BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Ebrill 2022

Mae’r diweddariad hwn i randdeiliaid yn casglu’r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar y system Ardrethi Annomestig yng Nghymru.

Y diweddaraf

Datganiad ar ddiwygio Ardrethi Annomestig

Ar 29 Mawrth, gwnaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad yn y Senedd, yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio Ardrethi Annomestig dros y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys ailbrisio’n amlach, gwella’r broses apelio a rhoi mesurau pellach ar waith i fynd i’r afael ag achosion o dwyll ac osgoi talu trethi, yn ogystal â pharhau i edrych ar y posibilrwydd o ddisodli ardrethi annomestig gyda threth gwerth tir yn y dyfodol. Mae trawsgrifiad llawn o’r ddadl a ddilynodd y datganiad ar gael ar wefan y Senedd.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2022-23 Relief scheme for 2022-23

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn derbyn rhyddhad ardrethi annomestig o 50% ar gyfer 2022-23 i gyd. Yn yr un modd â’r cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, bydd cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes ar draws Cymru. Mae hyn yn golygu na fydd awdurdodau lleol yn gallu pasio’r rhyddhad ymlaen yn awtomatig at filiau’r talwyr ardrethi. Bydd gofyn i fusnesau cymwys wneud cais i’w hawdurdod lleol am ryddhad, a datgan nad yw cyfanswm y rhyddhad sy’n cael ei hawlio gan awdurdodau ar draws Cymru yn fwy na £110,000.

Yn ychwanegol at ein canllawiau, mae awdurdodau lleol bellach yn derbyn ceisiadau am ryddhad ardrethi o dan y cynllun ar gyfer 2022-23. Rydym wedi cyhoeddi dolenni at y ffurflenni cais ar gyfer pob awdurdod lleol ar ein tudalennau gwe Busnes Cymru.
 

Meini prawf ar gyfer gosod llety hunanddarpar

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i’r meini prawf, i ddosbarthu eiddo sy’n darparu llety hunanddarpar fel eiddo annomestig, ac felly bod yn rhaid talu ardrethi annomestig arno yn hytrach nag ardrethi domestig arno, a bod yn rhaid talu’r dreth gyngor hefyd. Roedd y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys y rheini gan ymatebwyr sy’n cynrychioli’r diwydiant twristiaeth yn ehangach, yn dangos y gallai mwyafrif y busnesau hunanddarpar dilys gydymffurfio â gofynion gosod eiddo cynyddol.

Bydd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 (“Y Gorchymyn”) yn diwygio isafswm y cyfnod o amser y mae’n rhaid i eiddo gael ei osod mewn gwirionedd, a’i gynyddu o 70 o ddiwrnodau i 182 o ddiwrnodau, o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Bydd hefyd yn diwygio isafswm y cyfnod o amser y mae’n rhaid i eiddo fod ar gael i’w osod, a’i gynyddu o 140 o ddiwrnodau i 252 o ddiwrnodau.

Caiff y Gorchymyn ei wneud cyn gynted â phosibl a bydd y meini prawf diwygiedig yn gymwys i bob asesiad ar gyfer rhestr yr Ardrethi Annomestig, o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Mae ymgynghoriad technegol ar y Gorchymyn drafft ar agor tan 12 Ebrill 2022.

Mae’r meini prawf gosod eiddo yn gymwys i eiddo hunanddarpar yn unig, fel y’u dosberthir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Yr Asiantaeth hon sy’n gyfrifol am ddosbarthu eiddo annomestig yn seiliedig ar eu defnydd. Ceir dosbarthiadau niferus o fewn y categori defnydd eang, sy’n cynnwys gwestai, hostelau, tai llety, llety gwyliau hunanddarpar ac eraill. Nid yw eiddo na ddosberthir fel llety gwyliau hunanddarpar yn ddarostyngedig i’r meini prawf gosod y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn eu diwygio. Ni all Llywodraeth Cymru wneud sylwadau ar amgylchiadau unigol a dosbarthiad eiddo.
 

Ymgynghoriadau Ardrethi Annomestig 

Mae pob ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig.

Trethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar – crynodeb o ymatebion

Bu ymgynghoriad ar newidiadau posibl i drethi lleol, i helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar, yn rhedeg am 12 wythnos o 25 Awst i 17 Tachwedd 2021. Cafodd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ei gyhoeddi ar 1 Mawrth 2022.

Y rhestr ardrethi ganolog ar gyfer ailbrisio ardrethi annomestig 2023 – ar agor.

Mae ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i’r rhestr ardrethi ganolog ar agor am 12 wythnos, o 21 Ionawr i 15 Ebrill 2022.

Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 – ar agor 

Mae ymgynghoriad technegol ar Orchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ar agor am chwe wythnos, o 1 Mawrth i 12 Ebrill 2022. Bydd y ddeddfwriaeth sy’n gweithredu’r diwygiadau a gyhoeddwyd i’r meini prawf, i ddosbarthu eiddo sy’n darparu llety hunanddarpar fel eiddo annomestig, ac felly bod yn rhaid talu ardrethi annomestig arno, yn dod i rym o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Rhannu eiddo annomestig yng Nghymru at ddibenion prisio – ar agor.

Mae ymgynghoriad ar rannu eiddo annomestig at ddibenion prisio ar agor am 12 wythnos, o 9 Mawrth i 1 Mehefin 2022.
 

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn croesawu adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: localtaxationpolicy@gov.wales.

Bwriedir cyhoeddi’r diweddariad nesaf ym mis Gorffennaf 2022 (arfaethedig).

Dolenni defnyddiol:

Llywodraeth Cymru

Busnes Cymru

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Tribiwnlys Prisio Cymru 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Senedd Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.