Mae ffotoneg – sy’n cynnwys meysydd fel opteg, optoelectroneg, ffotofoltäeg, technoleg laser a meysydd defnydd amrywiol – yn farchnad gyffrous sy’n newid yn gyflym, lle mae cynnyrch, technoleg a defnyddiau yn cael eu cyflwyno’n barhaus.
Mae Fforwm Optoelectroneg Cymru yn gweithio gyda CPE, SPARC II ac ASTUTE 2020 i gydlynu’r digwyddiad hwn, a fydd yn dangos sut caiff ffotoneg ei defnyddio yn y byd go iawn a lle mae technolegau yn effeithio ar fusnesau heddiw.
Bydd digon o gyfleoedd i rwydweithio drwy gydol y diwrnod, ac i ddilyn bydd trafodaethau o amgylch y bwrdd am sut caiff ffotoneg ei defnyddio yn y byd go iawn.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei gynnal ar 5 Mawrth 2020 yn y Ganolfan OpTIC, Llanelwy.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Eventbrite.