Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar y system trethi annomestig yng Nghymru.
Y newyddion diweddaraf
Diwygio ardrethi annomestig
Ar 29 Mawrth, gwnaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad yn y Senedd, yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio ardrethi annomestig. Rydym wedi cymryd y cam nesaf yn y rhaglen ddiwygio drwy lansio ymgynghoriad ar amryw o gynigion a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i’r system ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys symud tuag at ailbrisiadau amlach, a’r mesurau y bydd eu hangen i'w rhoi ar waith, yn ogystal â gwelliannau ehangach i alluogi Llywodraeth Cymru i addasu'r system ardrethi annomestig yn well i ddiwallu anghenion Cymru.
Mae'r ymgynghoriad yn agored am 12 wythnos, tan 14 Rhagfyr 2022, ac anogir pob rhanddeiliad i roi eu barn ar y cynigion.
Ailbrisiad 2023
Mae paratoadau ar y gweill i gyflwyno rhestrau ardrethu newydd yng Nghymru, yn dilyn ailbrisiad, o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Mae ailbrisiad yn golygu bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu gwerth ardrethol pob eiddo annomestig ar bwynt penodol mewn amser Bydd pob eiddo annomestig yn cael gwerth ardrethol newydd, yn seiliedig ar amcangyfrif o’i werth rhent blynyddol ar 1 Ebrill 2021. Bydd yr Asiantaeth yn llunio ac yn cyhoeddi fersiwn ddrafft o’r rhestr ardrethu newydd erbyn diwedd 2022.
Cynhelir prosesau ailbrisio i gynnal tegwch yn y system ardrethi annomestig, drwy ailddosbarthu'r cyfanswm sy'n daladwy rhwng talwyr ardrethi, i adlewyrchu newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo. Mae hyn yn golygu, ar gyfer talwyr ardrethi unigol, nad y newid yng ngwerth ardrethol eu heiddo eu hunain yn unig fydd yn pennu eu hatebolrwydd o ran ardrethi annomestig. Bydd rhai talwyr ardrethi yn gweld eu bil yn cynyddu, bydd rhai yn gweld gostyngiad, ac efallai na fydd rhai yn gweld unrhyw newid, gan adlewyrchu newidiadau cymharol yn y farchnad eiddo ar draws y sylfaen drethu.
Cyfrifir biliau NDR drwy gymryd gwerth ardrethol eiddo a'i luosi â'r lluosydd ardrethi annomestig (cyn i unrhyw ryddhad gael ei gymhwyso). Bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau'r lluosydd, i sicrhau bod y refeniw cyffredinol o’r ardrethi annomestig yn cefnogi cyllid sefydlog ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus lleol ledled Cymru. Wrth inni baratoi ar gyfer ailbrisiad 2023, byddwn yn adolygu'r effaith ar y sylfaen drethu ac yn ystyried sut i ymateb.
Ceir rhagor o wybodaeth am ailbrisiad 2023 ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Hollti eiddo annomestig at ddibenion prisio
Yn y gorffennol, roedd unedau eiddo wrth ymyl ei gilydd, a oedd wedi’u meddiannu gan yr un trethdalwr ac yn cael eu ddefnyddio at yr un pwrpas, yn cael un bil ardrethi annomestig. Newidiodd dyfarniad gan y Goruchaf Lys yn 2015 yr arfer hwn, gan effeithio ar nifer fach o dalwyr ardrethi. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y gyfraith wedi ei newid i adfer yr arfer a oedd yn bodoli cyn y dyfarniad. Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022 wedi cael eu gwneud yn gyfraith a byddant y dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Diwygio’r broses apelio
Mae ein cynlluniau ar gyfer diwygio ardrethi annomestig yn cynnwys ailbrisiadau amlach. Mae gwella’r broses apelio yn allweddol er mwyn galluogi hynny. Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd manylion y newidiadau, a fydd yn sail i fabwysiadu platfform digidol a ddarperir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar deddfwriaeth ddrafft i weithredu'r newidiadau
Yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym wedi cadarnhau y byddwn yn bwrw ymlaen â’r newidiadau. Bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 yn cael eu gwneud yn gyfraith yn gynnar yn 2023, i gyd-fynd â’r rhestr ardrethu newydd.
Mynd i’r afael â thwyll ac osgoi talu ardrethi
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nifer o fesurau i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi talu ardrethi, yn dilyn ymgynghoriad yn 2018. Un o'r mesurau hyn oedd cyflwyno pŵer cyfreithiol newydd i awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth gan dalwyr ardrethi a thrydydd partïon sy'n darparu gwasanaeth mewn perthynas ag eiddo, i gefnogi eu rôl wrth anfon biliau a chasglu ardrethi annomestig. Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar ddeddfwriaeth ddrafft i weithredu'r mesur hwn yn gynharach eleni.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym wedi cadarnhau y bydd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022 yn cael eu gwneud yn gyfraith yn ddiweddarach eleni gan ddod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Ymgynghori ar Ardrethi Annomestig
Mae pob un o’r ymgyngoriadau’n berthnasol i Gymru’n unig.
Diwygio trethi annomestig yng Nghymru – ar agor
Mae ymgynghoriad ar amryw o gynigion ar gyfer diwygio ardrethi annomestig dros weddill tymor y Senedd ar agor am 12 wythnos, o 12 Medi i 5 Rhagfyr 2022.
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2023 – crynodeb o'r ymatebion
Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2023 am 12 wythnos, o 24 Mehefin i 16 Medi 2022. Bydd y ddeddfwriaeth yn gweithredu mesurau i helpu i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi talu ardrethi annomestig, drwy alluogi awdurdodau lleol i ofyn am wybodaeth gan drydydd partïon i gefnogi eu rôl wrth anfon biliau a chasglu ardrethi annomestig.
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 – crynodeb o'r ymatebion
Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 drafft am 12 wythnos, o 19 Gorffennaf i 11 Hydref 2022. Bydd y ddeddfwriaeth yn gweithredu diwygiadau i’r broses apelio ar gyfer ardrethi annomestig, o 1 Ebrill 2023 ymlaen.
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022 – crynodeb o'r ymatebion
Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022 drafft am chwe wythnos, rhwng 4 Awst a 16 Medi 2022. Bydd y ddeddfwriaeth yn nodi pryd y bydd dwy neu ragor o unedau eiddo yn cael eu trin fel un at ddibenion prisio.
Rhagor o wybodaeth
Rydym yn croesawu adborth gan randdeiliaid ar y diweddariad hwn. Anfonwch unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: polisitrethilleol@llyw.cymru
Bwriedir cyhoeddi’r diweddariad nesaf ym mis Ionawr 2023 (amodol).
Dolenni defnyddiol:
Llywodraeth Cymru
Busnes Cymru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tribiwnlys Prisio Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Senedd Cymru