Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a Hŷn


Mae'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer Pobl 25 oed a Hŷn yn grant refeniw sy'n galluogi unigolion sy’n economaidd anweithgar ac unigolion di-waith sydd yn 25 oed a Hŷn i ddechrau busnes yng Nghymru, a bydd yn targedu unigolion sy'n wynebu rhwystrau rhag dechrau busnes a'r farchnad gyflogaeth yn benodol.

Mae grant hyd at £2,000 ar gael i helpu unigolion gyda chostau hanfodol dechrau'r busnes. 

Y meini prawf cymhwystra ar gyfer y grant yw:

  • Rydych chi'n economaidd anweithgar neu’n ddi-waith 
  • Eisiau dechrau busnes hunangyflogedig yng Nghymru

I ddechrau ar y broses ymgeisio, bydd angen i ymgeiswyr gwblhau dogfen mynegi diddordeb, a rhaid dychwelyd y ddogfen wedi'i chwblhau at Barriers2SUG@BusinessWales.org

Ar ol cael cymeradwyaeth, cewch gynnig gweminarau meithrin hyder a chymorth un-i-un cyn dechrau arni, er mwyn lleihau'r rhwystrau rhag dechrau eich busnes.  Bydd ymgynghorwyr Busnes Cymru hefyd yn cynorthwyo ceisiadau ac yn cynnig cyngor, arweiniad a chymorth, yn ogystal â chael mynediad at gymorth dechrau busnes ychwanegol.

Bydd Busnes Cymru yn arfer disgresiwn wrth ddyfarnu’r grant yn seiliedig ar y dystiolaeth o angen a amlinellir yn yr achos busnes a'r cais.

Diolch am eich diddordeb yn y Grant Rhwystrau Rhag Cychwyn Busnes. Fel y gwyddoch efallai, mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth am ddim i’ch helpu i ddatblygu eich syniad yn fusnes newydd. Yn ddiweddar mae’r Grant Rhwystrau Rhag Busnes wedi bod yn rhan o elfen ariannol y pecyn hwn o gymorth ac oherwydd galw uchel iawn, mae’r grant wedi ymrwymo yn llawn ar hyn o bryd ac nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd. 

Rydym yn parhau i gynnig y gwasanaeth cychwyn busnes am ddim ac os hoffech drafod syniad busnes/eich syniadau cychwyn busnes, cysylltwch ag un o dîm Busnes Cymru ar 03000 6 03000 i drafod sut y gall Cynghorwr Busnes helpu i drefnu’r camau nesaf i gyrchu’r cymorth hynod werthfawr hwn. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.