesiology

Suzy Kinesiology

Myfyriwr cinesioleg o orllewin Cymru yn dechrau ei busnes delfrydol diolch i Busnes Cymru.

Yn dilyn profiad personol yn ogystal â dyhead i lwyddo, penderfynodd Suzy Erskine o Gaerfyrddin ddechrau ei busnes cinesioleg ei hun. Gyda chefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, roedd hi'n gallu rhoi cynlluniau marchnata a busnes strategol ar waith er mwyn ei helpu i ddechrau ei menter newydd.

  • dechrau llwyddiannus
  • creu 1 swydd
  • cefnogaeth gynghorol i ddechrau'r busnes

Cyflwyniad i'r busnes

Dechreuodd Suzy Erskine ei busnes Suzy Kinesiology yn 2019 yng Nghydweli i gynnig triniaethau drwy brofion cyhyrau syml a di-boen fel math o iaith corff i gyfathrebu problemau posibl a datrysiadau i gleientiaid ac ymarferwyr.

Mae cinesioleg yn rhoi ystyriaeth i elfennau meddyliol, emosiynol, cemegol, corfforol ac egnïol gyda'i gilydd, yn ei wneud yn therapi cyflenwol gwirioneddol gyfannol, sy'n gallu canfod anhafaliadau yn y corff nad ydynt yn arddangos symptomau eto.

​Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Roeddwn i wedi bod yn gofyn am waith mwy ystyrlon ers tro. Cyn hyn, gweithiais yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin am 7 mlynedd, ac roeddwn i wrth fy modd, ond hefyd yn barod i symud ymlaen. Cafodd fy nhad ddamwain trawmatig: gan ei fod yn hŷn, roedd yn rhaid imi edrych ar ei ôl, ac ar ôl cyfnod byr iawn, sylweddolais fy mod wedi colli rhan ohono a oedd yn fawr, cryf a fyddai wastad yma. Gwelais cinesiolegydd yn Arberth, Tanya Petersen, yn fuan wedyn ac roeddwn wedi synnu sut gefais y cyfle ganddi i ryddhau fy ngalar ynglŷn â'r profiad. Bues yn gweithio gyda hi sawl tro, ac yn ystod un sesiwn, meddyliais: "Tybed a allaf i wneud hyn?" Fel mae'n digwydd, gallaf! Cwblheais gwrs sylfaen gyda Tanya y gaeaf diwethaf. Ym mis Mai, es ymlaen i astudio gyda Dawn Bailey ym Mryste. Dyma'r ystyr rwyf wedi bod yn gofyn amdano. Dyma'r gwaith yr wyf i fod i'w wneud.

Pa heriau a wyneboch?

Y brif her rwy'n ei wynebu yw efallai nad yw 90% o bobl wedi clywed am ginesioleg. 

Mae sefydlu busnes hefyd yn brofiad gwyllt a gwallgof, gydag uchafbwyntiau o wybod fy mod yn gwireddu fy mreuddwyd ac isafbwyntiau o hunan-amheuaeth yn sleifio i mewn weithiau.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Suzy â Busnes Cymru am gymorth i ddechrau ei busnes delfrydol. Mae cyngor Lisa Johnston, Ymgynghorydd Twf Busnes Cymru, wedi bod o fudd iddi allu helpu gwerthuso hyfywedd ariannol syniad a chynllun busnes Suzy.

Roedd Lisa hefyd yn help o safbwynt strategaeth prisio'r busnes yn ogystal â datblygu cynllun marchnata gadarn gan ganolbwyntio ar sicrhau cwsmeriaid cyntaf Suzy.

Canlyniadau

  • dechrau llwyddiannus
  • creu 1 swydd
  • cefnogaeth ymgynghorol i ddechrau'r busnes

Cefais fy annog gan fy nghynghorydd, Lisa, i fynd i'r afael â fy nghynllun busnes. Roeddwn mewn penbleth gyda'r ochr marchnata ar un adeg, ac roedd hi'n gwybod yr union gamau nad oeddwn i wedi eu gwneud. Mae hi wedi fy arwain at le roeddwn i angen bod yn y broses, a nawr, rwy'n teimlo'n hamddenol ac yn hyderus fy mod yn y lle cywir.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Hoffwn weld fy mhractis yn datblygu fel fy mod yng Nghaerfyrddin ychydig wythnosau'r wythnos, yn Abertawe a Sgeti un diwrnod y mis ac archwilio ardaloedd eraill o amgylch Caerfyrddin ymhellach. Mae fy nghynlluniau hirdymor yn cynnwys trawsnewid eglwys yn gaffi a sefydlu pwll nofio iechyd gydag ystafelloedd therapi.. byddai hynny'n berffaith.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.