Resource Efficiency Banner CY

Sesiynau gan Arbenigwyr Busnes Cymru: Y Weledigaeth Werdd


Dyma gyflwyno Cyfarfodydd Gweledigaeth Werdd Busnes Cymru; wyth sesiwn sy'n cynnwys siaradwyr arbenigol yn rhannu eu gwybodaeth, yn edrych ar effeithlonrwydd adnoddau ac ystyried sut allwn eich helpu chi i fynd ati i leihau eich effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Gellir lanlwytho pecynnau adnoddau pwnc ar gyfer bob sesiwn, fel eich bod chi'n gallu deall sut allwch gymryd camau cadarnhaol i ysgogi newid o fewn eich busnes. 

Os oes gennych chi Weledigaeth Werdd sy'n anelu at fod yn garbon Sero Net yn y dyfodol, dyma'r gyfres i chi. 

Gallwn hefyd gynnig sesiynau cyngor un i un. Felly, os ydych chi'n cael eich ysbrydoli gan yr hyn rydych yn ei wylio, cysylltwch  â'r tîm i drefnu'ch sesiwn am ddim. Fel rhan o'r sesiynau hyn, bydd ymgynghorwyr arbenigol yn eich helpu i lunio'ch Gweledigaeth Werdd, a chymryd camau rhagweithiol at ddod yn fusnes sy'n fwy effeithlon o ran adnoddau.

 

Astudiaeth Achos

Gwyddom fod gwella cynaliadwyedd a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd yn dda ar gyfer busnes, ein cymunedau, a'n hamgylchedd, ond peidiwch â chymryd ein gair ni'n unig. Gwrandewch ar yr hyn sydd gan fusnesau llwyddiannus i'w ddweud, a dysgwch fwy am y camau maen nhw wedi'u cymryd i ddod yn fwy cynaliadwy:

Visible Art
Greenstream Flooring
Ministry of Furniture