Newyddion

Caffael ar gyfer Rhaglen Subsea Soundscape (S3)

Sea and waves, Pembrokeshire beach

Mae hysbysiad tendro newydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer Rhaglen Subsea Soundscape (S3) gan Celtic Sea Power Limited.

Ar gyfer y prosiect mae angen caffael unedau angori ar y môr sydd â recordwyr acwstig datblygedig a systemau samplu amgylcheddol i'w defnyddio yn y Môr Celtaidd. Mae'r contract yn werth £303,000 (heb TAW) ac amcangyfrifir y bydd yn rhedeg rhwng 21 Ebrill ac 1 Awst 2025.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud ymholiadau yw 12pm ar 24 Mawrth 2025 a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau yw 12pm ar 31 Mawrth 2025.

Cyfeiriad cyflwyno ac unrhyw gyfarwyddiadau arbennig: Rhaid i Gynigwyr ac Is-gontractwyr Allweddol gofrestru ar y Llwyfan Digidol Canolog a llwytho gwybodaeth am eu sefydliad. Rhaid gwneud hyn cyn y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r tendr.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: The Subsea Soundscape (S3) Program Procurement - Find a Tender

Mae GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth ac yn borth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru ac i helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro. I ddarganfod mwy ac i gofrestru, dewiswch y ddolen ganlynol: GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.