BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gwobrau Arloesi Myfyrwyr

Mae disgyblion ifanc arloesol o Gymru sy’n dylunio ac yn creu cynnyrch newydd cyffrous yn cael cynnig cyfle i gael patent swyddogol am ddim ar eu dyfeisiadau; mewn proses sydd fel arfer yn cymryd blynyddoedd ac yn costio miloedd o bunnoedd.

Beth yw'r Gwobrau Arloesi?

Mae’r Gwobrau Arloesedd, sef menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r corff dyfarnu CBAC, yn annog pobl ifanc sy’n astudio TGAU, Safon Uwch neu sydd mewn coleg addysg bellach i ddefnyddio eu sgiliau i greu cynnyrch newydd lle mae bylchau yn y farchnad defnyddwyr.

Yn y categori Eiddo Deallusol, mae rhestr fer yn cael ei chreu o’r ymgeiswyr fydd yn cael cyfle i wneud cais am batent ar gyfer eu dyfeisiad ac i weithio gydag Abel + Imray, cwmni o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn patentau, nodau masnach a chyfraith dylunio yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a ledled y byd. Mae ganddo swyddfa yng Nghaerdydd gyda chyfreithiwr patent dwyieithog. 

Hawlfraint ar Eiddo Deallusol cofrestredig yw patent sy’n cael ei roi ar ddyfeisiad gan lywodraeth. Mae patent yn rhoi’r hawl i atal rhywun arall rhag gwneud, gwerthu, defnyddio, mewnforio neu gadw’r dyfeisiad mewn gwlad sydd wedi rhoi patent iddo. Mae’r broses, o wneud cais am batent i gael y patent ei hun, yn gallu cymryd blynyddoedd, a gall y ffioedd cyfreithiol amrywio o ryw £5,000 i ddegau o filoedd o bunnoedd. Un o gyn-enillwyr y Wobr Eiddo Deallusol oedd disgybl ysgol a greodd mecanwaith oedd yn cau gatiau’n dawel. Roedd dyluniad yn addasu’r mecanwaith sy’n cael ei ddefnyddio i gau cypyrddau cegin i’w ddefnyddio gyda gatiau mawr allan ar y fferm  rhag iddynt gau’n glep tu ôl i dda byw ac ar gerbydau ar y fferm.

Gwnaeth Abel + Imray neilltuo twrnai i’r myfyriwr a llwyddwyd i gyhoeddi’r patent o fewn pum mis. Heb gymorth a chefnogaeth gyfreithiol arbenigol, mae pobl yn aml yn ei chael hi’n anodd cael patent, a gall gymryd blynyddoedd lawer.

Wrth siarad am ei gwaith diweddar gyda’r Gwobrau Arloesedd, meddai Peri Jones, Cyfreithiwr Patent Ewropeaidd yn Abel + Imray LLP:

Mae annog gyrfaoedd STEM yn rhan o’n diwylliant yn Abel + Imray, ac mae ein cwmni wedi bod yn ymwneud â’r Gwobrau Arloesedd ers blynyddoedd. Roedd yn brofiad gwych gweithio gyda’r disgybl i ddeall y dyfeisiad a’i helpu i ysgrifennu a chyflwyno cais am batent. Ar y pryd, roeddwn yn gyfreithiwr patent dan hyfforddiant. Bonws ychwanegol oedd fy mod i a’r disgybl yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac roedden ni’n gallu gweithio yn y Gymraeg gyda’n gilydd.

Mae’r ddyfais cau gatiau’n dawel yn enghraifft dda iawn o ble mae disgybl wedi edrych ar broblem bywyd go iawn a dod o hyd i ateb. Mae hyn yn fesur gwych o’r angen am amddiffyniad patent, gan fod angen i ddyfais fod yn newydd ac yn ddyfeisgar, ymhlith gofynion eraill. 

Yn gyffredinol, gall gymryd blynyddoedd i geisiadau am batent symud i’r cam ‘caniatáu patent’. Fodd bynnag, yn achos y gwobrau hyn, rydyn ni’n ceisio cyflymu’r broses gwneud cais os medrwn, fel bod y disgybl, gobeithio, yn cael rhywfaint o waith papur gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (UK IPO) cyn symud ymlaen i brifysgol neu brentisiaeth. Gwnaethom gyfarfod gyda’r myfyriwr a chyflwyno cais am batent. Mae’n bleser gen i nodi y dyfarnwyd patent ar sail y cais.

Mae’r Gwobrau Arloesedd yn helpu i feithrin diwylliant o arloesedd yng Nghymru sy’n hanfodol er mwyn creu swyddi a thyfu economi Cymru, yn ogystal â chyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae angen i bobl, busnesau, sefydliadau academaidd, ysbytai, ysgolion, y sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru ei hun, i gyd fod yn fwy arloesol er mwyn ffynnu mewn byd cystadleuol, ac mae’r Gwobrau Arloesedd yn rhan o’r ymgyrch honno.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.