BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Contract Diwylliannol​ - Atodiad B

Atodiad B

1. Cyfeiriad at y contract diwylliannol ar y ffurflen gais

Bydd angen i chi ymrwymo i egwyddorion y contract diwylliannol.

 

2. Cyfeiriad at gontract diwylliannol yn y llythyr cynnig grant

Gofynion monitro

Mae'n rhaid i chi:

(a) darparu unrhyw ddogfennau, gwybodaeth ac adroddiadau y gallwn eu gofyn yn rhesymol o bryd i'w gilydd amdanynt er mwyn i ni fonitro eich cydymffurfiaeth â'r Amodau gan gynnwys:         

i) Cyn pen 12 mis ar ôl i'r taliad gael ei wneud, rhaid i'r sefydliad fod wedi dangos ymrwymiad i bedair colofn Contract Diwylliannol Llywodraeth Cymru.     

 

3. Cyfeiriad at y contract diwylliannol mewn unrhyw ganllaw / gwybodaeth ategol ar y wefan:

 

Y Contract Diwylliannol

Mae'r Contract Diwylliannol yn adeiladu ar Gontract Economaidd Llywodraeth Cymru, sy'n rhan o “Ffyniant i Bawb - Cynllun Gweithredu ar yr Economi” Llywodraeth Cymru ac wedi'i gynllunio i alluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu perthynas newydd a chryfach gyda sefydliadau ac i sbarduno twf cynhwysol ac ymddygiadau cyfrifol, gan gynnwys cynyddu argaeledd gwaith teg a datgarboneiddio. Mae'n golygu bod cwmnïau sy'n derbyn cefnogaeth yn ymrwymo i ddull rhywbeth am rywbeth sydd wedi'i adeiladu'n gadarn ar egwyddorion cydweithredu.

Bydd y contract diwylliannol yn gofyn i sefydliadau a gefnogir trwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol ddangos ymrwymiad i bedair egwyddor:

  • Potensial twf
  • Gwaith Teg
  • Hybu iechyd, gan gynnwys pwyslais arbennig ar iechyd meddwl, sgiliau a dysgu yn y gweithle
  • Cynnydd o ran lleihau ôl troed carbon

Bydd y contract diwylliannol yn edrych ar y penawdau hyn trwy lens diwylliannol a chreadigol, a bydd yn cymhwyso'r egwyddorion mewn ffordd gymesur a hyblyg sy'n cyd-fynd â'r amgylchiadau a'r amodau unigryw yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol.

Bydd yn ystyried meysydd fel:

  • Amrywiaeth a chynhwysiant Byrddau Sector - rhywedd, iaith Gymraeg, cynrychiolaeth BAME etc
  • Staff wrth gefn i gefnogi mentrau ehangach ee gwasanaeth olrhain i gefnogi Profi, Olrhain, Diogelu
  • Rhagnodi cymdeithasol
  • Cefnogi mentrau iechyd a'r celfyddydau
  • Cydnerthedd hinsawdd

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.