BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs - Clwb Gwyliau Oak Hill

Datblygu gofal gwyliau i blant ag anghenion cymhleth fel Sefydliad Corfforedig Elusennol

Ysgol arbennig a gynhelir gan yr Awdurdod Addysg Lleol yw Ysgol Bryn Derw; y mae’n addysgu plant a phobl ifanc 4-19 blwydd oed sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu cysylltiedig, yng Nghasnewydd. Mae’r ysgol wedi bod yn gefnogaeth fawr i’r plant a’r bobl ifanc ers ei hagor ym Medi 2017 ac maent wedi cael eu harchwiliad cyntaf gan Estyn, a’r canlyniadau, ‘Rhagorol’.

Yn 2019, dechreuwyd ar y cyfathrebu rhwng yr ysgol a Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ynglŷn â datblygu gofal plant ar y safle.  Er y cymerodd beth amser i sefydlu pa strwythur rheoli a fyddai fwyaf addas, gweithiodd y Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Busnesau Gofal Plant gyda’r ysgol a’r llywodraethwyr i gefnogi ffordd ymlaen.

Fe wnaeth ymgynghori â rhieni/gofalwyr yn yr ysgol wneud yn glir yr  angen am Ofal Plant Gwyliau. Er bod nifer o Glybiau gwyliau ar draws y sir sy’n gynhwysol ac sy’n anelu at fod yn hygyrch i’r holl blant, mae gan y plant sy’n mynychu’r ysgol hon anghenion cymhleth, ac mewn achos o’r fath mae angen cefnogaeth ychwanegol ac arbenigol, a dewis y rheini/gofalwyr oedd i’r gofal hyn gael ei ddarparu gan oedolion cyfarwydd mewn amgylchfyd cyfarwydd.

Yn nes ymlaen ym mlwyddyn ariannol 2019/20 financial year sefydlwyd pwyllgor, yn cynnwys aelodau o Fwrdd y Llywodraethwyr i gefnogi cydweithredu â’r ysgol. Mae’r Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant wedi gweithio’n agos â’r pwyllgor yma, gan gyflenwi sgiliau busnes pwrpasol drwy gydol y Pandemig, yn cynnwys sesiynau ‘dod o hyd i’r arian’  er mwyn dod o hyd i ariannu addas i gefnogi cynaliadwyedd, monitro, cadw cofnodion, datblygu polisïau a gweithdrefnau, marchnata, cynllunio busnes a recriwtio staff, a rhoi hyn ar waith. Mae’r sesiynau hyn wedi cael eu cyflenwi ar adegau sydd wedi bod yn gyfleus i’r pwyllgor, y tu allan i’r diwrnod 9-5pm yn rheolaidd, gan arddangos yr hyblygrwydd a ddangosir a sut y mae Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn frwdfrydig y tu hwnt ynghylch ateb anghenion y sector yr ydym yn ei gefnogi.

Yng nghanol y Pandemig yn Awst 2020, cefnogwyd y Clwb i gofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol er mwyn sicrhau bod atebolrwydd aelodau’r pwyllgor wedi’i ddiogelu.  Yn dilyn cefnogaeth sylweddol mewn datblygu polisi, ennill dealltwriaeth o’r rolau a chyfrifoldebau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol gan y Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant; a sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau’n adlewyrchu anghenion ychwanegol y plant a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth, cyflwynwyd cais i gofrestru’r gwasanaeth gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).  

Cynhaliodd Clwb Gwyliau Oak Hill sesiwn peilot (anghofrestredig) yn ystod mis Hydref 2020, a gafodd dderbyniad y tu hwnt o dda gan y plant a’r rheini/gofalwyr a 100% yn adrodd y byddent yn archebu lle yno i’w plentyn eto; 100% hefyd yn adrodd bod eu plentyn yn cael eu cefnogi’n dda. Llwyddwyd i gofrestru gydag AGC yng Ngwanwyn 2021, a olygodd fod hyd at  16 o blant ag anghenion cymhleth yng Nghasnewydd, fesul sesiwn, yn awr yn gallu cyrchu gofal plant o ansawdd, cofrestredig, gyda ffioedd fforddiadwy i rieni/gofalwyr sydd yn awr yn gallu cyrchu cefnogaeth ariannol tuag at gostau gofal plant.
 
Mae’r pwyllgor ar hyn o bryd yn cael ei gefnogi gan y Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant i ddatblygu strategaeth godi arian er mwyn cynllunio cynaliadwyedd y ddarpariaeth. Bydd hyn yn sicrhau nad yw’r gost ychwanegol a ddaw o ganlyniad i gymarebau staff uwch ac adnoddau arbenigol yn effeithio ar ffioedd gofal plant y rhieni. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.