BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Busnes Cymru Sesiynau Arbenigol: Gofal Plant

Yn cyflwyno Sesiynau Arbenigol Gofal Plant Busnes Cymru; dwy sesiwn a fydd yn archwilio sialensiau cyflogi pobl a datblygu busnes yn y sector gofal plant.

Yn ystod pob sesiwn, bydd ein harbenigwyr yn cynnig cyngor a chymorth ac yn rhannu eu profiadau eu hunain i'ch helpu chi i oresgyn y sialensiau hyn a datblygu cwmni gofal plant cadarnach.

Gwyliwch y sesiynau isod ac yna lawrlwytho ein pecyn adnoddau sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth ar gyfer busnesau gofal plant i’ch galluogi i gymryd camau cadarnhaol i roi newid ar waith yn eich busnes chi.



Mae yna lawer o wahanol strwythurau y gall busnesau gofal plant eu mabwysiadu i’w helpu i dyfu a gweithredu’n gynaliadwy. Gwrandewch ar Graeme Dow yn esbonio pam fod Elemental Adventures wedi dod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) a sut mae wedi elwa eu busnes:

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Gallwn hefyd gynnig sesiynau cyngor un i un, felly, os ydych chi'n cael eich ysbrydoli gan yr hyn rydych yn ei wylio, cysylltwch â’r tîm i drefnu'ch sesiwn rhad ac am ddim gydag un o’n hymgynghorwyr busnes arbenigol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.