Welsh Construction Homepage banner

Fforwm Adeiladu Cymru: "Adeiladu Cymru Well a Gwyrddach"  


Sefydlwyd Fforwm Adeiladu Cymru yn ystod haf 2020 gan ddwyn ynghyd ffigurau blaenllaw o'r sectorau preifat a chyhoeddus ar draws diwydiant adeiladu Cymru ynghyd â phartneriaid cymdeithasol Cymru, i gefnogi Cymru i "adeiladu'n ôl yn well" tuag at ddyfodol di-garbon gwyrddach.

Mae'r Fforwm, a gyd-gadeirir gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd a Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wrthi'n adolygu ei weithgareddau blaenoriaeth ar gyfer 2022/23.

Gan adeiladu ar egwyddorion Rhaglen Lywodraethu a Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sector adeiladu i helpu economi Cymru i ffynnu, mae'r Fforwm yn seiliedig ar egwyddorion cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae hefyd yn ffordd o gefnogi busnesau bach a chanolig, tyfu'r economi sylfaenol a datblygu'r busnesau a'r sgiliau carbon isel sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol, gan roi i fusnesau Cymru yn y sector amlygrwydd llif gwaith a sicrwydd y taliadau sydd eu hangen i dyfu'n hyderus, parhau i gyflogi a hyfforddi pobl, a symleiddio'r broses o wneud cais am waith yn y sector cyhoeddus.

I gael rhagor o wybodaeth neu fanylion am sut y gallwch gyfrannu at waith y Fforwm, cysylltwch ag Ed Evans, Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru (ed.evans@cecawales.co.uk ) neu Leighton James (leighton.james@llyw.cymru ) 

Sut mae'r Fforwm yn gweithredu?
Beth mae'r Fforwm wedi'i gyflawni?
Beth yw blaenoriaethau'r Fforwm?