BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Chwefror 2022

Mae’r diweddariad hwn i randdeiliaid yn casglu ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar y system Ardrethi Annomestig yng Nghymru. 

Y diweddaraf

Cyhoeddiadau o’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23

Ar ôl cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, cyhoeddwyd:

  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru’n cael rhyddhad ardrethi annomestig o 50% drwy gydol 2022-23. Yn yr un modd â’r cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, bydd cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru yn rhoi cap o £110,000 ar y rhyddhad a roddir i fusnesau unigol ar draws Cymru.
  • Bydd y lluosydd ardrethi annomestig wedi’i rewi ar 0.535 yng Nghymru ar gyfer 2022-23. Mae’r lluosydd yn rhan annatod o bennu biliau talwyr ardrethi. Bydd y penderfyniad hwn yn sicrhau, cyn i unrhyw ryddhad gael ei roi, na fydd cynnydd yn swm yr ardrethi y bydd busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn eu talu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2022-23

 

Yn dilyn cyhoeddiad y Gyllideb Ddrafft, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2022-23. Mae cynnwys cap o £110,000 ar y rhyddhad a roddir i bob busnes, ar draws Cymru, yn golygu na fydd awdurdodau lleol yn gallu cymhwyso’r rhyddhad yn awtomatig i filiau talwyr ardrethi. Bydd angen i fusnesau cymwys wneud cais i’w hawdurdod lleol am ryddhad a datgan nad yw cyfanswm y rhyddhad a hawlir gan awdurdodau ar draws Cymru yn fwy na £110,000.

Mynd i’r afael â thwyll ac osgoi talu ardrethi

Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o fesurau i fynd i’r afael â thwyll ardrethi annomestig ac osgoi talu ardrethi yng Nghymru. Rydym eisoes wedi rhoi nifer o’r rhain ar waith, gyda rhagor o newidiadau’n digwydd ym mis Ebrill 2022, neu wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn atgoffa rhanddeiliaid, yn dilyn ymgynghoriad, y daw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) 2021 i rym ar 1 Ebrill 2022. Mae’r rheoliadau’n mynd i’r afael â chamddefnyddio rhyddhad eiddo gwag, drwy ymestyn (o 6 wythnos i 26 wythnos) y cyfnod y mae’n rhaid i eiddo gael ei feddiannu cyn derbyn cyfnodau o ryddhad. Dylai awdurdodau lleol ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r system i adlewyrchu’r diwygiad hwn, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes.

Yn nes ymlaen eleni, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar weithredu mesurau pellach a gyhoeddwyd yn 2018, a fydd, o 1 Ebrill 2023, yn darparu’r canlynol:

  •  Rhwymedigaeth gyfreithiol newydd ar drethdalwyr i roi gwybod i’w hawdurdod lleol am unrhyw newid yn eu hamgylchiadau a fydd yn effeithio ar eu biliau ardrethi.
  • Pŵer newydd cyfreithiol i awdurdodau lleol wneud cais am wybodaeth gan dalwyr ardrethi a thrydydd partïon, i gynorthwyo awdurdodau i weithredu’r swyddogaeth o gyflwyno biliau a chasglu ardrethi. 

Ymgyngoriadau Ardrethi Annomestig

Mae’r ymgyngoriadau’n berthnasol i Gymru yn unig.

Rhestr ardrethi ganolog ar gyfer ailbrisio ardrethi annomestig 2023 – ar agor

Mae ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i’r rhestr ardrethi ganolog ar agor am ddeuddeg wythnos, o 21 Ionawr i 15 Ebrill 2022.

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid anfon unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: polisitrethilleol@llyw.cymru.

Mae’r diweddariad nesaf wedi’i gynllunio ar gyfer mis Ebrill 2022 (ar hyn o bryd).

Dolenni defnyddiol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.