
Mae Innovate UK a’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol yn estyn gwahoddiad i fusnesau wneud cais am gyfran o hyd at £14 miliwn naill ai i ddatblygu prototeipiau o dechnolegau cwantwm neu i sefydlu ymarferoldeb technegol neu’r farchnad
Mae gan dechnolegau cwantwm y potensial i wella dulliau delweddu a chyfrifiadura yn sylweddol.
Nod y gystadleuaeth yw annog prosiectau ymchwil a datblygu ac astudiaethau dichonolrwydd ar y cyd a fydd naill ai’n:
-
datblygu dyfeisiadau prototeip ac arddangosyddion technolegau cwantwm neu dechnolegau sy’n rhan ohonynt; neu’n
-
gwella dealltwriaeth o’r heriau a wynebir o ran y farchnad, busnes a thechnoleg wrth gyflwyno dyfais neu wasanaeth newydd i’r farchnad
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner dydd 29 Mawrth 2017. Rhaid i’r holl gynigion fod yn rhai cydweithredol ac mae’n rhaid i arweinydd y prosiect fod yn fusnes sy'n seiliedig yn y DU.
Am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth ewch i wefan GOV.UK