BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd - Ffurflen Pecyn Cymorth Brexit Busnes Cymru

Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 5 Gorffennaf 2018.


Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu’n deg ac yn gyfreithlon, ac mewn ffordd dryloyw.


Rhowch funud neu ddau i ddod yn gyfarwydd â’n harferion preifatrwydd.


1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data sy’n cael eu casglu
Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd Data’r data personol rydych chi’n eu darparu ar Ffurflen Pecyn Cymorth Brexit Busnes Cymru. Pwrpas casglu’r data hyn yw rhoi adroddiad sylfaenol i chi ar baratoi ar gyfer y Deyrnas Unedig yn cwblhau proses Brexit. Hefyd efallai y defnyddir yr wybodaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru a’i chontractwyr i gysylltu â chi ynghylch y gefnogaeth bellach sydd ar gael yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi ar y ffurflen hon. 
Drwy gymryd rhan gyda’r Pecyn Cymorth a llenwi'r ffurflen rydych yn cydnabod y gall aelodau o dimau cefnogi Llywodraeth Cymru gysylltu â chi ynghylch gwasanaethau neu raglenni a all fod o fudd i’ch busnes yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi.  Nid yw derbyn yr amodau hyn yn gosod unrhyw rwymedigaeth arnoch chi i ymwneud ymhellach â Llywodraeth Cymru.


2. Pwy fydd yn gallu gweld eich data: 
Bydd Llywodraeth Cymru a’i thimau cymorth sy’n cael eu contractio, yn ogystal â gweinyddwyr technegol ei system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu gweld yr wybodaeth a chesglir.  Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.  


3. Am ba mor hir y caiff eich manylion eu cadw
Caiff eich manylion eu cadw ar y systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 3 blynedd fel rhan o’n hadolygiadau ansawdd ac archwilio a’n hyfforddiant parhaus.


4. Eich hawliau.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data mae gennych hawl i’r canlynol:

  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru’n eu cadw amdanoch chi
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (o dan rai amgylchiadau)
  • ‘dileu’ eich data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

I gael cymorth gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 neu ddefnyddio'r ffurflen cysylltu â ni.

 

5. Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth Chi

O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, gall y cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei dal gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn cysylltu â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

 

6. Newidiadau i’r polisi hwn

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff y newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Os bydd newidiadau’n digwydd i amodau hysbysiad preifatrwydd y polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i nodi yn eich cyfrif er mwyn rhoi cyfle i chi adolygu’r fersiwn newydd.

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth

Cyfeiriad post:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost:   DataProtectionOfficer@gov.wales

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.