BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Wildflower Kitchen

Wildflower Kitchen

Lansio caffi ecogyfeillgar sy'n defnyddio cynnyrch moesegol yng Nghaerdydd, gan greu 7 swydd newydd.

Gyda thros 18 mlynedd o brofiad yn y diwydiant lletygarwch, penderfynodd Celyn Baker fentro i fyd hunangyflogaeth a sefydlu ei busnes ei hun yn cynnig cynnyrch pob a byrbrydau cartref, ffres. Ar ôl derbyn cymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i sefydlu siop goffi, ei menter gyntaf, trodd at ei chynghorwr am gyngor pellach ar lansio caffi newydd yng Nghaerdydd.

  • cymorth gyda'i siop goffi gyntaf
  • cyngor ar sut i ddechrau ei hail fenter, a gychwynnodd masnachu ym mis Hydref 2019
  • sicrhau benthyciad o £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru
  • creu 7 swydd llawn amser a rhan amser

Cyflwyniad i'r busnes

Sefydlwyd Wildflower Kitchen gan Celyn Baker yn y Rhath, Caerdydd. Siop goffi ecogyfeillgar a chynaliadwy ydyw, yn cynnig amrywiaeth o brydau ffres, cynnyrch cartref pob a diodydd, gan ddefnyddio cynhwysion moesegol.

Mae Wildflower Kitchen yn defnyddio ryseitiau newydd gyda phwyslais ar ansawdd y cynnyrch, gan gynnig amgylchedd cyfforddus lle gall ymwelwyr fwynhau arddangosfeydd celf, prynu planhigion a llogi man ar gyfer digwyddiadau preifat.

Pam oeddech chi eisiau cychwyn eich busnes eich hun?

Treuliais y rhan fwyaf o'm hugeiniau yn byw yng ngogledd Cernyw wedi i mi gael fy atynnu gan y ffordd o fyw hamddenol, arfordir rhyfeddol yr ardal, nosweithiau o amgylch tannau gwersyll, a chael byw mewn pentref bach yng nghefn gwlad. Rwyf wedi gweithio yn y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo erioed, ac mae safon y caffis a bwytai yn y rhan yma o'r wlad yn arbennig: nid yw'r ethos o greu bwyd cartref yn cael ei wthio, maen nhw wirioneddol yn cefnogi ffermwyr a'r gymuned leol. Nid 'brand' yw organig, ond y peth arferol.

O ganlyniad i'r gymysgedd o gariad a chasineb oedd gen i tuag at Gernyw, symudais yn ôl i Dde Cymru yn 2014, yn dilyn gaeaf arall o incwm isel oherwydd y gostyngiad tymhorol mewn cyflogaeth. Er fy mod i wedi mwynhau fy ngaeafau blaenorol yn Polzeath yn arw, roeddwn yn nesáu at ddiwedd fy ugeiniau ac wedi cael llond bol ar fod yn dlawd bob gaeaf. Symudais yn ôl i Dde Cymru gyda'r bwriad o gasglu arian er mwyn sefydlu fy musnes fy hun.

Fe wnes i barhau i weithio yn y diwydiant lletygarwch a chefais fy synnu bod cymaint o gaffis yn prynu teisennau wedi eu gwneud mewn ffatrïoedd. Wrth weithio'n llawn amser, sefydlais fusnes pobi bach a danfon teisennau wedi eu pobi gartref i ychydig o gaffis ym Mro Morgannwg. Ar ôl 18 mis o fod yn ôl yng Nghymru, clywais am gynnig i agor caffi yn Nghwrt Insole. Gwyddwn y byddai'n gyfle gwych i mi roi fy holl brofiad o Arlwyo ar waith, ac wedi nifer o gyfweliadau, derbyniais denantiaeth am 3 blynedd.

Roedd cymorth Busnes Cymru gyda'r fenter gyntaf hon yn arbennig. Derbyniais fenthyciad o £20,000 i gyd-fynd â'm cynilion fy hun, gan ganiatáu i mi fynd amdani go iawn gyda chaffi'r Cwt Potio, a chawsom 3 blynedd hynod lwyddiannus yno. Ar ddiwedd fy nhenantiaeth, penderfynodd Cwrt Insole redeg y caffi'n fewnol, gan roi cyfle gwych arall i mi ddatblygu ymhellach nag erioed yn fy menter nesaf.

Agorais Wildflower Kitchen ar 28 Hydref 2019. Rwyf wrth fy modd yn bod yn hunangyflogedig, rwy'n hoffi'r rhyddid creadigol. Cefais ysbrydoliaeth o weithio yn rhai o'r lleoedd mwyaf dymunol yng Nghernyw, ac nid oeddwn yn teimlo bod y safon ar y cyfan yn Ne Cymru'n arbennig iawn (peidiwch â'm camddeall i, mae llawer o gaffis gwych ond dim digon yn fy marn i!). Roeddwn yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i rywle roeddwn 'eisiau' gweithio yno, felly penderfynais os nad oeddwn yn gallu dod o hyd iddo, byddwn yn creu rhywle!

