BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Cronfa paratoi at y dyfodol

Croeso i Wiriwr Cymhwysedd y Gronfa Paratoi at y Dyfodol. Bydd yr offeryn hwn, sy'n hawdd ei ddefnyddio, yn eich arwain trwy nifer o gwestiynau syml i helpu i benderfynu a ydych yn gymwys i wneud cais i'r gronfa.

Bydd y gronfa'n darparu busnesau micro, bach a chanolig cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden:

  • Grant arian cyfatebol ar gyfer cyllid cyfalaf rhwng £5,000 a £10,000, ni fydd unrhyw gostau refeniw yn gymwys i gael cyllid
  • Mae'r grant i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl yn ystod y flwyddyn ariannol 2024 - 2025,
  • Bydd y grant yn cael ei fuddsoddi mewn mesurau i baratoi y busnes at y dyfodol.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni wrth wireddu arbedion cost, lleihau canran y costau sefydlog sy'n effeithio ar y busnes, neu gynyddu refeniw.

Gall cyfanswm costau'r prosiect fod yn unrhyw swm, ond ni all yr elfen grant gan Lywodraeth Cymru fod yn fwy na 75% o gostau cyfalaf cymwys y prosiect neu £10,000, p'un bynnag yw'r swm lleiaf. Bydd y busnes yn cyfrannu'r swm cyfatebol sy'n weddill o ffynonellau eraill. Ni chaiff ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw fath arall o grant neu gyllid gan unrhyw sefydliad sector cyhoeddus arall, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, fel arian cyfatebol yn erbyn y gronfa hon (h.y. ni ellir dyblygu cyllid sector cyhoeddus).

Mae pob dyfarniad a wneir drwy'r Gronfa Paratoi at y Dyfodol yn ddewisol ac nid oes proses apelio. Nid yw gwneud neu gyflwyno cais i'r gronfa yn gwarantu'r holl gyllid neu rywfaint o'r cyllid sydd ei angen arnoch.

Gwneir dyfarniadau drwy'r gronfa o dan y Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau ar gyfer Cymorth Ariannol Lleiaf [y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022)] a bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gadarnhau drwy ddatganiad wedi'i lofnodi na fydd unrhyw ddyfarniad a wneir drwy'r gronfa hon yn fwy na chyfanswm o £315,000 o Gymorth Ariannol Lleiaf a gronnwyd gan yr ymgeisydd/busnes dros y flwyddyn ariannol hon a'r 2 flynedd ariannol flaenorol.

Disgwyliwn y bydd yr alwad ar gyfer y gronfa gystadleuol hon yn agored ar gyfer ceisiadau ganol mis Mai am gyfnod o 3 wythnos neu hyd nes y bydd cyfanswm gwerth y ceisiadau a gyflwynir yn fwy na'r dyraniad cyllidebol. Defnyddiwch y gwiriwr cymhwysedd hwn i helpu i gasglu'r wybodaeth angenrheidiol ymlaen llaw.

Rhagwelir y bydd pob cais llwyddiannus yn cael ei hysbysu erbyn 31 Awst 2024.

Os cynigir dyfarniad, rhaid i ymgeiswyr gwblhau eu prosiect yn llawn a chyflwyno eu hawliad gyda'r dystiolaeth ofynnol o wariant sydd wedi'i dalu erbyn 28 Chwefror 2025. Anogwn ymgeiswyr i hawlio cyn gynted ag y bydd y prosiect wedi'i gwblhau.

Os oes gennych unrhyw broblemau hygyrchedd a allai eich atal rhag llenwi'r holiadur ar-lein canlynol, ffoniwch y llinell gymorth ar 03000 6 03000 neu edrychwch ar ein gwybodaeth am Gymunedau Digidol am gymorth. Fel arall, ewch ymlaen at yr offeryn a dilynwch y canllaw cam wrth gam syml.

Dechrau
A yw'r busnes wedi'i leoli yng Nghymru (naill ai ei bencadlys neu â chyfeiriad gweithredu yng Nghymru) ac yn cyflogi pobl yng Nghymru?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau
Y camau nesaf

Mae deunyddiau ar-lein Busnes Cymru ar gael i bawb ac maen nhw i'w gweld ar wefan Busnes Cymru.

Gwefan Cymorth Busnes Llywodraeth y DU.

Eithriadau

Mae Llywodraeth Cymru eisiau helpu i gefnogi cymaint o fusnesau â phosibl, ond mae rhai busnesau a gweithgareddau nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer y Gronfa Paratoi at y Dyfodol. Sylwch nad yw'r gweithgareddau canlynol yn gymwys ar gyfer y Gronfa Paratoi at y Dyfodol:

Nid yw'r rhestr yn hollgynhwysfawr ond mae'n cynnwys y canlynol yn benodol:

  • Gamblo a betio
  • Busnesau ag agenda grefyddol neu wleidyddol.
  • Lleoliadau neu wasanaethau adloniant rhywiol (clybiau dawnsio glin, stripwyr ac ati). Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi dim goddef tuag at Leoliadau Adloniant Rhywiol er mwyn lleihau casineb at fenywod ac aflonyddu a cham-drin seiliedig ar rywedd.
  • Gwystlwyr
  • Cyfnewidfeydd arian cyfred, gan gynnwys arian cyfred rhithwyr fel Bitcoin a Chryptoarian neu fusnesau asedau crypto, Busnesau Gwasanaethau Arian (MSB) – e.e. cyfnewidfa dramor a chredyd defnyddwyr neu fenthyca arian
  • Arfogaethau ac amddiffyn – gan gynnwys gweithgynhyrchu a / neu werthu gynnau, meysydd tanio, clybiau saethu
  • Banciau/Cymdeithasau Adeiladu – busnesau buddsoddiadau ariannol, benthyciadau, cyfnewidfa dramor neu fancio rheoleiddiedig neu anrheoleiddiedig
  • Gweithgareddau yswiriant/ailyswiriant
  • Cwmnïau metel sgrap didrwydded/rheoli gwastraff anghofrestredig
  • Cwmnïau Segur neu Goeg – cwmnïau anweithredol a ddefnyddir fel cyfrwng ar gyfer trafodion ariannol neu a gedwir yn segur er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
  • Gwasanaethau Clampio Olwynion
  • Hela anifeiliaid byw er difyrrwch
  • Gweithgynhyrchu tybaco, neu gynhyrchion sy'n cynnwys tybaco

A yw'ch busnes yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau uchod?

Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

A yw eich busnes yn gweithredu o eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £51,000 o 1 Ebrill 2024?

Bydd angen cyflwyno tystiolaeth fel rhan o gais.

Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Mae rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael yn y dolenni adnoddau isod.

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

A yw'ch busnes yn gweithredu yn un o'r sectorau isod?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau
A yw maint eich busnes yn perthyn i'r categorïau isod?
  • Micro, 1 i 9 o gyflogeion
  • Bach, 10 i 49 o gyflogeion
  • Canolig, 50 i 249 o gyflogeion

Gall hyn gynnwys perchennog y busnes.

Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Fe'ch cynghorwn i gysylltu â llinell gymorth Busnes Cymru a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch gwybodaeth, cymorth a chyngor arall.

Mae deunyddiau ar-lein Busnes Cymru ar gael ac maen nhw i’w gweld ar wefan Busnes Cymru.

Llinell Gymorth Busnes Cymru - Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Gwybodaeth am bris galwadau

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Mae gwybodaeth arall ar gael yn yr adnoddau ar-lein a restrir isod.

Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Banc Datblygu Cymru

Bwyd a Diod: Bwyd a Diod Cymru | Business Wales (gov.wales)

Twristiaeth: Twristiaeth | Busnes Cymru (llyw.cymru)

Ydych chi'n cyflogi pobl gan ddefnyddio Talu Wrth Ennill (TWE), a all gynnwys y Cyfarwyddwyr/Perchenogion?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Fe'ch cynghorwn i gysylltu â llinell gymorth Busnes Cymru a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch gwybodaeth, cymorth a chyngor arall.

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

A yw'r busnes wedi bod yn masnachu ers 1 Ebrill 2023 ac yn dal i fasnachu (a dystir gan gyfrifon ariannol o'r cyfnod ariannol diwethaf)?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth gan Lywodraeth Cymru ar gael yn y dolenni isod:

Gwefan Busnes Cymru

Canfyddwr Cyllid Busnes Cymru

A yw'r safle'n eiddo i'r busnes sy'n gwneud cais, neu ar les i'r busnes sy'n gwneud y cais, a dystir gan les safle ddyddiedig 1 Ebrill 2023 neu cyn hynny ac ymrwymiad sy'n ymestyn i o leiaf 1 Ebrill 2026?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth gan Lywodraeth Cymru ar gael yn y dolenni isod:

Gwefan Busnes Cymru

Canfyddwr Cyllid Busnes Cymru

A oes gan y busnes drosiant blynyddol o £50,000 o leiaf?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

A yw'r Ardrethi'n cael eu talu'n uniongyrchol gan y busnes i'r awdurdod lleol (h.y. mae busnesau landlordiaid yn unig wedi'u heithrio rhag gwneud cais i'r gronfa hon)?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

A yw'r cais am gyllid yn gofyn am swm rhwng £5,000 a £10,000 ac nid yw'r swm y gofynnir amdano'n fwy na 75% o gyfanswm costau cyfalaf cymwys y prosiect?

Sylwer: Fel rhan o'ch cais, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno tystiolaeth bod gennych yr arian cyfatebol yn ei le ar adeg gwneud y cais.

Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

A allwch gwblhau'r prosiect a hawlio cyllid â thystiolaeth ategol erbyn 28 Chwefror 2025 i warantu taliad grant?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

Gwneir dyfarniadau drwy'r gronfa o dan y Gyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau ar gyfer Cymorth Ariannol Lleiaf [y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022)] a bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gadarnhau drwy ddatganiad wedi'i lofnodi na fydd unrhyw ddyfarniad a wneir drwy'r gronfa hon yn fwy na chyfanswm o £315,000 o Gymorth Ariannol Lleiaf a gronnwyd gan yr ymgeisydd/busnes dros y flwyddyn ariannol hon a'r 2 flynedd ariannol flaenorol.

A ydych chi'n gallu cadarnhau na fyddai unrhyw ddyfarniad a wneir o dan y gronfa hon yn mynd â'r cyfanswm Cymorth Ariannol Lleiaf a gronnir gan yr ymgeisydd/busnes yn ystod y flwyddyn ariannol hon a'r 2 flwyddyn ariannol flaenorol i fwy na £315,000?

Bydd gofyn i chi lofnodi ffurflen hunanddatgan.

Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

A ydych chi'n gallu cadarnhau nad yw'r busnes wedi gwneud cais i unrhyw gynllun grant arall a ariennir yn gyhoeddus i dalu costau'r prosiect?
Dewisiwch un opsiwn
Parhau

Llinell Gymorth Busnes Cymru – Rhif ffôn: 0300 060 3000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 4pm (heblaw am wyliau banc)
Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Chwiliwch wefan Busnes Cymru am adnoddau eraill

Ymwelwch â'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) a chofrestrwch arno i gael cyrsiau ar-lein ar nifer o bynciau.

Mae'n bosibl y gallwch wneud cais am Grant gan Gronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru.