BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd – Ffurflen gofrestru rhyngwyneb cyhoeddus System Cyfrifon Busnes

Cafodd y rhybudd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Mai 2018.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Llywodraeth Cymru, ac yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym ni wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.  Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw. Cymerwch ychydig amser er mwyn ymgyfarwyddo eich hun â’n hymarferion preifatrwydd.

 

1Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data sy’n cael eu casglu

Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd Data’r data personol rydych chi’n eu darparu ar Ffurflen Gofrestru Rhyngwyneb Cyhoeddus y System Cyfrifon Busnes. Yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod sydd wedi’i ymddiried ynom, caiff y data eu defnyddio i’ch adnabod chi ac i ddarparu’r cymorth mwyaf priodol i chi gan ein gwasanaethau. Bydd llenwi’r ffurflen gofrestru hon yn arwain at broses ddilysu fewnol i gadarnhau pwy ydych chi yn erbyn cofnodion cyswllt ar y System Cyfrifon Busnes. Ar ôl cwblhau’r dilysu’n llwyddiannus, byddwch yn gallu gweld y manylion perthnasol am eich cymorth sydd wedi’u cofnodi ym mas data’r System Cyfrifon Busnes. Hefyd mae mynediad i’r system yn eich galluogi i lenwi a chyflwyno ffurflenni digidol ar-lein ar gyfer cymorth busnes a cheisiadau am grantiau, a byddwch yn gallu llofnodi cofnodion cadarnhau cymorth busnes yn ddigidol.

 

2. Pwy fydd yn gallu gweld eich data: 

  • Bydd y data hyn yn cael eu rhannu gyda sefydliadau sydd wedi’u contractio gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cymorth busnes a noddir gan Lywodraeth Cymru yn unig, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gennym am eich busnes.

  • Bydd timau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu gweld yr wybodaeth a chesglir.  Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.  

  • Bydd cyfran o’r data cofrestru sy’n cael eu casglu’n cael ei throsglwyddo i fas data Sign On Cymru a bydd hyn yn galluogi i’r data cyffredin sy’n cael eu casglu gan geisiadau cymorth busnes eraill Llywodraeth Cymru gael eu diweddaru’n awtomatig gyda’ch gwybodaeth ddiweddaraf. Dim ond os ydych chi’n cofrestru ar eu cyfer drwy broses gofrestru Sign On Cymru fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i geisiadau cymorth busnes eraill Llywodraeth Cymru. Nid yw bas data Sign On Cymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddibenion cyfathrebu â chi neu sefydliadau eraill.

3Am ba mor hir caiff eich manylion eu cadw

Caiff eich manylion eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru fel rhan o’n hadolygiadau ansawdd a’n hyfforddiant parhaus. Os byddwch yn derbyn cymorth sy’n cael ei weinyddu gan raglen a gyllidir gan yr UE, bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw tan 2030 fel rhan o'r rheoliadau a orfodir gan yr Undeb Ewropeaidd. Efallai y caiff eich manylion eu cadw at ddibenion archwilio hefyd.

 

4Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:

  • gael mynediad at eich data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi

  • ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw

  • wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) prosesu neu gyfyngu ar brosesu

  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)

  • gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Cyswllt y Cwsmeriaid

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Swydd Caer

SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

Ar gyfer cael help gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â’n Llinell Gymorth Busnes Cymru os gwelwch yn dda ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

 

5. Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru.  Gall y wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu ar ein cyfer fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd.  Byddwn ni’n ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

 

6Newidiadau i’r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud rhai newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg.  Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac maen nhw’n dod i rym yn syth.    Pan mae newidiadau i’r polisi hwn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi gyda’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.

Ar gyfer gwybodaeth bellach ynglŷn â’ch hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:

Swyddog Gwarchod Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost:  dataprotectionofficer@llyw.cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.