Pa heriau a wyneboch?

Yr heriau mwyaf rwyf wedi eu hwynebu, fel pob busnes newydd, yw cyllid a chyllidebu. Mae arian yn gallu achosi cur pen, gan fod incwm a threuliau ar fin y gyllell o hyd. Mae gennyf daenlen Excel ac rwy'n diweddaru popeth - mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi ei ddysgu dros amser a byddai'n dda gennyf petawn wedi gwneud hyn o'r cychwyn. Mae bod â rheolaeth lwyr dros gyllid yn werth ei bwysau mewn aur o ran lefelau straen - hyd yn oed os yw'r cyllid yn isel!

Roedd gweithio ochr yn ochr â bwrdd o ymddiriedolwyr yng Nghwrt Insole yn cynnwys ei heriau ei hun, yn enwedig â chymaint o safbwyntiau i'w hystyried wrth geisio rhedeg busnes proffidiol. Mae popeth yn dod yn ôl at gyllid, ac un o'r pethau mwyaf gwerthfawr rwyf wedi'i ddysgu yw pennu cyllideb ar gyfer popeth! Byddwch yn sicr i'r geiniog faint sydd ei angen arnoch i wneud gwaith yn broffidiol. Os nad yw'n broffidiol, anghofiwch amdano, er iddo edrych yn werth chweil i'r llygad anhyfforddedig.

Cymorth Busnes Cymru

A hithau eisoes wedi elwa o gymorth gyda'i siop goffi gyntaf, trodd Celyn at Busnes Cymru wrth i broblemau gyda phrydles yr adeilad ei gorfodi i chwilio am fenter newydd. Ar ôl canfod adeilad wrth galon ardal fywiog yng Nghaerdydd, derbyniodd gyngor gan Jayesh Parmar, Rheolwr Perthynas, ar delerau'r brydles, dod o hyd i gyllid, recriwtio, marchnata a strategaeth ar gyfer tyfu'r busnes yn y dyfodol.

Llwyddodd Wildflower Kitchen i sicrhau benthyciad o £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru, gyda diolch i'r cyngor a gynigwyd gan Jayesh a Jessica White, Gweithredydd Buddsoddi'r Banc.

Canlyniadau

  • cymorth gyda'i busnes siop goffi gyntaf
  • cyngor ar sut i ddechrau ei hail fenter, a gychwynnodd masnachu ym mis Hydref 2019
  • sicrhau benthyciad o £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru
  • creu 7 swydd llawn amser a rhan amser

Mae Jayesh wedi bod yn gymorth arbennig: mae ei gyngor gwych cyson a'i feirniadaeth adeiladol wedi fy helpu i fagu hyder a sylwi ar fy mhotensial fy hun. Mae Jayesh wirioneddol yn credu yn fy ethos ac mae hynny'n galonogol tu hwnt. Mae'r cymorth rwyf wedi ei dderbyn gan Busnes Cymru wedi bod yn wych. Mae Jay wedi rhannu'r daith gyda mi, ac mae'r busnes wedi elwa o'i gymorth.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Fy nod ar gyfer y busnes yw lledaenu ei enw da a dod yn lleoliad poblogaidd ar Heol Whitchurch. Rwyf eisiau i'r caffi gael ei adnabod am ei fwyd da, teisenni gwych ac amgylchedd braf. Mae gennym ystafell benodedig y gellir ei llogi ar gyfer cyfarfodydd, a grwpiau a chlybiau bach, gydag opsiynau arlwyo a lluniaeth.

Dros gyfnod y gaeaf byddwn yn gweithio ar ein hardal yn yr ardd, i'w gwneud yn ddiogel a hardd. Rwyf hefyd yn bwriadu cael trwydded ar yr adeilad, ac yn ystod gwanwyn 2020 byddaf yn agor y caffi yn ystod y nosweithiau o ddydd Iau tan ddydd Sadwrn, gan gynnal digwyddiadau gwahanol bob wythnos, gan gynnwys meic agored, nosweithiau acwstig, adrodd straeon, perfformiadau celfyddydol, coctels etc.

Ar hyn o bryd rydym ar gau bob ddydd Sul, ond rwy'n bwriadu cael archebion rheolaidd ar gyfer grwpiau mawr sydd eisiau llogi'r lleoliad cyfan ar gyfer cawodydd babi, Bedyddiadau ac achlysuron eraill. Mae potensial enfawr ar gyfer y math hwn o fusnes a ffyrdd gwahanol i geisio ehangu.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.