Rydym yn cefnogi busnesau deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch sy’n gweithio yn y meysydd canlynol:
- awyrofod ac amddiffyn
- technolegau modurol
- gweithgynhyrchu gwerth uchel
- diwydiannau sylfaen
Os ydy’ch busnes chi’n gweithio yn y meysydd uchod, mae’n bosib y gallwn eich helpu chi efo:
- cyngor ar fasnach ryngwladol
- cymorth arloesi
- help i gael hyd i adeiladau busnes newydd
- cyngor ar wella sgiliau eich gweithlu
- cyflwyno tendr am gontractau sector cyhoeddus a sector preifat
- gwneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ar-lein i dyfu eich busnes
Gallech fod yn gymwys ar gyfer ein cymorth ariannol, yn ddibynnol ar argaeledd
Mae’r Cyfeirlyfr Deunyddiau Gweithgynhyrchu Uwch yng ngogledd Cymru ar gael yma.
Dysgwch am Raglen Rheoli Darbodus Toyota
Caiff busnesau yn y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch dysgu mwy am Reoli Darbodus mewn cyfres o gyrsiau deuddydd yn Toyota, Glannau Dyfrdwy.
Bydd y cwrs yn dangos i arweinwyr sefydliadau sut i wireddu gwelliannau o ran diogelwch, ansawdd, cynhyrchiant a chost trwy ddefnyddio System Gynhyrchu Toyota (“y System”) ac Ymddygiadau Arweinyddiaeth Dull Toyota
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 03000 6 03000