BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Clybiau Plant Cymru Kids Clubs, Clwb Allysgol Y Twyn, Clwb ar Ôl-ysgol a Gwyliau

Clwb Allysgol Y Twyn, Clwb ar Ôl-ysgol a Gwyliau Caerffili - Cefnogaeth fusnes i help Clwb yng Nghaerffili i ailagor yn dilyn Covid-19

Mae Clwb Allysgol Twyn wedi bod yn aelod o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ers iddo gychwyn, ac fe wnaethom gefnogi’r clwb i ddod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol yn 2018.  Cysylltodd y rheolwr â Becky (Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant) ym mis Mehefin am gymorth gydag agor y Clwb Gwyliau yn wyneb yr anawsterau ynghylch Covid-19.

Cawsom drafodaeth hir ar sut i roi mesurau diogelu yn eu lle, creu swigod, a pha weithgareddau y gallent ddal i’w gwneud gyda’r plant gan fod yn Covid Ddiogel ar yr un pryd.  Fe wnaethom edrych ar yr holl fesurau o ran rheoli haint, cadw cofnodion ac asesiadau risg.  Anfonais atynt yrra holl adnoddau templed yr oedd Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs wedi eu cynhyrchu, yn cynnwys Gwaith Chwarae wedi Covid-19, a alluogodd y Lleoliad i weld pa bethau y gallent eu gwneud i sicrhau bod y plant yn dal i gael profiadau cyfoethog ar yr un pryd â chynnal safonau uchel o ran rheoli haint, a chan ddilyn yr Arweiniad ar Fesurau Diogelu.

Mae’r clwb wedi rhoi diweddariadau cadarnhaol rheolaidd ers ailagor: 

Mae’n rhaid i mi ddweud yn gwbl onest, Becky, eich bod chi, Clare, Janine ac aelodau eraill o staff Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs wedi mynd yr ail filltir i gefnogi fy nghlwb, fel, dwi’n siŵr, eich bod wedi gwneud gydag eraill. Ry’ch chi ferched wedi bod yn achubiaeth i mi a bob tro ar ben arall y llinell i helpu a rhoi cefnogaeth pan oedd ei hangen yn ystod y cyfnod anodd yma, drwy roi help a chyngor fel ‘roedd ei angen.

Dwi’n teimlo fy mod i wedi’ch gyrru chi i gyd i’r pen yn conan, eisiau’ch help a’ch gwybodaeth pan oedd eu hangen, a bod tro fe wnaethoch chi ateb y galw.

Rydym wedi bod gyda Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs o’r dechrau’n deg. Nhw hefyd a roddodd help i mi sefydlu ein Clwb Gwyliau llwyddiannus tua 15 mlynedd yn ôl, ac maen nhw bob tro wedi bod yno i’n cefnogi pan oedd angen.

Alla i ddim diolch digon i  chi i gyd, yn enwedig yn ystod y pandemig Covid-19 yma, am eich cefnogaeth. Diolch am bopeth.

Mae’r Clwb  Gwyliau hefyd wedi cael adborth ardderchog gan rieni: 

Diolch am ei wneud yn amgylchedd mor ddiogel a hwyliog i’r plant.  Roedd Plentyn A yn gwbl wrth ei fodd, ac mae’n gobeithio dod yn ôl ar adeg hanner tymor mis Hydref. x

Diolch ferched, mae Plentyn B wedi cael cymaint o hwyl dros yr haf ac mae gwybod ei fod e yna yn saff ac yn hapus yn rhoi tawelwch meddwl i mi. Yn edrych ymlaen at y Clwb Allysgol. Diolch bawb. x

Pan gyhoeddwyd y Grant Darparwyr Gofal Plant ddiwedd Awst, roedd y rheolwr yn bresennol yn ein gweminar gefnogi, lle gwnaeth godi mater ynglŷn â’r cais ar-lein a ddarparwyd gan ei Hawdurdod Lleol. Codais y mater gyda’r Awdurdod Lleol, ac mae’n dda dweud iddyn nhw unioni’r sefyllfa.  Rydym yn parhau i gynorthwyo’r Twyn gydag unrhyw ymholiadau a fydd ganddyn nhw.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.