BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Lleihau gwastraff ac arbed arian

Pob dydd mae busnesau yng Nghymru’n taflu elw i ffwrdd yn llythrennol oherwydd y
gwastraff a gynhyrchir ganddynt. Nid yw llawer o fusnesau’n sylweddoli faint o effaith a gaiff
hyn ar eu helw. Nid yw eraill yn gwybod at bwy i droi i gael cyngor ymarferol cyfrinachol i’w helpu i wneud defnydd gwell o’u hadnoddau. Bydd gwell dealltwriaeth o’r hierarchaeth
gwastraff yn eich helpu i wybod pa gamau y gellir eu cymryd i wneud defnydd mwy effeithlon o’ch adnoddau. Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddeall pa fesurau y gallwch
eu cymryd yn seiliedig ar yr hierarchaeth gwastraff a fydd yn eich helpu i ganfod arbedion
cost. 

Yr Hierarchaeth Gwastraff

Mae Erthygl 4 o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff Ddiwygiedig yr UE (WFD Directive 2008/98/EC) yn amlinellu pum cam i ddelio â gwastraff yn nhrefn blaenoriaeth. Mae’r camau hyn yn sail i’r hierarchaeth gwastraff ac maent yn dangos trefn y blaenoriaethau i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â’r adnoddau a ddefnyddiwyd a’r gwastraff a gynhyrchwyd gan eich busnes. Y pum cam yw:

  • atal gwastraff (dim gwastraff – dim problem!)
  • paratoi gwastraff i’w ailddefnyddio – ailddefnyddio, adnewyddu neu ddefnydd newydd
  • ailgylchu – didoli deunydd ailgylchu yn y tarddiad
  • adennill arall – e.e. bwyd gwastraff i dreuliwr anaerobig i gynhyrchu ynni 
  • gwaredu – safleoedd tirlenwi 

Deall pa wastraff rydych yn ei gynhyrchu

Oni bai eich bod yn gwybod yn union pa wastraff rydych yn ei gynhyrchu nid allwch fabwysiadu camau i ddefnyddio’r hierarchaeth gwastraff, lleihau gwastraff ac arbed arian.
Dechreuwch trwy gerdded o gwmpas eich safle ac edrychwch pa eitemau o wastraff sydd mewn sgipiau a biniau. Siaradwch â’r sawl sy’n gyfrifol am wagio biniau’ch swyddfa neu weithdy i ganfod ble mae’r ffrydiau gwastraff mwyaf yn cael eu cynhyrchu. Siaradwch â’ch rheolwr cyllid neu reolwr swyddfa i gael manylion am y costau sy’n gysylltiedig â gwaredu ac ailgylchu gwastraff. Dylai hyn roi syniad i chi o faint o ddeunydd sy’n cael ei gynhyrchu ac wedyn faint ohono sy’n cael ei anfon i gael ei waredu neu ei ailgylchu.

Os nad yw’r niferoedd ar gael yna bydd yn rhaid i chi ddatblygu proses i fonitro dros gyfnod penodol i gael cofnod manwl. 

Pan fyddwch yn gwybod faint o wastraff a gynhyrchir gennych a faint mae’n ei gostio bydd angen i chi ganfod ffyrdd i leihau maint y gwastraff. Gall ymarferion mapio eich helpu i ganfod y prif feysydd a’r gweithgarwch sy’n cynhyrchu fwyaf o wastraff yn eich sefydliad. Gall gwastraff y gellir ei osgoi fod o ganlyniad i un neu ragor o’r problemau canlynol:

  • gweithlu – hyfforddiant, cyfarwyddiadau ac arweiniad annigonol i staff ar osgoi cynhyrchu gwastraff
  • dulliau – dim gweithdrefnau ysgrifenedig nac arwyddion i staff eu dilyn i alluogi didoli ac ailgylchu 
  • deunyddiau – manylebau is y deunyddiau crai’n arwain at fwy o fethiannau, colledion
  • peiriannau – yn torri’n aml, newid drosodd neu gyfnodau ‘cynhesu’

Dilynwch fodiwl hyfforddiant ar-lein BOSS ar gyfer arweiniad cam wrth gam i ganfod ac ailgylchu gwastraff.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.