Two Tone Tiling
Wedi treulio amser yn y lluoedd arfog, penderfynodd Martin Laird wneud y mwyaf o'i awch i fod yn hunangyflogedig a dechrau ei fusnes ei hun. Er bod ganddo ddyslecsia a dim profiad blaenorol o redeg busnes, sefydlodd Two Tone Tiling ddiwedd mis Mawrth 2019. Mae'r busnes yn cynnig gwasanaethau teilsio i gleientiaid preifat a domestig yn ogystal â'r sector adeiladu.
Mae Two Tone Tiling yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu gwasanaeth lleol ac mae'n cynnig gostyngiadau i gydweithwyr Martin yn y Lluoedd Arfog.
Mae Martin ar hyn o bryd yn cydweithio â theilswyr eraill, gosodwyr ceginau a'r rhai hynny yn y sector adeiladu i adeiladu ei rwydwaith ac enw da.
Beth ddaru nhw
"Mynychais weithdy 'Cychwyn a Rhedeg Busnes - Rhoi Cynnig Arni' a arweiniodd ataf yn gwneud fy ymchwil i'r farchnad a chynllunio busnes. Derbyniais gymorth un-i-un drwy gydol y broses gan fy ymgynghorydd busnes, Debra Davies-Russell. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn gan fod gennyf ddyslecsia ac rwy'n ei gweld hi'n haws cyfathrebu wyneb yn wyneb.
Roeddwn angen cyllid ychwanegol i ariannu'r busnes newydd, felly gwnes gais am fenthyciad i gychwyn. Cynorthwyodd Debra gyda'r cynllun busnes a rhagolygon llif arian i sicrhau bod y cais yn llwyddiannus, gan fy ngalluogi i sicrhau'r cyllid a dechrau fy musnes."
Eu adeg mwyaf balch mewn busnes
"Fy adeg fwyaf balch oedd dechrau fy musnes, casglu fy nghardiau busnes a chael fy nghyfrif busnes Topps Tiling! Roeddwn yn hynod falch pan orffennais fy nhasg gyntaf am dâl."
Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru
Yn dilyn mynychu gweithdy, a gyflwynwyd gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, cefnogwyd Martin gan ei ymgynghorydd Debra a gynorthwyodd gyda'i holl faterion sefydlu gan gynnwys cynllunio busnes, marchnata, a rhagolygon llif arian. Arweiniodd hyn ato'n llwyddo wrth gyflwyno ei gais am fenthyciad i gychwyn.
Bydd Martin hefyd yn mynychu gweithdy 'Treth a Chadw Cyfrifon' ac mae wedi cael ei gyfeirio at ymgynghorydd cynaliadwyedd am gymorth gyda'i bolisïau amgylcheddol ac at Cyflymu Cymru i Fusnesau am gymorth gyda marchnata digidol.
Dywedodd Martin: "Roedd gweithdy cychwyn busnes Busnes Cymru yn dda iawn ac fe ges i fudd mawr ohono. Roedd fy nghyfarfodydd un-i-un gyda fy ymgynghorydd yn ddefnyddiol iawn gan ei bod yn gallu ateb unrhyw ymholiadau neu egluro unrhyw broblemau oedd gennyf. Cynorthwyodd y cyfarfodydd i mi ganolbwyntio ar yr ymchwil a'r cynllunio gan yr aethom ati i osod terfynau amser a fy helpodd i gyflawni fy nodau."
Cyngor Da
Dyma awgrymiadau ardderchog Martin ar gyfer unrhyw un arall sy'n dymuno dechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:
- cysylltwch â Busnes Cymru a mynychwch eu gweithdai
- daliwch ati, gofynnwch gwestiynau a ffoniwch bobl am wybodaeth
- peidiwch â rhoi'r ffidl yn y to ar eich syniadau a dyheadau