Mae Deddf Amaeth gyntaf erioed Cymru bellach yn gyfraith, ar ôl derbyn y Cydsyniad Brenhinol heddiw (17 Awst 2023).
Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn allweddol i gefnogi ffermwyr a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy am genedlaethau i ddod.
Prif ffynhonnell cymorth y Llywodraeth i ffermwyr yng Nghymru, ar sail y Ddeddf, fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gynigir. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pwerau sydd eu hangen ar Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth yn y dyfodol i ffermwyr a sicrhau bod cefnogaeth ar gael iddynt dros gyfnod pontio, gan adlewyrchu ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Mae’n paratoi’r ffordd hefyd ar gyfer gwahardd maglau a thrapiau glud. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i’w gwahardd yn llwyr.
Mae’r Ddeddf yn cynnig llwybr i ffermwyr tenant ddatrys anghydfodau ac yn sicrhau nad oes cyfyngiadau annheg arnynt rhag manteisio ar y cymorth ariannol.
Y mae hefyd yn diwygio Deddf Goedwigaeth 1967 i roi’r pwerau i Cyfoeth Naturiol Cymru ychwanegu amodau er mwyn newid, atal neu ddiddymu trwyddedau cwympo all fynd yn groes i ddeddfwriaeth amgylcheddol arall.
Bydd hefyd yn rhoi pwerau newydd yn lle’r rheini yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddoleni ganlynol: