BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Mae Lleihau Gwastraff yn Gwneud Synnwyr Ariannol

Trwy ddefnyddio adnoddau’r Ddaear fel na fyddant yn cael eu niweidio nac yn cael
eu dihysbyddu i genedlaethau’r dyfodol, gallwn leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Bydd canfod a gweithredu mesurau effeithlonrwydd adnoddau ym meysydd ynni, gwastraff a dŵr, yn golygu y gallwn greu mwy, ond gan ddefnyddio llai.

Mae effeithlonrwydd adnoddau’n awr yn bwysicach nag erioed er mwyn galluogi’r DU i ymgyrraedd at economi carbon isel, gwastraff isel a chynaliadwy. Gall pob un ohonom ymddwyn yn gyfrifol i ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym yn ddoethach. Gall defnyddio llai o ddeunyddiau crai leihau’r perygl o brinder deunyddiau, arbed arian, hybu arloesedd a chydnerthedd, a helpu eich busnes i gyrraedd marchnadoedd newydd.

Gall lleihau faint o wastraff a gynhyrchir trwy ddefnydd mwy effeithlon o adnoddau a thrwy ailgylchu gwell dorri costau, gwella cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a hyd yn oed gynhyrchu refeniw. Efallai y bydd busnesau sy’n didoli eu gwastraff yn gweld eu bod yn gallu lleihau eu costau casglu a gwaredu sbwriel.

Mae gan sefydliadau ledled Cymru y potensial i wneud arbedion sylweddol trwy ddefnyddio adnoddau fel dŵr, ynni a deunyddiau craidd yn fwy effeithiol. Mae modd cyflawni cyfran sylweddol o'r arbedion hyn drwy gymryd camau am ddim neu fawr ddim cost.

Bydd gwella eich effeithlonrwydd adnoddau yn:

  • lleihau eich gorbenion ac yn cynyddu eich elw
  • eich helpu i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
  • hybu eich delwedd ymhlith cwsmeriaid, cyflogeion a’r gymuned leol, a 
  • gwella eich gweithle a’r amgylchedd lleol

Gwir gost gwastraff

Mae gwir gost gwastraff yn cynnwys gwerth deunyddiau pan gawsant eu prynu, a all fod 5 i 20 gwaith yn fwy na chost eu gwaredu. Wedi ei gynnwys hefyd yng ngwir gost gwastraff mae costau cudd fel llafur, amser ac ynni yn ogystal â chostau gwaredu’r eitem ar ddiwedd ei hoes. Meddyliwch am y rhesymau sydd wrth wraidd ‘pam’ yr ydym yn cael gwared ar bethau i helpu i atal gwastraff. Gall lleihau gwastraff eich helpu i leihau cost a maint y deunyddiau craidd a brynir.

Dylech anelu at atal, neu leihau neu ailddefnyddio gwastraff fel blaenoriaeth cyn ailgylchu’n unol â’r hierarchaeth gwastraff.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.