BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Cysylltiedig: Arweiniad technegol i gyflenwyr

procurement - laptop, electronic symbols - shopping trolley

Mae cyfraith caffael cyhoeddus yn newid yn dilyn cyflwyno Deddf Caffael 2023 a'r Rheoliadau cysylltiedig newydd y bwriedir iddynt fod yn weithredol ar 24 Chwefror 2025.

Os ydych yn fusnes sy'n cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i chi wybod am y newidiadau hyn a'n cynlluniau i baratoi rhanddeiliaid i'w rhoi ar waith.

Bydd y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn trawsnewid y ffordd y mae awdurdodau contractio Cymru yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith, gan ddod ag ystod o fuddion i gyflenwyr, gan gynnwys: 

  • Platfform digidol canolog
  • Gwelededd cynlluniau caffael
  • Prosesau symlach ar gyfer cyflwyno cynigion
  • Gweithdrefnau hyblyg
  • Fframweithiau masnachol hyblyg
  • Dyletswydd i ystyried BBaChau
  • Talu'n brydlon

Bydd y newidiadau hyn yn ysgogi arloesedd, yn cyflawni canlyniadau gwell ac yn ymgorffori tryloywder drwy gydol y cylch oes masnachol, fel y gall pawb gael mynediad at ddata caffael a gweld sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

Er nad yw'r Ddeddf Caffael yn llywodraethu cyflenwyr yn uniongyrchol mewn gwirionedd, ei nod yw ei gwneud yn haws i chi wneud busnes gyda'r sectorau cyhoeddus a chyfleustodau, felly mae angen i chi ddeall beth mae'n ei olygu i'ch sefydliad.

Cliciwch ar y doleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: 

GwerthwchiGymru - gwerthu i'r sector cyhoeddus

Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd i'ch busnes ddarparu nwyddau, gwaith neu wasanaethau i'r sector cyhoeddus, naill ai trwy gontract uniongyrchol neu drwy ddod yn is-gontractwr: GwerthwchiGymru - gwerthu i'r sector cyhoeddus | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.