BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd – Ffurflen Gofrestru'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein

Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 14 Mai 2018.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut caiff eich data personol eu prosesu’n deg ac yn gyfreithlon, ac mewn ffordd dryloyw. Cymerwch funud i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data sy’n cael eu casglu

Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd Data y data personol rydych chi’n eu darparu ar Ffurflen Gofrestru'r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS). Yn unol â’n tasg gyhoeddus, caiff y data eu defnyddio i’ch adnabod chi ac i ddarparu’r cymorth mwyaf priodol i chi gan ein gwasanaethau. Mae'r wybodaeth gofrestru sy’n cael ei chasglu yn eich galluogi chi i ddefnyddio'r swyddogaethau a’r cyrsiau ar-lein sydd ar gael ar lwyfan BOSS. Yn dibynnu ar ba fath o ddefnyddiwr ydych chi, caiff gwybodaeth wahanol ei chasglu a bydd gwahanol nodweddion ar gael.

Y Proseswyr Data ar gyfer Cyswllt Ffermio yw Menter a Busnes a Lantra, contractwyr trydydd parti sy’n darparu'r Rhaglen Cyswllt Ffermio.

2. Pwy fydd yn gallu gweld eich data:

  • Efallai y caiff y data hyn eu rhannu â sefydliadau sy’n cael eu contractio gan Lywodraeth Cymru dim ond i ddarparu cymorth busnes, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yng nghyswllt cynnwys cyrsiau’r Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein a ddarperir drwy wasanaeth BOSS.
  •  Bydd timau gwasanaeth Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol ei system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu gweld yr wybodaeth a chesglir. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.  

O ran defnyddwyr sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir gan Busnes Cymru, mae’r canlynol yn gallu gweld y data:

  •  Timau mewnol Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru
  •  Consortiwm Busnes Cymru sy’n darparu cymorth busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru
  •  Consortiwm Excelarator sy’n darparu cymorth busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru

O ran defnyddwyr sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir gan Cyswllt Ffermio, mae’r sefydliadau canlynol, sy’n cael eu contractio gan Lywodraeth Cymru dim ond i ddarparu'r Rhaglen Cyswllt Ffermio, yn gallu gweld y data:

  • Menter a Busnes
  • Lantra
  • A’r is-gontractwyr trydydd parti o’u dewis

Bydd y data personol ar y ffurflen hon yn gallu cael eu gweld gan Dimau Archwilio, Tîm Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a Thîm Archwilio'r Comisiwn Ewropeaidd; bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio dim ond i ddilysu gweinyddiaeth y Rhaglen Cyswllt Ffermio.

Caiff y data personol ar y ffurflen hon eu rhannu â’r asiantaethau canlynol at ddibenion darparu ymyriadau a gwasanaethau Cyswllt Ffermio:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
  • Hybu Cig Cymru
  • Adrannau eraill Llywodraeth Cymru

Caiff y data ar y ffurflen hon eu rhannu â chontractwyr sy’n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru i gynnal cyfweliadau neu arolygon gyda chyfranogwyr presennol a chyn-gyfranogwyr, fel rhan o werthusiadau ffurfiol o raglenni sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y contractwyr yn cysylltu â sampl o gysylltiadau. Efallai y byddant yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi gymryd rhan mewn gwerthusiad o’ch profiad personol o weithgaredd dysgu. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, bydd diben y cyfweliad neu'r arolwg yn cael ei egluro i chi a byddwch yn cael dewis a ydych chi am gymryd rhan neu beidio. Bydd y contractwyr yn defnyddio eich manylion dim ond at ddibenion cynnal y gwerthusiad, ac yn eu defnyddio’n unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Caiff eich manylion eu dileu pan fydd y contract gwerthuso’n dod i ben.

Bydd modd i Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru weld y data personol ar y ffurflen hon at ddibenion ymchwil, dadansoddi ystadegol (lle na fydd modd adnabod unigolion), monitro cyfleoedd cyfartal a llunio adroddiadau data cyfunol a fydd ar gael yn gyhoeddus ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru.

3. Am ba mor hir caiff eich manylion eu cadw

Caiff eich manylion eu cadw ar ein systemau yn unol â’r polisi cadw sy’n gysylltiedig â’ch math o ddefnyddiwr ac fel rhan o’n hadolygiadau ansawdd a’n hyfforddiant parhaus. Efallai y caiff eich manylion eu cadw at ddibenion archwilio hefyd.

O ran defnyddwyr sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir gan Busnes Cymru, dyma’r polisi cadw:

  • Os yw’r data’n gysylltiedig â chymorth wedi’i ariannu gan yr UE, gellir eu cadw tan 2030
  • Os yw’r data’n gysylltiedig â chymorth gwladwriaethol gellir eu cadw am 10 mlynedd
  • Gellir cadw'r holl ddata eraill am 2 flynedd at ddibenion gwella hyfforddiant ac ansawdd mewnol.

O ran defnyddwyr sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir gan Cyswllt Ffermio, mae’r datganiad canlynol yn berthnasol:

Fel sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth data, rydym yn dilyn gweithdrefnau diogelwch llym wrth storio a datgelu gwybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni. Caiff eich manylion eu cadw ar ein system yn unol â pholisi cadw’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn mynnu bod data’n cael eu cadw am 3 blynedd ar ôl gwneud y taliadau terfynol o dan y rhaglen. Caiff eich manylion eu cadw tan 31 Rhagfyr 2026 ar y cynharaf. Lle nodir anghysondebau, caiff manylion eu cadw am 3 blynedd ar ôl y flwyddyn pan fydd yr holl arian yn cael ei adennill. Pan na fydd angen cadw eich gwybodaeth arnoch mwyach, byddwn yn sicrhau y cânt eu gwaredu’n ddiogel yn unol â Pholisi Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru.

4. Eich hawliau.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn eu dal amdanoch chi
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (mewn rhai amgylchiadau)
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Cyswllt Cwsmeriaid

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Swydd Caer

SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

I gael cymorth gydag unrhyw o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 neu ddefnyddio'r ffurflen cysylltu â ni.

5. Eich Gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, gall y cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei dal gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn cysylltu â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

6. Newidiadau i’r polisi hwn

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff y newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Os bydd y polisi hwn yn newid, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i nodi yn eich cyfrif er mwyn caniatáu i chi adolygu’r fersiwn newydd.

I gael mwy o wybodaeth am sut bydd Menter a Busnes a Lantra yn prosesu eich data personol ar ran Cyswllt Ffermio

Cyfeiriad post:

Menter a Busnes

Uned 3

Parc Gwyddoniaeth

Aberystwyth

SY23 3AH

Lantra Cymru

Maes Sioe Frenhinol Cymru

Llanelwedd

Llanfair ym Muallt

Powys

LD2 3WY

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.