BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

In the Welsh Wind

In the Welsh Wind

Distyllfa fach a sefydlwyd gan Alex Jungmayr ac Ellen Wakelam yw 'In the Welsh Wind', a leolir yng nghanol saith acer o ddolydd blodau gwyllt ar ben bryn yn Nhre-saith, uwchlaw Bae Ceredigion. Mae’r busnes yn arbenigo mewn creu gwirodydd pwrpasol yn eu distyllbair copr, 'Meredith'. A hwythau ond yn cynhyrchu ar raddfa fach, mae’r holl wirodydd y mae’r busnes yn eu creu yn unigryw ac wedi’u teilwra’n arbennig, fel petai, gan alluogi Alex ac Ellen i reoli a chyflenwi gwirodydd pwrpasol o’r radd flaenaf.

Erbyn hyn mae 'In the Welsh Wind' yn cynhyrchu gwirodydd ar gyfer mwy na 15 o gwmnïau gwahanol o bob cwr o Gymru, y DU ac Ewrop.

Beth ddaru nhw

“Weithiau, mae dilyn y fforch yn y ffordd yn cynnig yr ateb heb ofyn y cwestiwn. I ni, arweiniodd hyn at dro hir o amgylch Cymru. I fod yn fanwl, 1,047 milltir sy’n cysylltu 870 milltir o lwybr arfordir bendigedig Cymru â Chlawdd Offa, sef y ffin hanesyddol sy’n rhedeg rhwng Cas-gwent a Chaer. Mi wnaethom ni hyn er mwyn lleddfu rhwystredigaeth gwaith a straen bywyd. Yn sicr, dyma oedd y sbardun ar gyfer creu Distyllfa 'In the Welsh Wind'. Yn ystod tri mis ein hantur, cawsom amser i siarad, breuddwydio a chredu unwaith eto. Llwyddodd nosweithiau gwyllt yn gwersylla ar draethau a chlogwyni, a milltiroedd o gerdded caled, i dawelu a symleiddio ein bodolaeth a gwneud inni sylweddoli i ble y gallem fynd nesaf.

Ym mis Medi 2017, roeddem yn teithio ar hyd llwybr 500 milltir Arfordir Gogledd yr Alban. Ar ôl galw mewn distyllfa fach iawn yn Badachro, cawsom gyfarfod a siarad â’r perchnogion am eu jin a threfniadau’r ddistyllfa. Gadawsom yn llawn brwdfrydedd y gallem wneud hyn ein hunain. Ar ôl dychwelyd adref, aethom ati i wneud llawer o waith ymchwil yn ymwneud â distyllfeydd, gwirodydd a dulliau cynhyrchu, gan gysylltu â Busnes Cymru yn y pen draw i holi sut i gychwyn ein busnes ein hunain. Aethom ar gwrs sefydlu busnes, ac erbyn hyn mae In the Welsh Wind wedi bod yn masnachu ers blwyddyn, yn fusnes llwyddiannus a llewyrchus.” Ellen Wakelam, Cyd-sylfaenydd.

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

“Yn ein blwyddyn gyntaf o fasnachu, rydym wedi llwyddo i allforio swp pwrpasol o jin i gwsmer ym Malta ac wedi datblygu perthynas gyda’r cwsmer a fydd yn galluogi’r allforio hwn i barhau.”

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes? Os ydynt, sut mae hyn wedi eu helpu

Mae Ellen yn siarad Cymraeg ac mae’r busnes wrthi’n ychwanegu Cymraeg at eu gwefan a’u cyfryngau cymdeithasol. “Mae defnyddio’r Gymraeg wedi ein galluogi i gysylltu â’n cymuned leol a datblygu perthnasau â chwsmeriaid.”

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Cysylltodd Ellen ac Alex â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gael help i gychwyn eu distyllfa yng Ngorllewin Cymru. Cawsant gymorth gydag amrywiaeth o faterion gan gynghorwyr Busnes Cymru, yn cynnwys Mark James a fu’n eu helpu gydag ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â chychwyn busnes, cynllunio busnes a rhagolygon ariannol, a Dai Nicholas, a fu’n eu cynorthwyo gyda marchnata a datblygu eu busnes. Helpodd hyn y pâr i lansio’u distyllfa’n llwyddiannus.

Roedd 'In the Welsh Wind' angen cymorth ychwanegol yn dilyn ymholiad gan gwsmer posibl ym Malta. Gan nad oedd Ellen nac Alex wedi rhagweld y posibilrwydd o ddelio â chwsmer tramor mor gynnar yn natblygiad eu busnes, fe’u rhoddwyd mewn cysylltiad ag Anthony Kirkbride, cynghorydd Masnach Ryngwladol Busnes Cymru, er mwyn cael cyngor ac arweiniad ar y cyfle posibl hwn i allforio.

Rhoddodd Anthony gyngor ynglŷn â’r broses o symud cynhyrchion, tollau, goblygiadau TAW a’r gwaith papur a oedd yn angenrheidiol i drosglwyddo’r jin dramor i’r cwsmer, cyn cynorthwyo Alex ac Ellen i gwblhau’r trefniant. Trwy gydol y broses, bu Busnes Cymru yn cynorthwyo 'In the Welsh Wind' yn ystod pob cam, gan helpu i sicrhau bod y jin wedi’i allforio’n ddidrafferth o ddistyllfa fach yn Ne Cymru i Malta, ar amser a heb unrhyw broblemau. Ers hynny, mae In the Welsh Wind wedi datblygu perthynas dda gyda’r cwsmer ac mae’r archebion yn dal i ddod.

Medd Ellen: “Rydym wedi cael profiad cadarnhaol tu hwnt gyda Busnes Cymru. O’n sgwrs gyntaf i’n hymwneud â’n cynghorydd Mark James, [yr arbenigwr allforio] Anthony Kirkbride a Dai Nicholas, sydd wedi ein helpu gyda marchnata a datblygu, mae rhywun wedi bod ar gael bob amser ar ben arall y ffôn i’n helpu gyda phob ymholiad. Rydym wedi bod ar sawl cwrs gan Busnes Cymru – cafodd y rhain eu cynnal yn effeithlon bob tro gan ymdrin yn ddi-oed ag unrhyw gamau dilynol. Mae’r cymorth yr ydym wedi’i gael gan Busnes Cymru wedi ein helpu i sefydlu ein busnes, o gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau, llunio ein cynllun busnes a’n rhagolygon llif arian (a’n galluogodd i gael buddsoddiad gan aelod o’r teulu), i allforio ein cynnyrch cyntaf, cadw cyfrifon a llawer mwy o ymholiadau cyffredinol.”

Cyngor Da

Dyma awgrymiadau ardderchog 'In the Welsh Wind' ar gyfer pwy bynnag sy’n dymuno dechrau neu dyfu ei fusnes ei hun:

  • cysylltwch â Busnes Cymru a datblygwch berthynas gyda’ch cynghorydd
  • siaradwch â’r bobl o’ch cwmpas am eich cynlluniau. Gwrandewch ar eu profiad a defnyddiwch ef i’ch helpu i ddatblygu eich syniadau eich hun
  • byddwch yn barod i weithio’n galed a byddwch yn danbaid dros yr hyn yr ydych eisiau ei wneud – dim ond os gwnewch chi ei yrru yn ei flaen y bydd eich busnes yn datblygu

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.