BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwletin y Cyflogwr CThEF: Rhagfyr 2023

barber with client

Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.

Mae rhifyn mis Rhagfyr o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:

  • Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, Dull Cydymffurfio Daearyddol - cymorth i gyflogwyr
  • talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025
  • rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) - cyfle i oedi setliad
  • helpu i wirio a yw gwaith yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’ch dyletswyddau pensiwn gweithle
  • Dewisiadau Gofal Plant - helpu teuluoedd i jyglo gwaith a bywyd

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.   

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen hon: Rhifyn mis Rhagfyr 2023 o Fwletin y Cyflogwr - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.