Mae hyd at £1 miliwn ar gael i ariannu busnesau, sefydliadau trydydd sector neu’r byd academaidd i weithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu datrysiadau arloesol ar gyfer lleihau cynhyrchion untro.
Thema’r her:
- Dylunio er mwyn lleihau gwastraff – ailddychmygu cynhyrchion a ddefnyddir yn y sector cyhoeddus fel eu bod yn cael eu dylunio o’r cychwyn cyntaf i alluogi ailddefnyddio mwy effeithiol, a lleihau gwastraff, a lleihau costau oes gyfan
- Cadw gwerth ar gyfer ailddefnyddio – galluogi ‘gwastraff’ presennol i gael ei addasu at ddibenion gwahanol, gan echdynnu’r gwerth a galluogi ailddefnyddio yng Nghymru er mwyn lleihau’r defnydd o ddeunyddiau crai, ac o bosibl, i gefnogi cynhyrchu refeniw
Cynhaliwyd Digwyddiad Briffio ar-lein ar 16 Tachwedd am y cyfle ariannu hwn. Dewiswch y ddolen ganlynol i weld y recordiad: https://youtu.be/dL7FqGvI59s
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 Ionawr 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Circular Economy in the Welsh Public Sector | SBRI Centre of Excellence (simplydo.co.uk)