BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cynllun Gweithredu ar yr Economi

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi wedi cyhoeddi cam nesaf y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, a fydd yn cyflwyno'r Contract Economaidd, Galwad i Weithredu a’r Gronfa Dyfodol Economaidd. Bwriad y cynllun fydd ceisio tyfu ein heconomi ac y mae wedi cael ei ddatblygu i ddiwallu anghenion heddiw a pharatoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn y dyfodol.

Y Contract Economaidd

Y Contract Economaidd yw’r fframwaith ar gyfer creu perthynas newydd â busnesau sy’n gobeithio cael mynediad at gyllid, gan ei gwneud yn ofynnol ar fusnesau i ddangos eu bod wedi ymrwymo i dyfu, darparu gwaith teg, sicrhau iechyd a sgiliau gweithwyr a lleihau eu hôl troed carbon, gan adlewyrchu’r math o ymddygiad busnes y mae llawer o fusnesau llwyddiannus a chyfrifol yn eu harddel. 

Galw i Weithredu

Bwriad hyn yw helpu busnesau i baratoi ar gyfer y dyfodol ac addasu i’r heriau y gallant eu hwynebu. Ar gyfer Cymru, mae'r Galwadau i Weithredu hyn wedi’u dylunio i alluogi twf economaidd mwy cynhwysol drwy hyrwyddo cryfderau rhanbarthol a mynd i’r afael â heriau strwythurol.

  • datgarboneiddio
  • arloesi, entrepreneuriaeth a phencadlysoedd
  • allforio a masnach
  • cyflogaeth o ansawdd uchel, datblygu sgiliau a gwaith teg
  • Ymchwil a Datblygu, awtomatiaeth a digidoleiddio

Cronfa Dyfodol yr Economi

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pecyn cyllid wedi'i fireinio sy’n dod â chynlluniau cyllid presennol at ei gilydd mewn dull cyson, gan symleiddio’r broses ar gyfer busnesau a chaniatáu i Lywodraeth Cymru fod yn hyblyg o ran sut mae’n defnyddio'r adnoddau sydd ganddi i ddiwallu anghenion busnes, a chyflawni mewn perthynas â'r pwyntiau a amlygwyd yn y Contract Economaidd a’r Galwadau i Weithredu.

I gael rhagor o wybodaeth am Cynllun Gweithredu ar yr Economi, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

Gallwch weld y strategaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.