BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol

Mae Cronfa Paratoi at y Dyfodol newydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2024 a bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2025. Bydd y gronfa yn darparu cymorth grant o arian cyfatebol i gynorthwyo busnesau i ddiogelu swyddi a datblygu busnesau yng Nghymru. Bydd yn darparu cyllid cyfalaf rhwng £5,000 a £10,000 i fusnesau micro, bach a chanolig cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden i fuddsoddi mewn mesurau i ddiogelu eu busnes yn y dyfodol.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd ar gyfer casglu gwybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu at y diben hwn.  

Beth yw’r Sail Gyfreithlon dros brosesu?

Caiff eich data personol eu prosesu fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Pa wybodaeth bersonol byddwn ni’n ei phrosesu?

Bydd angen i ni gasglu a phrosesu eich enw llawn, enw eich busnes, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn a'ch gwybodaeth ariannol. Bydd hyn yn cael ei gasglu ar-lein drwy'r broses ymgeisio a bydd gwybodaeth ariannol yn cael ei chyflwyno drwy e-bost. 

Mae'r mathau canlynol o wybodaeth bersonol yn fwy sensitif (data categori arbennig) byddwn yn casglu data am ryw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, ethnigrwydd, os yn Siaradwr Cymraeg a blwyddyn geni gan fod angen prosesu'r data hyn fel y gallwn sicrhau y gellir bodloni eich gofynion penodol: cyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol.

Pam mae angen prosesu’ch data personol?

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion gwirio cymhwysedd ar gyfer grant Cronfa Paratoi ar y Dyfodol yn ôl yr angen. Ar ôl i'r grant ddod i ben ym mis Ionawr 2026 byddwn yn gofyn i fuddiolwyr y gronfa gymryd rhan mewn Arolwg Effaith.

Byddwn yn defnyddio'r data i gynnal gwiriadau eraill gan gynnwys rhif TAW, Cyfeirnod Cwsmer gyda Thŷ'r Cwmnïau, data Adroddiad Creditsafe, a data o unrhyw grant arall gan Lywodraeth Cymru i wirio a ydych wedi cydymffurfio ag amodau'r dyfarniadau hynny neu a ydych mewn dyled i Lywodraeth Cymru? 

Am ba hyd y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod o 10 mlynedd yn unol â'r canllawiau ar gyfer Rheoli Cymorthdaliadau i fusnesau.

A fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu ag eraill?

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda chontractwyr trydydd parti a fydd yn gweithio ar ein rhan i werthuso a gwneud argymhellion i swyddogion Llywodraeth Cymru ar y prosiectau sy'n gymwys ar gyfer Cronfa Paratoi at y Dyfodol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhestr o enwau a symiau derbynwyr y grant ar ei gwefan unwaith y bydd y dyfarniadau wedi'u talu. 

Eich hawliau

O dan GDPR y DU mae gennych yr hawliau isod:

  • I weld copi o'ch data eich hun; 
  • I ofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol);
  • I'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol); ac
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Gwybodaeth Gyswllt

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. 

Gwefan: https://ico.org.uk/ 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data: 

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. 

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.