Amdanom ni
Mae’r Hwb Menter Wrecsam yn brosiect Busnes Cymru a gyflwynir gan dîm 'Town Square'. Mae'r ganolfan yn lle cyffrous i fusnesau a'r gymuned ddod ynghyd mewn amgylchedd creadigol a chydweithredol i ddatblygu a thyfu eu syniadau, gan greu cymuned o entrepreneuriaid i hybu'r economi leol. Gyda chymorth ac arweiniad arbenigol, nod y ganolfan yw bod yn gatalydd ar gyfer mynd i'r afael â materion byd-eang ar lefel leol.
Does ddim ots pa gam o'r daith rydych chi at neu beth yw'ch maes diddordeb penodol, bydd y tîm yn sicrhau bod digwyddiadau rheolaidd yn rhedeg i helpu eich busnes i dyfu a ffynnu.
Mae ymuno â'n cymuned yn rhoi ichi:
- gwagle desg i gydweithio
- ardaloedd cyfarfod
- mynediad i'r rhyngrwyd
- trin post
- mynediad i ddigwyddiadau rheolaidd i gefnogi datblygiad a thwf eich busnes
- amgylchedd hwyliog, ymgysylltu a chynhyrchiol
Caiff mynediad i'r ganolfan a'r digwyddiadau eu hariannu'n llawn, gan ddileu un rhwystr ariannol i wneud eich busnes yn llwyddiant.
Rydym yn edrych am yr ugain person nesaf i ymuno a’n cymuned ni. Fe fyddwch yn derbyn cefnogaeth, mynediad i’n gofod gwaith a siawns i fod yn rhan o’n cymuned unigryw. Ein cenhadaeth yw helpu gweithwyr llawrydd, sylfaenwyr a pherchnogion busnes i dyfu mentrau llwyddiannus a cynaliadwy. P'un a ydych wedi newydd gael syniad neu wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd ond yn ceisio ailffocysu, ymunwch a ni o fewn Hwb Menter Wrecsam. Ymgeisiwch nawr neu cysylltwch â 03000 6 03000.
Oriau Agored Hwb
8.30 y.b - 6 y.p Dydd Llun i Ddydd Gwener
9 y.b – 12 y.p Dydd Sadwrn
Cyfeiriad
Hwb Menter Wrecsam
11-13 Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AT