Marchnata a TG
Rydym ni wrthi'n adolygu'r tudalennau Marchnata a TG, a byddwn yn rhoi diweddariad pellach cyn hir. Yn y cyfamser, dyma'r dolenni i'n cynnwys TG a Marchnata:
Marchnata
Porwch drwy amrywiaeth o ganllawiau a ffeithlenni sy'n ymwneud â marchnata ac ymchwil y farchnad
Beth yw Marchnata?
Beth rydych chi'n ei werthu?
Adnabod eich cwsmer
Y lle iawn a'r amser iawn
Hyrwyddo eich busnes
Cynllunio ymarferol ar gyfer marchata
Gwerthu er mwyn llwyddo
Cael eich cwsmer cyntaf
Ymchwil y farchnad
Beth yw ymchwil marchnad?
Deall eich marchnad
Pwy yw'r gystadleuaeth
Adnabod eich cwsmer
Mathau o ymchwil marchnad
Cynllunio a defnyddio'ch ymchwil marchnad
Mewngofnodwch i wasanaeth cymorth busnes ar-lein BOSS i weld ystod o gyrsiau gan gynnwys:
Adnabod eich cwsmeriaid
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
• Nodi pwy yw'ch cwsmeriaid delfrydol.
• Deall ystod o gymhellion prynu cwsmeriaid.
• Deall anghenion darparu gwasanaeth eich cwsmeriaid a sut i'w diwallu.
Marchnata eich busnes newydd
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
• Deall beth yw neges farchnata effeithiol.
• Cydnabod y cyfleoedd i hyrwyddo eich busnes gan ddefnyddio technegau marchnata traddodiadol a digidol.
Creu presenoldeb ar-lein
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
• Deall pwysigrwydd presenoldeb ar-lein ar gyfer eich busnes.
• Adnabod y gwahanol lwyfannau ar gyfer presenoldeb ar-lein eich busnes.
• Cydnabod gwahanol nodweddion a manteision llwyfannau ar-lein.
Hanfodion ymchwil y farchnad
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
• Deall sut y gall ymchwil effeithiol i'r farchnad gyfrannu at eich busnes.
• Nodi'r 3 maes allweddol sydd i'w cynnwys yn eich gweithgareddau ymchwil i'r farchnad.
• Cynllunio'r gweithgareddau ymchwil i'r farchnad sydd eu hangen i gefnogi'ch busnes.
• Cydnabod ffynonellau allweddol o ddata a gwybodaeth am y farchnad.
Sefydlu eich brand
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
• Deall beth yw brand a beth mae'n ei olygu i'ch busnes.
• Elfennau gwahanol brand.
• Pwy sy'n bwysig i'ch brand a pham.
• Sut mae bod yn wahanol yn gallu bod o fantais gystadleuol enfawr ym myd busnes.
TG
Seiberddiogelwch ar gyfer sefydliadau bach (NCSC)
Y pum pwnc y byddwch yn ymdrin â nhw yw:
• Gwneud copi wrth gefn o ddata eich sefydliad
• Diogelu rhag maleiswedd
• Creu cyfrineiriau cryf
• Cadw eich dyfeisiau'n ddiogel
• Amddiffyn rhag gwe-rwydo
Seiberddiogelwch: Awgrymiadau da i staff (NCSC)
Y pum pwnc y byddwch yn ymdrin â nhw yw:
• Gwneud copi wrth gefn o ddata eich sefydliad
• Diogelu rhag maleiswedd
• Creu cyfrineiriau cryf
• Cadw eich dyfeisiau'n ddiogel
• Amddiffyn rhag gwe-rwydo
GDPR
Yn y cyflwyniad hwn i'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, byddwn yn trin a thrafod:
• Trosolwg o'r cysyniadau sylfaenol.
• Amlinelliad o'r prif feysydd newid.
• Dealltwriaeth o gydsyniad o dan GDPR.
• Adolygiad o hawliau gwrthrych data gan gynnwys ceisiadau gwrthrych am wybodaeth.
• Adolygiad o asesiadau o'r effaith ar breifatrwydd data a swyddogion diogelu data.
• Crynodeb o'r gwaith o adrodd achosion o dor-diogelwch data a’u gorfodi.
Cyflymu Cymru i Fusnesau
Mae technoleg ar-lein yn helpu busnesau'r genedl i wneud newidiadau bach sy'n cynnig manteision mawr. Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yma i'ch helpu i ddechrau arni. Cofrestrwch am gymorth digidol nawr Cymorth digidol i fusnesau yng Nghymru | Busnes Cymru - Cyflymu Cymru i Fusnesau (llyw.cymru)
Gweithdai busnes am ddim Cyrsiau ar-lein am ddim - Busnes Cymru - Cyflymu Cymru i Fusnesau (llyw.cymru)