BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd - Grantiau Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru - Gweinyddir gan Awdurdodau Lleol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o gynlluniau grant i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, mwy llewyrchus. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli data yr ydych yn ei ddarparu ar gyfer eich cais am grant neu eich cais am gyllid grant.  Caiff yr wybodaeth ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (sef ymarfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn helpu i asesu a ydych yn gymwys ar gyfer cyllid.   

Cyn inni ddarparu cyllid grant ichi, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i sicrhau pwy ydych. Mae’r gwiriadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol inni brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru.   

Os ydym ni, neu asiantaeth atal twyll neu Awdurdod Lleol, yn penderfynu eich bod yn risg o ran twyll neu wyngalchu arian, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod y cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu mae’n bosibl y byddwn yn rhoi’r gorau i ddarparu cyllid grant yr ydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd ichi. 

Bydd cofnod o unrhyw risg o ran twyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan ein asiantaethau atal twyll o fewn Awdurdodau Lleol, a gallai olygu bod eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, eich cyllido neu eich cyflogi.    

Ar ôl cyflwyno cais neu ddyfarnu unrhyw grant, gellir gofyn am y data a gesglir yn ystod y broses a'i drosglwyddo'n ddiogel i asiantaethau eraill y llywodraeth fel rhan o unrhyw wiriadau twyll sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r ymgeisydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i werthuso llwyddiant y grant hwn a bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddadansoddi pwy sy’n cael grantiau, ac effaith y grantiau ar fusnesau yng Nghymru. 
Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu a’i chadw gan Lywodraeth Cymru o fewn eu cylch gwaith fel y rheolwr data, er mwyn rhoi cymorth parhaus neu ragor o gyfleoedd neu unrhyw gyfeirio a allai fod o fudd ichi. 

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cynnwys:

Enwau unigol, enw busnes, cyfeiriad,  cyfeiriad IP,  manylion banc, gwybodaeth gyswllt (gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost) Rhyw, Hil neu Darddiad Ethnig, Anabledd, dewis iaith ac oedran.  

Rhannu’r data

Ar gyfer y cynllun penodol hwn, bydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Byddant yn darparu ffurflen gais i chi, yn gwirio'ch cymhwysedd i dderbyn y taliad ac yn gwneud y taliad. Byddant yn cadw eich ffurflen gais at ddibenion archwilio ac yn darparu eich manylion chi a manylion y taliadau a wnaed i Lywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru fydd yn berchen ar y data.  Gallai Llywodraeth Cymru neu unrhyw drydydd person sy’n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru gysylltu â chi (y cleient) at ddibenion y gwaith ymchwil a gwerthuso hwn i roi adborth am eich profiad o’r prosiect.  Bydd yr holl wybodaeth hon yn cael ei dadansoddi a’i chyflwyno’n ddi-enw.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol sydd mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw.  Os yn llwyddiannus yn eich cais yna caiff eich data personol ei gadw am 7 mlynedd ac wedi’r dyddiad hwnnw byddwch chi, fel derbynydd y grant, yn rhydd o bob amod sy’n gysylltiedig â’r grant sy’n cael ei ddyfarnu a phob taliad sydd wedi’i wneud.  Fodd bynnag, os cafodd y grant ei roi o dan yr Eithriad Bloc Cyffredinol neu De Minimus, caiff eich data personol ei gadw am 10 mlynedd wedi talu unrhyw gyllid.  Os nad ydych yn llwyddiannus, caiff eich manylion eu cadw am flwyddyn wedi’r dyddiad a roddwyd gennych.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at ddata personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • ei gwneud yn ofynnol inni gywiro camgymeriadau yn y data hwnnw
  • I wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu
  • I’ch data gael ei ‘ddileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • I gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr diogelu data annibynnol

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch a’r defnydd ohono, neu os ydych am ddefnyddio eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data: 
Llywodraeth Cymru Parc Cathays CAERDYDD CF10 3NQ
Cyfeiriad E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru
 
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: 
Wycliffe House Water Lane Wilmslow Cheshire SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk  
 

Diweddarwyd ddiwethaf 15 Mehefin 2021.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.